Does neb ond Ef, fy Iesu hardd

Oddi ar Wicidestun
Mi af ymlaen yn nerth y nef Mor beraidd i'r credadun gwan

gan William Edwards, Bala

Os ydwyf wael fy llun a'm lliw
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

115[1] Golwg ar Groes Crist.
M. C.

1.DOES neb ond Ef, fy Iesu hardd,
A ddichon lanw 'mryd;
Fy holl gysuron byth a dardd
O'i ddirfawr angau drud.

2.'D oes dim yn gwir ddifyrru f'oes
Helbulus yn y byd
Ond golwg mynych ar y groes,
Lle talwyd Iawn mewn pryd.

3.Mi welaf le mewn marwol glwy'
I'r euog guddio'i ben;
Ac yma llechaf nes mynd trwy
Bob aflwydd is y nen.


Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 115, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930