Breuddwydion Myfanwy/Pennod IX

Oddi ar Wicidestun
Pennod VIII Breuddwydion Myfanwy

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

Pennod X


IX

Lle nad oedd fedd na deilen wyw,
Na nam ar ddim, na chwyn, na chri,
Hyfrytaf gwlad y gwledydd oedd,
Ac nid oedd enw arni hi.
—CRWYS (Yr Awr Aur).

"DYNA bryd da i ddechreu'r dydd," ebe Mr. Luxton, "ond daw eisiau bwyd arnom eto ymhen ychydig oriau, ac ni allwn fyw ar fananau a hufen o hyd, er cystal ydynt."

"O, mi hoffwn i gwpanaid o goffi," ebe Madame, a chodi ei dwylaw a'i hysgwyddau, a gwneud hanner gwên a hanner gŵg ar ei hwyneb.

"Hoffwn innau gwpanaid o de," ebe Myfanwy, a gwenu'n swil. Yr oedd y ddwy wedi ymadfywio'n rhyfedd ar ôl eu noswaith o orffwys.

"Pwy ŵyr na chaiff pob un ohonoch ei dymuniad heb fod yn hir," ebe Mr. Luxton. "Y mae pethau rhyfedd yn tyfu yn y rhan hon o'r byd."

"Pa le yr ydym, syr?" ebe Gareth.

"A! Dyna gwestiwn!" ebe Mr. Luxton.

A ydych chwi yn meddwl mai ar ynys yr ydym?" ebe Llew.

"Ni wn fwy na chwithau. Rhaid i ni edrych o'n cylch heddiw a phenderfynu rhai cwestiynau cyn cysgu eto," ebe Mr. Luxton. "Awn ni ein dau— Gareth a minnau—am daith i edrych pa beth a welwn, a dod yn ôl a'r hanes i chwi yma," ebe Llew.

"Dof innau os ydych chwi eich dau yn mynd," ebe Myfanwy.

"Myfanwy fach! Sut gelli di gerdded yn y gwres?" ebe Gareth.

"Chewch chwi ddim fy ngadael i. Beth pe baech chwi'n mynd ar goll?" ebe Myfanwy, a sŵn dagrau yn ei llais.

"Dere di, Myfanwy!" ebe Llew, a rhoddi ei law ar law ei chwaer, "adawaf i ddim ohonot ti."

Yna dywedodd Mr. Luxton fel pe bai wedi deall y cwbl, er mai yn Gymraeg y siaradai'r tri:—

Beth pe gwnaem fel hyn am heddiw. Efallai y gwn i fwy am rai pethau nag a wyddoch chwi eich dau, felly âf i gyda Gareth i mewn i'r wlad am ychydig. Cewch chwithau Llew fod yn gwmni i Madame a Myfanwy."

'O'r gore, da iawn, syr," ebe Llew.

"Cei dithau fynd yfory, ac arhosaf innau yma," ebe Gareth.

"One day soon, Myfanwy and me, strong, will come with you all way, way,"ebe Madame.

Aeth Llew a Gareth i roddi eu cotiau a'u gwasgodi yn ddiogel cyn cychwyn.

"Gadawaf innau fy nghot," ebe Mr. Luxton. "Y mae'n rhy drwm i'w chario yn y gwres yma. Beth sydd gennych yn eich pocedi, fechgyn? A oes rhywbeth defnyddiol gennych chwithau Madame a Myfanwy? Y mae'n bwysig i ni wybod pa stoc sydd gennym.'

Dygodd pob un ei drysorau i'r amlwg.

Yr oedd gan Llew siswrn bach a chyllell fach, darn hir o gortyn, Beibl Cymraeg, dyddiadur a gawsai yn anrheg Nadolig gan ei dad, tri phensil, atlas, crib, botwm corn, hanner coron a thair ceiniog.

Cyllell boced fawr gref oedd gan Gareth, amryw ddarnau o bensilion, india—rubber, llyfr bychan ac ynddo amryw ddarluniau o waith Gareth ei hun,— llun capten y Ruth Nikso, lluniau ei dad a'i fam, ei ewythr a'i fodryb, ei chwaer, ei gefnder, a'i gyfnither, a lluniau eraill o deithwyr y Ruth Nikso,—a phum ceiniog.

Gan Mr. Luxton yr oedd oriawr aur, cas bychan lledr ac arian nodau ynddo, deuswllt a naw ceiniog a Beibl Saesneg.

Nid pocedi oedd gan Madame D'Erville a Myfanwy, ond bagiau. Yr oedd drych tu mewn i glawr un Madame. O arferiad, edrychodd yn y drych cyn dechreu dangos cynhwysiad y bag. Nid oedd ganddi hithau ddim a fyddai o wasanaeth mawr,—pwrs a rhywfaint o arian ynddo, dwy fodrwy hardd, potel o berarogl, a dau gadach poced. Yr oedd cadach poced gan bob un o'r lleill hefyd, wrth gwrs.

Ym mag bach Myfanwy yr oedd câs bychan yn cynnwys nodwyddau bach a mawr, pinnau, gwniadur, edau a siswrn; câs bach arall a chrib a drych ynddo.

"O dyma bethau gwerthfawr!" ebe Mr. Luxton.

Cododd Madame ei dwylo.

