Dafydd ap Gwilym Detholiad o'i Farddoniaeth/Y Serch Lledrad

Oddi ar Wicidestun
Amnaid Dafydd ap Gwilym Detholiad o'i Farddoniaeth

gan Dafydd ap Gwilym

I Wallt Merch

Y Serch Lledrad.

DYSGAIS ddwyn cariad esgud,
Diwladaidd lledradaidd drud.
Gorau modd o'r geiriau mad
Gael adrodd serch goledrad.
Cyfryw nych cyfrinachwr,
Lledrad gorau cariad gŵr,
Tra fuom mewn tyrfaau
Fi a'r ddyn, ofer o ddau,
Heb neb, ddigasineb sôn,
Yn tybiaid ein atebion.

Coel herwr yn cael hirynt
A wnaetham o gytgam gynt.
Bellach, modd caethach y cair,
Cyfran darogan drygair.
Difa'r un drwg ei dafod
Drwy gwlm o nych, dryglam nod,
Yn lle bwrw enllib eiriau
Arnam enw dinam ein dau.
Trabalch oedd, o chaid rhybudd,
Tra geid y cariad trwy gudd.
Cerddais, addolais i ddail
Tref eurddyn, tra fu irddail.
Digrif in, fun, un ennyd,
Dwyn dan frig bedwlwyn ein byd,
Cyd gyfrinach fach a fu,
Coed olochwyd, cyd lechu,
Cyd fyhwman marian môr,
Cyd aros mewn coed oror,
Cyd blannu bedw, gwaith dedwydd,
Cyd blethu gweddeiddblu gwŷdd,
Cyd adrodd serch â'r ferch fain,
Cyd edrych caeau didrain,—
Crefft ddigrif rydd fydd i ferch,
Cyd gerdded coed â gordderch,—
Cadw wyneb, cyd owenu,
Cyd chwerthin finfin a fu,
Cyd ddigwyddaw garllaw'r llwyn,
Cyd ochel pobl, cyd achwyn,
Cydfod mwyn, cyd yfed medd,
Cyd arwain serch, cyd orwedd,
Cyd ddaly cariad celadwy,
Cywir, ni mynegir mwy.


Nodiadau[golygu]