Breuddwydion Myfanwy/Pennod V

Oddi ar Wicidestun
Pennod IV Breuddwydion Myfanwy

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

Pennod VI


V

Gwelais yn gwgu lâs waneg eigion
A thywyllwch aeth ei llewych weithion.
—R. WILLIAMS PARRY (Yr Haf).

ER cymaint oedd awydd Meredydd Llwyd a'r lleill i aros ac edrych, mynd yn ei blaen a wnai'r llong o hyd, heibio a thrwy'r lleoedd mwyaf hen a diddorol a newydd a rhyfedd, Alecsandria, Port Said, Camlas Suez a'r Môr Coch. Wedi dechreu synnu at un rhyfeddod, deuai rhyfeddod arall i'r golwg.

"Yn wir, y mae dynion yn glefer," meddai Mr. Rhys. "Meddyliwch am y medr oedd yn eisiau i wneud y gamlas hon."

"Ie, ac i wneud y llong yma, o ran hynny," ebe ei wraig.

"Ac nid yn ddiweddar y mae dynion wedi bod yn glefer," ebe Meredydd Llwyd. "Dynion a adeiladodd y pyramidiau, filoedd o flynyddoedd yn ôl. Nid oes dim rhyfeddach na'r rhai hynny yn y byd."

"Y mae'r Aifft ar un ochr i ni yn awr, a Mynydd Sina ar yr ochr arall," ebe Llew.

"Yr ydym fel pe baem yn byw yn amser yr Hen Destament," ebe Ifan Rhys. Pan ddaethant i'r Môr Coch, synasant ei weld mor debig i bob môr arall. Yr oedd y tywydd boeth. Yr erbyn hyn bron yn annioddefol o oedd yn dda gan Myfanwy a Gwen fod dillad haf ganddynt. Yr oedd y dillad a wisgent ar ddechreu'r daith ar waelod eu cistiau erbyn hyn. Taflai haul y Trofannau ei wres tuag atynt yn ddidrugaredd.

Pan ddaethant ar y dec un bore ymhen tuag wythnos wedi gadael Aden, dywedodd Myfanwy:—

"O, dyma arogl hyfryd!"

"Yr wyf innau'n ei glywed hefyd," ebe Gwen. "Coginio rhywbeth y maent yn y gwaelod yna," ebe Gareth.

"Coginio'n wir!" ebe Llew. "O, dyna dri anwybodus ydych!"

"O, mi wn i beth ydyw," ebe Myfanwy. "Arogl coffi a cloves—arogl Ceylon."

Yr oedd Myfanwy'n iawn. Yn fuan, daeth yr ynys i'r golwg ar y gorwel, a chyn diwedd y dydd yr oedd y llong ym mhorthladd Colombo.

Nid oedd neb o'r cwmni Cymreig yn deithwyr digon profiadol, neu buasent wedi glanio a mynd i'r dref am ychydig oriau, fel y gwelent rai o'r lleill yn gwneud. Arhosai'r llong yma fel yn Suez ac Aden a lleoedd eraill i dderbyn stoc newydd o lô. Byddai eisiau stoc dda y tro hwn, oherwydd tir Awstralia a welent nesaf.

Wrth adael Ceylon, gadawent y Dwyrain o'u hôl. Gadawsent y Gorllewin wrth ddyfod i mewn i'r Môr Canoldir yn Gibraltar. Yn awr, wynebent ar y De. Pa beth a'u harhosai yno?

Hyd yn hyn yr oedd awyr a môr wedi bod yn hynod garedig tuag atynt. Ni ddaethai na storm na niwl i'w blino. Gwir bod y gwres enbyd wedi peri grwgnach rai gweithiau. Teimlent erbyn hyn fod y gwaethaf drosodd. Ymhen deuddeng niwrnod byddent yn St. George's Sound, yn Awstralia. Wythnos arall, a byddent yn Sydney.

