Dafydd ap Gwilym Detholiad o'i Farddoniaeth/I Forfudd

Oddi ar Wicidestun
I'r Lleian Dafydd ap Gwilym Detholiad o'i Farddoniaeth

gan Dafydd ap Gwilym

Y Bardd a'r Brawd Llwyd

I Forfudd.

Y FERCH a wnaeth gwayw dan f'ais,
A garaf ac a gerais,
Dy liw a wnaeth Duw Lywydd,
Dy dâl fal llygaid y dydd.
Duw a roddes it ruddaur,
Dy wallt fal tafod o aur.
Dy fwnwgl yn dwf uniawn,
Dy fronnau'n bellennau llawn.
Deurudd ysgarlad arael,
Du Llundain, riain, yw'r ael.
Dy lygaid fel dau loywgae,
Dy drwyn, ar ddyn mwyn y mae.
Dy wên yw'r pum llawenydd,
Dy gorff hardd a'm dwg o'r ffydd,
A'th wenned, fal nith Anna,
A'th liw deg gyda'th lun da.

Dy fwyned dan do fanwallt,
Dy deced, dyred i'r allt.
Bid ein gwely fry ny fron
Bedeiroes mewn bedw irion,
Ar fatras o ddail glas glyn
A'i ridens wych o redyn,
A chwrlid rhom a churlaw,
Coed a ludd cawad o law.
Gorweddaf lle bu Ddafydd
Broffwyd teg braff, i oed dydd;
Gŵr a wnaeth er lliw gwawr nef,
Saith salm, tad syth i Selef.
Minnau a wnaf, o'mannerch,
Salmau o gusanau serch,
Saith gusan gan rianedd,
Saith fedwen uwch ben y bedd,
Saith osber, saith offeren,
Saith araith bronfraith ar bren,
Saith erddigan dan y dail,
Saith eos, saith o wiail,
Saith acen orawen rydd,
Saith o gaeau, saith gywydd,
Saith gywydd i Forfudd fain
Syth hoywgorff, a saith ugain.
Clo ar gariad taladwy,
Ni ddyly hi i mi mwy.


Nodiadau[golygu]