Branwen Ferch Llŷr (Tegla)/Yr hen dduwiau a duwiesau

Oddi ar Wicidestun
Y Tylwyth Teg Branwen Ferch Llŷr (Tegla)

gan Edward Tegla Davies

O ble y daeth Branwen

Yr hen dduwiau a duwiesau.

DULL arall o wybod am yr hen Gymry yw gwrando ar y traddodiadau am dywysogion Cymry,-y traddodiadau sy'n dywedyd amdanynt yn medru gwneuthur pethau na fedr yr un dyn ar wyneb y ddaear eu gwneuthur heddyw. Medrai rhai ohonynt luchio cerryg sydd gymaint à thai mawr. Medrent ddiflannu pan fynnent, ac ymddangos pan fynnent, a gwneuthur pob math ar wrhydri rhyfeddach na'i gilydd. Pan glywoch y traddodiadau hyn,-am ddynion yn medru gwneuthur pethau na fedr yr un dyn eu gwneuthur,-gellwch fod yn dawel nad am ddynion y sonnir, ond am dduwiau. Hen dduwiau a duwiesau'r Cymry cyn iddynt erioed glywed am Iesu Grist yw'r tywysogion a'r tywysogesau rhyfedd hyn. Wedi derbyn Iesu Grist trodd y Cymry eu cefnau ar yr hen dduwiau, ond wedi'r cwbl yr oeddynt yn hoff iawn ohonynt. Nid oeddynt yn barod i'w gadael yn hollol. Wrth adrodd y storiau amdanynt o oes i oes, ac fel yr âi'r naill genhedlaeth ar ol y llall ymhellach oddiwrth y cyfnod yr addolid hwy fel duwiau a duwiesau ynddo, âi eu nodweddion fel bodau dwyfol ar goll o dipyni beth. O'r diwedd daethant i'r ffurfiau y gwyddom ni amdanynt, yn hanner meibion a merched, a hanner duwiau a duwiesau. Y mae gennym ni amryw storïau am y duwiau a'r duwiesau hyn. Ac os ydych am wybod rhywbeth am yr hen Gymry, rhaid gwybod rhywbeth am y bodau a addolent.

Canys ni ellir deall cymeriad unrhyw bobl heb ddeall rhywbeth am y duwiau a addolant. Y mae pob cenedl yn debyg i'w duwiau. Os duwiau creulon a chas a addola, pobl greulon a chas yw'r bobl. Os duwiau tyner ac addfwyn yw ei duwiau, pobl dyner ac addfwyn yw'r bobl. hwythau.

Dyna ni o'r diwedd yn barod i sôn am y dduwies y bwriadwn sôn amdani. Buom yn hir yn dyfod ati, ond rhaid paratoi'r ffordd yn lled lwyr er mwyn i chwi a minnau ddeall ein gilydd yn iawn. Enw'r dduwies hon oedd Branwen, ac un o dduwiesau anwylaf yr hen Gymry oedd hi. Fel merch ar wyneb y ddaear y sonnir amdani yn y stori sydd amdani, ond un o dduwiesau'r hen Gymry yw hi er hynny, ac un annwyl ac addfwyn iawn, yn deilwng o'i charu gennych bob un ohonoch. Wrth ddarllen ei hanes hi a'i chyffelyb deuwch i wybod beth oedd syniadau'r hen Gymry am y byd, pwy a lywodraethai'r môr a'r awyr a'r tir, sut i fyw'n dda, a sut nefoedd a gaent ar ol mynd o'r byd, a llawer o bethau eraill.

Dyna'r cyfnod a roddodd fod i Franwen, cyfnod y berwi dwfr â cherryg, a'r trigo mewn corsydd a llynnoedd, a'r cymysgu â'r cenhedloedd a'u gorchfygodd ag arfau metel.

Nodiadau[golygu]