Dafydd ap Gwilym Detholiad o'i Farddoniaeth/Merched Llanbadarn

Oddi ar Wicidestun
Y Bardd a'r Brawd Llwyd Dafydd ap Gwilym Detholiad o'i Farddoniaeth

gan Dafydd ap Gwilym

Amnaid

Merched Llanbadarn.

PLYGU rhag llid yr ydwyf,
Pla ar holl ferched y plwyf!
Am na chefais, drais drawsoed,
Onaddun yr un erioed!
Na morwyn fwyn ofynaig,
Na merch bach, na gwrach, na gwraig.
Pa rusiant, pa ddireidi,
Pa fethiant, na fynnant fi?
Pa ddrwg i riain feinael
Yng nghoed tywylldew fy nghael?
Ni bu amser na charwn,
Ni bu mor lud hud â hwn-
Anad gwýr unoed Garwy-
Yn y dydd ai un ai dwy.
Ac er hynny nid oedd nes
Im gael un no'm gelynes.
Ni bu Sul yn Llanbadarn.
Na bewn, ac eraill a'm barn,
A'm wyneb at y fun goeth,
A'm gwegil at Dduw gwiwgoeth.
A chwedi'r hir edrychwyf
Dros fy mhlu ar draws fy mhlwyf,
Fe ddywaid un yn befrgroyw
Wrth y llall, hawdd ddeall hoyw,
"Y mab llwyd wyneb mursen
A gwallt ei chwaer am ei ben,
Pa ddisgwyl ffôl ei olwg?
Gŵyr ei ddrem garu i ddrwg."
"Ai'n rhith hynny yw ganthaw?"
Yw gair y llall ger ei llaw.

"Ateb ni chaiff tra fo fyd;
Wtied i ddiawl beth ynfyd."
Talmithr im reg y loywferch,
Tâl bychan am syfrdan serch.
Rhaid oedd im fedru peidiaw
A'r foes hon, breuddwydion braw.
Gorau im fyned fal gŵr
Yn feudwy, swydd anfadwr.
O dra disgwyl, dysgiad certh,
Drach 'ynghefn, drych anghyfnerth,
Neur dderyw im, gerddrym gâr,
Bengamu heb un gymar.


Nodiadau[golygu]