Trysorau pennaf Myfanwy oedd y ddau gâs hynny. Cawsai hwy ar ei dydd pen blwydd diwethaf. oedd ganddi hefyd ddarlun pedair modfedd ysgwâr o Frynteg, a'i thad a'i mam a Llew a hithau yn sefyll o flaen y tŷ. Tynesid ef yr haf hwnnw cyn dechreu gwasgaru dim. Wrth edrych arno'n awr, llanwodd llygaid Myfanwy. Rhoddodd un gip ar Llew. Yr oedd ei lygaid yntau'n llawn. Syrthiodd y ddau ar yddfau ei gilydd ac wylo'n hidl. Wylai'r lleill wrth edrych arnynt. Am funud ni chlywid dim ond wylo yn gymysg â si ysgafn y môr.

"Chwi yw'r ddau mwyaf ffodus ohonom," ebe Mr. Luxton.

"Ie, yr ydych gyda'i gilydd," ebe Gareth. "Yr wyf i heb neb."

"Mon Dieu! Mon Dieu!" ebe Madame.

"Ond rhaid i ni wneud y goreu o'r gwaethaf," ebe Mr. Luxton. "Y mae ein bywyd gennym. A ydym yn ddigon diolchgar am hynny? Y mae llawer yn gorfod byw heb eu rhai annwyl. Rhaid i ninnau wneud yr un peth. Rhaid i bob un ohonom wneud ei fywyd yn werth ei fyw, hyd yn oed yma, ymhell oddiwrth bawb. Y mae Duw yn agos atom yma, ac yn gwylio drosom."

Os mai'r plant oedd y cyntaf i wylo, hwy oedd y cyntaf i sychu eu dagrau hefyd. Ni allent fod yn drist yn hir mewn lle mor hardd.

"Peidiwch â cholli dim o'r pethau sydd gennych. Ni wyddom pa bryd y deuant yn ddefnyddiol," ebe Mr. Luxton. "Pe baem yn byw yn agos i gyfleusterau buaswn yn dweyd wrthych chwi Gareth am ddatblygu eich talent. Ni synnwn glywed am danoch yn arlunydd mawr ryw ddydd."

"Nid oes gennyf ychwaneg o bapur, syr," ebe Gareth.

"Efallai daw papur o rywle rywbryd," ebe Llew. "O, y mae dyddiadur gennych chwi, Llew, onid oes? Yr oedd gennyf innau un. Tebig ei fod gyda phethau eraill yn fy nghist ar waelod y môr. A fedrwch chwi ddweyd pa ddydd yw hi heddiw?"

"Y dydd y daeth y niwl mawr yr ysgrifennais ddiwethaf, syr. Dim ond dau air sydd gennyf gyferbyn â'r dydd hwnnw. Dyma hwy: "Dechreu tawelu." Nid oes dim gyferbyn â'r tri diwrnod cyn hynny. Yr oedd y llong yn siglo gormod."

"Ie, ac wedi'r tawelu daeth y niwl. Pa bryd ar ôl hynny y trawodd y llong?"

"Ymhen ychydig oriau, 'rwy'n meddwl, llai na diwrnod, 'rwy'n siwr."

"Yn y nos y trawodd," ebe Myfanwy.

"Y niwl oedd yn gwneud y nos," ebe Gareth.

"Na, credaf fod Myfanwy'n iawn. Yr oedd yn dechreu nosi cyn i'r niwl ddod. Aethom i'r cwch felly ar yr un-fed-ar-ddeg, neu yn fore ar y deuddegfed. Ai deuddydd fuom ynddo?"

"Ie, nos a diwrnod a nos, ac yr oeddym yma cyn diwedd y diwrnod arall," ebe Llew.

Cauodd Madame ei llygaid a chrynu drwyddi wrth atgofio'r amser ofnadwy hwnnw.

"Daethom yma felly ar ddydd Iau, y trydydd dydd ar ddeg o Dachwedd. Rhaid i ni gadw cyfrif o'r dyddiau. Gwna'r dyddiadur yma'r tro hyd ddiwedd y flwyddyn. Rhoddwch farc gyferbyn â'r dyddiad ar ddiwedd pob dydd. Bydd yn rhaid i ni ddyfeisio rhywbeth ar gyfer y flwyddyn nesaf."

"Y mae almanac am y flwyddyn nesaf ar ddiwedd y dyddiadur," ebe Myfanwy. "Rhagorol. Gwna hwnnw'r tro'n iawn."

"Ond gobeithio na fydd ei eisiau arnom," ychwanegai Myfanwy.

"Ie, fy merch annwyl. Dyna'n gweddi ni bob un," ebe Mr. Luxton.

"Fechgyn! Dewch i olchi'r cwch yma cyn awn o'r fan. A dyma drysorau."

Yn y cwch cawsant focs tin arall, cot a adawsai rhyw druan ar ôl, pâr o esgidiau ar ôl rhywun arall, darn hir o raff gref, dau rwyf, a blychaid o Swan Vestas.

Gadawaf y pethau gwerthfawr hyn yn eich gofal chwi, Myfanwy," ebe Mr. Luxton. "Da chwi, byddwch ofalus ohonynt. Os cawn rywbeth i'w goginio, bydd yn dda i ni gael tân."

Wedi golchi'r cwch, clymasant ef â'r rhaff yn ddiogel wrth ddarn o graig mewn man cysgodol. Yna aeth Mr. Luxton a Gareth ar eu taith.

Nodiadau[golygu]