Dyna'r cynllun, ond a ddeuai'r cynllun i ben? Wedi croesi'r cyhydedd, aeth y gwres yn fwy llethol. Rhyw wres trwm, llaith, ydoedd. Nid oedd na gwynt na thón, er hynny dechreuodd y llong godi a gostwng yn beryglus. Yn fuan, gyrrodd ei symudiadau y rhan fwyaf o'r teithwyr i'w cabanau. Teimlent fel pe bai hwnnw eu dydd cyntaf ar y môr. Rhedai'r morwyr yn wyllt yma a thraw, a'r chwys yn diferu oddiar eu talcennau. Aeth y si ar led fod y barometer yn isel iawn. Daeth ofn i galonnau llawer. Yr oedd storm yn rhywle. Deuai yn gyflym tuag atynt. Machludodd yr haul a'i liw fel lliw lleuad wannaidd. Rhyngddo â'r De cyfodai cwmwl tew, dugoch, ar y gorwel.

Yr oedd gan y teithwyr ffydd gref yn eu capten. Diau ei fod ef yn hen gyfarwydd â storm ar y môr. Efallai na fyddai hon pan dorrai yn waeth na llawer a welsai ef. Ond O! yr oedd yr ysgwyd yn ofnadwy! Ni allai neb na dim sefyll yn yr unfan.

Yr oedd y capten ei hun yn llawn pryder, er na ddangosai hynny. Un o gorwyntoedd mawrion y De-Orllewin oedd ar ddyfod, un olaf y tymor, yn ddiau, ac felly un o'r ffyrnicaf. A oedd yn bosibl, drwy yrru'r llong â'i chyflymder pennaf, fynd allan o lwybr y storm? Os nad oedd hynny'n bosibl, gwae hwy! Er cystal llong oedd y Ruth Nikso, sut gallai hi wynebu'r dymestl a byw?

Daeth ar eu gwarthaf yn sydyn, tua chanol nos. Yn lle'r distawrwydd cynt, ni chlywai neb leisiau ei gilydd gan ru ofnadwy'r gwynt, ac ergydion y tonnau dig. Nid ymysgwyd yn fwy neu lai rheolaidd a wnai'r llong bellach, ond neidio a gwingo fel creadur gwallgof. Teflid dillad, esgidiau, cadeiriau, a chistiau yma a thraw ar hyd y cabanau. Yn gymysg â rhu'r gwynt a'r môr deuai twrw byddarol o'r dec yn awr ac eilwaith,—sŵn llawer o ddyfroedd, a sŵn pethau trwm yn syrthio. Pan ddaeth y bore, yr oedd y Ruth Nikso filltiroedd lawer allan o'i chwrs, yn rhuthro'n wyllt o flaen y gwynt i gyfeiriad y Gogledd—Ddwyrain.

Parhaodd y storm am dri niwrnod, yna tawelodd mor sydyn ag y daethai. Yn fuan iawn wedyn daeth arnynt beth a ofna morwyr yn fwy na gwynt na thón. Daeth niwl tew dros bob man nes gwneud canol dydd yn waeth na chanol nos.

Yr oedd llawer o'r teithwyr yn llawen am fod y storm drosodd, heb wybod fod eu perigl yn fwy yn y niwl. Rywbryd wedi oriau o ymbalfalu, digwyddodd y gwaethaf. Trawodd y llong, gydag ergyd ofnadwy, yn erbyn craig.

O, dyna lle bu gweiddi a chrio a rhuthro gwyllt. Gan fod y llong wedi mynd o flaen y storm, yr oedd y cychod wedi eu harbed. A geid amser i fynd iddynt cyn i'r Ruth Nikso fynd o'r golwg yn y dyfnder?

Nid oedd modd cadw trefn pan na welai neb lathen o'i flaen. Wedi munudau oedd yn ddigon ofnadwy wneud y mwyaf pwyllog yn wallgof, cafodd Llew a Myfanwy a Gareth eu hunain gyda thyrfa gymysg mewn cwch. Ni wyddent pwy oedd eu cwmni. Pa le yr oedd eu rhieni? Pa le yr oedd Gwen? A oedd yn werth cael eu hachub a cholli'r lleill? A welent ei gilydd eto? I ba le yr aent?

Nodiadau[golygu]