Breuddwydion Myfanwy/Pennod VI

Oddi ar Wicidestun
Pennod V Breuddwydion Myfanwy

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

Pennod VII


VI

'Roedd rhyw law a dan y gwaelod,
fel tae anweledig beiriant
Yn ein gwthio drwy'r llifeiriant,
yn ein llithio o hyd yn nes,
Nes at ynys ar y gorwel,
werdd yn goron ar y glasddwr ;
'Roedd hi'n gorwedd yn ei basddwr,
gyda'i chwrel wrth ei throed,
Ninnau'n sýn fel rhai mewn breuddwyd.
—W. J. GRUFFYDD (Ynys yr Hud).

Yr oedd y niwl yn gwmwl tew am danynt o hyd. Ni welent na'r llong nag un o'r cychod eraill. Aethant hefyd, heb yn wybod iddynt, o glyw pawb a phopeth. Gwaeddodd y rhwyfwyr lawer gwaith er mwyn ceisio gwybod pa le yr oedd y lleill, a chadw gyda'i gilydd os oedd hynny'n bosibl. Ni chaed ateb o unman. Gellid meddwl mai'r cwch hwnnw oedd yr unig un ar wyneb y môr mawr.

Yr oedd y gwynt a'r tonnau wedi tawelu cryn dipyn erbyn hyn, ond yr oedd twrw a chyffro enbyd yn y cwch. Nid pob un a fedr fod yn dawel mewn enbydrwydd. Yr oedd tuag ugain o bobl ynddo heblaw y ddau forwr a rwyfai. Safai llawer o'r rhai hyn ar eu traed, yn gweiddi ac yn crio yn eu gwylltineb, a'u symudiadau sydyn yn bygwth dymchwelyd y cwch bob munud. Gwaeddai'r lleill arnynt i eistedd a bod yn llonydd ac yn ddistaw. Rhegai rhai, gweddiai eraill. Eisteddai Llew a Gareth a Myfanwy yn dynn gyda'i gilydd, yn crynu gan ofn, ond yn ddistaw iawn, a'u calonnau'n drwm gan bryder a gofid.

Arhosodd y ddau forwr ar eu rhwyfau am funud o seibiant. Synnodd pawb deimlo'r cwch yn mynd ymlaen yn gyflym ohono'i hun. Bernid eu bod yn llwybr rhyw chwyrnllif yn y môr, efallai mewn culfor rhwng rhai o'r ynysoedd bach a mawr sydd tua Gogledd Awstralia. I ba le yr arweinid hwynt? oedd yn bosibl bod rhai o'u cyd-deithwyr wedi mynd. gyda'r llif i'r un cyfeiriad â hwythau? Weithiau, am ychydig funudau, codai'r niwl fel pe i ddangos iddynt mor ddiobaith oedd eu sefyllfa. Ni welent nac ynys. na chraig, na chwch, dim ond ehangder o fôr llyfn ac wybren ddu uwch ei ben.

Ni fedrodd Llew na Gareth na Myfanwy byth wedyn ddisgrifio'n iawn ddigwyddiadau ofnadwy'r ddeuddydd dilynol. Yn y brys a'r rhuthr wrth adael y llong, ni feddyliwyd am roddi bwyd a dŵr yn y cwch. Pan ddaeth y bore daeth eisiau bwyd ar bawb. Gwaeth na hynny, daeth arnynt syched ofnadwy. Cliriodd y niwl gyda'r dydd. Gwenai awyr ddigwmwl uwchben. Yn fuan, aeth gwres yr haul yn annioddefol. Taflai ei belydrau tanbaid yn ddidrugaredd ar y cychaid digysgod. Paham y buont mor rhyfygus a grwgnach am y niwl a'r lleithter? Aeth rhai yn wallgof, a thaflu eu hunain dros ochr y cwch yn fwyd i'r môrgwn parod a wyliai eu cyfle yn y dyfnder clir. Bu Natur yn fwy caredig tuag at eraill. Gwnaeth iddynt gysgu a hanner llewygu. Ai'r cwch yn ei flaen neu yn ei ôl, fel y mynnai'r llif a'r llanw.

Rywbryd, dihunwyd Llew o gwsg neu o lewig gan waedd annaearol. Ar yr un foment disgynnodd un o'r rhwyfau gydag ergyd ofnadwy tua modfedd oddiwrth ei ben, a neidiodd rhywun,—un o'r morwyr ydoedd dros ben blaen y cwch i'r môr. Cododd Llew ar ei draed. Edrychodd o'i amgylch. Pa le yr oedd y dyrfa a ddechreuodd eu taith yn y cwch? Nid oedd ond nifer fach iawn ar ôl. Gorweddent ar draws ei gilydd yng nghornel y cwch. Cyn iddo gael amser i edrych pa sawl un oedd yno, a phwy oeddynt a sut oeddynt, daeth rhywbeth arall i'r golwg oedd ar y pryd yn fwy pwysig na dim arall.

Yr oedd y cwch yn neshau at ryw dir. Gwelai'r coed gwyrdd ar y llethrau. Tir! Aeth gwefr drwy galon Llew wrth ei weld. Rhyngddo ag ef, a chryn dipyn o bellter o'r lán, gwelai'r môr yn torri'n wýn yn erbyn rhywbeth. Cofiodd beth a ddarllenasai am Ynysoedd Môr y De. Y mae rhibyn uchel o gwrel o gylch y rhan fwyaf ohonynt. Tu mewn i'r rhibyn y mae'r môr yn dawel, bydded arwed ag y bo o'r tu allan. Y lagŵn yw'r lle tawel. Gwyddai hefyd fod bwlch rywle lle y gellid mynd i mewn i'r lagŵn. Yr oedd rhwyfau ar waelod y cwch. Cydiodd mewn dau ohonynt a rhoddodd hwy yn eu lle. Gwaith dieithr iddo oedd rhwyfo, ond dysgir yn gyflym mewn caledi. Yr oedd y môr yn weddol llyfn, a da iawn iddo ef oedd hynny. O, dyna falch oedd pan ddaeth i fedru symud y cwch wrth ei ewyllys. Ond gwaith caled oedd rheoli'r cwch ac edrych am y bwlch yn y graig. Gallai rhai o'r lleill ei helpu pe baent yn effro.

Gwaeddodd arnynt lawer gwaith, ond yr oedd ei gefn tuag atynt, ac ni chlywodd neb yn ateb nac yn symud. Gobeithiai fod Gareth a Myfanwy yno ac yn fyw. Beth os mai ef ei hunan oedd yn fyw yn y cwch!

O! dacw'r bwlch. Cariwyd ef gan dón fechan i mewn yn esmwyth i le tawel fel llyn. Rhwyfodd nes dyfod at y traeth gwýn, disglair. Trawodd y cwch. y gwaelod. Neidiodd Llew allan, a thynnodd ef gymaint ag a fedrai allan o gyrraedd y llanw. Taflodd ei hun i lawr ar y tywod caled. Syllodd yn sýn o'i flaen, fel un mewn breuddwyd.

Nodiadau[golygu]