Branwen Ferch Llŷr (Tegla)/Y Tylwyth Teg

Oddi ar Wicidestun
Cartrefi'r Hen Gymry Branwen Ferch Llŷr (Tegla)

gan Edward Tegla Davies

Yr hen dduwiau a duwiesau

Y Tylwyth Teg.

DULL arall o ddyfod o hyd i'w hanes yw gwrando ar hen draddodiadau sydd wedi eu hadrodd o genhedlaeth i genhedlaeth ers oesoedd, yn enwedig traddodiadau am fodau nad ydynt yn y byd yn awr, megis tylwyth teg a chewri. Nid dychymyg gwag pobl a roddodd fod i'r tylwyth teg a'r cewri. Buont yng Nghymru unwaith, ond bod y stori sydd gennym amdanynt dipyn yn wahanol i fel y digwyddodd. Yn ymyl y coed y soniais amdanynt y mae llyn dwfr, ac y mae amryw draddodiadau gan hen bobl yr ardal am y llyn hwnnw,—llyn Cororion. Dywedir bod bachgen o fugail unwaith yn bugeilio defaid yn ymyl y llyn, ac iddo weld merch ieuanc—un o'r tylwyth teg-yn dyfod allan o'r llyn gan gerdded tuagato. Yr oedd wedi ei swyno gan ei phrydferthwch, a gofynnodd iddi, ar ei union, i'w briodi. Addawodd hithau ar un amod, na tharawai ef hi â haearn. Priodasant a buont fyw ynghyd yn hir. Ond un diwrnod ar ddamwain cyffyrddodd ef hi â haearn. Rhedodd hithau ymaith yn syth a diflannodd yn y llyn.

Ai chwedl ddi-sail yw honyna? Dim byd o'r fath. Mewn corsydd a llynnoedd y trigai rhai canghennau o'r hen Gymry. Deuthum i a'm cyfaill o hyd i amryw o'r hen gartrefi y soniais amdanynt mewn cors a elwir Cors Ty'n y Caeau. Eu rheswm dros fyw yn y gors oedd na ellid dyfod o hyd iddynt ond gan rywun a adwaenai lwybrau culion y gors yn dda. Pe deuai gelyn yno na wyddai am y gors, yn enwedig os deuai yn y nos, suddai dros ei ben yn y gors. Ac am yr un rheswm y trigai eraill yn y llynnoedd,— bod yn ddiogel rhag eu gelynion. Gwthient bolion i'r llyn, â'u pennau allan o'r dwfr. Adeiladent eu cartrefi ar bennau'r polion hyn, ac aent yn ôl ac ymlaen iddynt ar hyd math ar ysgol a ellid ei thynnu i fyny pan fyddai perygl. A chan fod y llyn dwfr o'u hamgylch, byddent yn lled ddiogel yno rhag gelyn ac anifail gwyllt.

Ac ni wyddent ddim am feteloedd,— pres a haearn a'u tebyg. Cerryg a choed oedd eu harfau. Daeth cenedl un diwrnod i'r wlad i'w gorchfygu. Yr oedd gan hon arfau metel. A chyda'r arfau hyn hawdd oedd gorchfygu'r hen genedl. Yn naturiol iawn byddai arnynt arswyd arfau metel byth mwy. Ac ni phriodai'r un o'u merched un o feibion y bobl a'u gorchfygodd, heb iddo addo cadw oddiwrthi yr arfau a orchfygodd ei chenedl. Stori am y

cyfnod hwn wedi ei newid gryn lawer yw

"Adeiladent eu cartrefi ar bennau polion."




stori merch y tylwyth teg yn dyfod o'r llyn. Un o ferched yr hen genedl a drigai mewn llynnoedd oedd hi, ac un o fechgyn y genedl genedl a'i gorchfygodd wedi syrthio mewn cariad â hi, a hithau'n addo ei briodi ar yr amod y cadwai o'i golwg yr arfau a barodd gymaint o boen i'w phobl. Disgynyddion y ddau bobl hyn, wedi cymysgu â'i gilydd, ydych chwi a minnau gan mwyaf, er bod gwaed mathau eraill ar bobl hefyd yn ein gwythiennau. Dyna ni wedi gwybod gryn lawer chwaneg am yr hen Gymry drwy wrando ar straeon tylwyth teg.

Nodiadau[golygu]