Dafydd ap Gwilym Detholiad o'i Farddoniaeth/I Wallt Merch

Oddi ar Wicidestun
Y Serch Lledrad Dafydd ap Gwilym Detholiad o'i Farddoniaeth

gan Dafydd ap Gwilym

Y Breuddwyd

I Wallt Merch.

DOE gwelais ddyn lednais lân,
Deg o liw, dygwyl Ieuan,
Yn ddyn glaerwen ysblennydd,
Yn lloer deg unlliw â'r dydd,
A'i min claerwin chwerthinog,
A'i grudd fal rhosyn y grog;
Aml o eurlliw mal iarlles,
Garllaw y tâl gorlliw tes;
Ac uwch ei deurudd ruddaur,
Dwy bleth fel y dabl o aur.
O datodir, hir yw hwn,
Yr eiliad aur a welwn.
Plethiad ar yr iad a rydd,
Aur godaid ar egwydydd.
Asgell archangel melyn,
Aerwy o gŵyr ar eiry gwyn.
Gweled ei gwallt fal gold gwiw,
Gwiail unllath gelynlliw.
Banhadlwyn uwch yr wyneb,
Bronbelau lliw siopau Sieb.
Gwiw arwydd uwch deurudd dyn,
Gwiail didau gold ydyn.
Copi clyd gwiwbryd gobraff,
Coed o aur rhudd cyd â rhaff.
Poni ŵyr beirdd penceirddwiw
Pwy biau'r gwallt pybyr gwiw?
Bid arnaf i yn ddiwg,
Arddel dyn urddol a'i dwg.


Nodiadau[golygu]