Breuddwydion Myfanwy/Pennod VIII

Oddi ar Wicidestun
Pennod VII Breuddwydion Myfanwy

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

Pennod IX


VIII

Let us then be up and doing,
With a heart for any fate.
—LONGFELLOW (Psalm of Life).

LLEW a Gareth oedd y cyntaf i godi bore trannoeth. Dyna deimlad hyfryd oedd deffro a'r awyr lâs uwch eu pennau, yr awel fwyn yn chwarae ar eu hwynebau, a miwsig y môr yn eu clustiau.

"Gareth," ebe Llew yng nghlust ei gefnder. "Yr wyf i'n mynd i ymdrochi yn y môr. A ddeui di?"

Yr oedd Gareth ar ei draed cyn pen munud.

Amneidiodd Llew arno i beidio â gwneud dim sŵn rhag deffro'r lleill. Rhedasant dros y tywod caled tua dau can llath o'r gwersyll. Gadawsant eu dillad ar y traeth ac i mewn â hwy, a chwarae fel pysgod yn nyfroedd clir y lagŵn. O dyna fore hyfryd ydoedd! Dyna lâs oedd dyfroedd y lagŵn! Dyna ddisglair oedd y traeth, a dyna ogoneddus o wyrdd oedd dail y coed ar y llethrau! Draw, tua hanner milltir o'r fan lle'r oeddynt, yr oedd y rhibyn o greigiau cwrel. Clywent ru'r môr o'r tuhwnt iddo, a deuai cawod o ewyn gwyn drosto yn awr ac yn y man. Ni welent un peth byw ond hwy eu hunain. Ni chlywent sain aderyn na bref anifail. Gwenai'r haul yn yr awyr asur a gwenai popeth yn ôl arno.

Yr oedd y rhibyn cwrel fel rhyw fraich drugarog am yr ynys—os ynys ydoedd yn cau allan bob aflonyddwch a berw a llid.

"O!" ebe Gareth, "dyna dda ein bod ni'n fyw!"

"Am râs â fi hyd y graig fan draw ac yn ôl," ebe Llew.

Ymaith â hwy fel y gwynt, a'u cyrff yn disgleirio yn haul y bore. Yr oeddynt yn hollol sych pan ddaethant yn ôl, a dechreuasant wisgo ar frys.

'Nid oes eisieu'r dillad hyn i gyd yn y lle hwn," ebe Gareth.

"Byddem yn ddigon cynnes heb ddim," ebe Llew. Wedi ystyried am ychydig, gwisgodd pob un ei grys a'i lodrau a'i esgidiau. Cariasant eu dillad eraill er mwyn eu rhoddi'n ddiogel yn rhywle.

"Beth wnawn ni pan dreulia'r rhai hyn?" ebe Llew.

"O Llew annwyl! Ni fyddwn yma'n hir," ebe Gareth. "Yr ydym yn sicr o weld llong yn pasio. Efallai y daw un heddiw, ac y byddwn wedi mynd oddiyma cyn y nos."

Ac efallai y byddwn yma am flwyddyn neu am flynyddoedd. Cofia am Robinson Crusoe a'r Swiss Family Robinson," ebe Llew.

"Pe bai mam a nhad a Gwen yma, a dy fam a dy dad dithau, buaswn i'n fodlon aros yma am byth," ebe Gareth. "A welwn ni rai ohonynt eto?" ebe Llew'n drist.

"O, nid wyt yn meddwl eu bod wedi boddi," ebe Gareth.

"Boddodd pawb o'n cwch ni ond ni ein pump," ebe Llew.

"Efallai eu bod hwy wedi bod yn fwy ffodus na ni. O, rwy'n gobeithio bod Gwen a hwythau gyda'i gilydd," ebe Gareth.

Dyna drueni ein bod ar wahân pan drawodd y llong! Pe baem gyda'i gilydd gallasem fod wedi mynd i'r un cwch," ebe Llew.

Yr oedd y ddau wedi mynd yn brudd iawn. Ni ddaw doe a'i gyfle'n ôl i neb. Didostur ydyw deddfau bywyd.

Nid oes dim fel gwaith i yrru ymaith ofid. Yr oedd yn rhaid i Llew a Gareth weithio os am fyw.

"O! Y mae eisiau bwyd arnaf. Pa beth a gawn ni i'w fwyta?" ebe Gareth.

"Y mae'r te a'r ham a'r wyau yn sicr o fod yn barod erbyn hyn," ebe Llew. "Te twym, neis, a bara menyn hyfryd!"

"A oes colled arnat ti, Llew?" ebe Gareth yn ddifrifol.

Chwarddodd Llew. "Y mae eisiau bwyd arnaf fel tithau, ac yr wyf yn siwr fod eisiau bwyd ar Myfanwy a'r ddau arall yna. Rhaid i ni edrych am frecwast iddynt hwy a ninnau. Y mae gennym fananau rhyngom â'r gwaethaf."

Aethant at y pren banana oedd ar lán y nant. Plygai dan ei ffrwyth. Yr oedd arno ddigon o ymborth i'r pump am amser hir. Tyfai'r palmwydd coco ym mhobman, hyd yn oed ar ymyl y traeth. Coed tál iawn ydynt, a'u dail a'u ffrwythau yn uchel ar y brig. Yr oedd digonedd o'r cnau aeddfed ar y llawr o dan y coed. Casglodd y bechgyn nifer ohonynt er na wyddent yn iawn pa beth i wneud â hwy, a rhedasant tua'r gwersyll.

Yr oedd y tri eraill wedi codi o'u gwelyau, wedi ymolchi, ac wedi gwneud eu hunain mor drefnus ag y gallent. Rhedodd Myfanwy i gyfarfod â hwy.

"O fechgyn, pa le y buoch chwi?" ebe hi.

"Yr oeddwn i'n dechreu ofni fy mod wedi eich colli chwithau hefyd."

"Codasom gyda'r wawr, cawsom fath yn y môr, rhedasom ar y traeth, aethom i'r coed, a daethom â brecwast yn ôl i chwi," ebe Gareth, fel pe bai yn darllen o lyfr.

Croesawodd Madame hwy â llawer o eiriau ac ystumiau. Ychydig o'r geiriau a ddeallodd y bechgyn, ond gwyddent mai geiriau croesaw oeddynt.

"O fechgyn da!" ebe Mr. Luxton. "Y mae cnau coco gennych! Cawn hufen heddyw gyda'n bananau. Nid drwg brecwast a fydd hynny.'

Saesneg wrth gwrs a siaradai Mr. Luxton, a Saesneg a siaradai'r plant ag ef. Defnyddiai Madame eiriau Saesneg yn gymysg â'i Ffrangeg. Cymraeg a siaradai'r plant â'i gilydd, ond pan fyddai'r ymddiddan rhyngddynt i gyd, siaradent Saesneg â'i gilydd hefyd, er mwyn y lleill. Er ieuenged oeddynt, yr oeddynt o flaen y ddau arall yn hyn. Medrent wneud defnydd da o ddwy iaith.

Gwnaeth Mr. Luxton dwll yn un o'r cnau â chyllell Gareth, a daeth allan hylif tebig i hufen. Arllwysodd ychydig ohono ar rai o'r bananau a chafodd pawb ei brofi. Barnent bob un ei fod yn rhagorol. Gwyddai Mr. Luxton ei fod yn faethlon. Y gwaethaf oedd nad oedd ganddynt lestri i fwyta eu bwyd yn drefnus, ond mwynhasant ef yn fawr, a chawsant lawer o ddifyrrwch.

Nodiadau[golygu]