Hanes Brwydr Waterloo (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Hanes Brwydr Waterloo (testun cyfansawdd)

gan Hugh Humphreys, Caernarfon

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Hanes Brwydr Waterloo
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Hugh Humphreys
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Brwydr Waterloo
ar Wicipedia



HANES BRWYDR WATERLOO.

CYNNWYS


CYSGOD BUONAPARTE AR FAES WATERLOO.[1]


HANES BRWYDR WATERLOO.

WATERLOO, ar amryw ystyriaethau, oedd y frwydr bwysicaf i Ewrop, ac yn neillduol i Loegr, o'r lluaws brwydrau y bu iddi ran ynddynt erioed. Nid yn unig hi a fuddugoliaethodd, ond bu i'r frwydr roddi terfyn ar y tywallt gwaed echrydus a gymerasai le yn ystod yr ugain mlynedd cyn hyny, a llwyr ddarostwng y gormeswr oedd wedi bod cyhyd yn marchogaeth dynolryw er porthi ei chwant a'i uchelgais anniwall ei hun.

Napoleon Bonaparte, ymerawdwr Ffraingc, wedi yr holl fuddugoliaethau rhyfeddol digyffelyb a gafodd, nes darostwng y rhan fwyaf o wledydd Ewrop dan ei draed, y diwedd ydoedd, ei alltudiaeth i ynys Elba. Ond nid yn hir y bu yno, heb fod yn alluog i drefnu moddion i ddychwelyd i Ffraingc, er esgyn yr orsedd oddi ar yr hon y gwthid ef, ychydig fisoedd yn ol, trwy ymdrechiadau cydunol y lluoedd cynghreiriol. Efe a laniai yn Elba y 5ed o Fai, 1814, ac a'i gadawai y 27ain o Chwefror, y flwyddyn ganlynol (1815). Ac ar y cyntaf o Fawrth efe a diriai yn Ffraingc, yn yr un a'r unrhyw lanerch o'r hon yr hwyliasai ddeng mis yn ol. Yr oedd yn ei ganlyn ychydig filwyr, o wyr traed a meirch. Yn ddioed ar ol iddynt oll ddyfod i dir, hwyliasant eu ffordd tua'r brif ddinas. Y mae yn ddiameu bod cyfathrach dirgelaidd yn cael ei ddwyn yn mlaen rhwng Bonaparte, tra yn Elba, a rhai o'r gwŷr mwyaf yn y wladwriaeth a'r fyddin tros holl derfynau Ffraingc; ac yr oedd hyn, mewn mesur mawr, wedi rhwyddhau ei ffordd. Er nad oedd gydag ef pan y glaniodd ond megys dyrnaid fechan o filwyr, yr oedd yn gwbl hyderus y byddai iddo, ar ei daith trwy y wlad, enill digon o bleidwyr, a throi yr holl ryfelwyr o'i du. A felly y dygwyddodd. Ceid y milwyr yn mhob man, ar yr olwg cyntaf ar eu hen flaenor, yn tori allan mewn bonllefau anwydaidd, "Byw fyddo yr Ymerawdwr!" a rhedent am y cyntaf i ymuno a'i fyddin; ac nid meithion oedd y milldiroedd a deithiasai, nad oedd ei faner yn chwyfio dros bigion rhyfelwyr Ffrainge. Ac yn ystod ei daith trwy y wlad, o Cannes, y fan lle y laniodd, i Paris, yr oedd ei fyddin yn chwanegu mewn grym a rhifedi, yn debyg i eira ar ei dreigliad, fel mai ofer oedd i'r brenin Louis a'i bleidwyr feddwl eu gwrth- wynebu, nac atal y gormesdeyrn i ddyfod i mewn i'r brifddinas. Mewn braw a byrbwylldra y gorfu ar Louis ddiangc oddi ar yr orsedd, yr hon na chawaai ond prin Amser i'w chynesu ar ol ei esgyniad; ac ar yr 20fed o Fawrth daeth Buonaparte i mewn, ac esgynedd yr unrhyw orsedd, wedi absenoldeb o ychydig fisoedd.

YR AMRYWIOL FYDDINOEDD.

Nid cynt y daeth i glustiau amrywiol Unbenau Ewrop y newydd o'i ffoadigaeth. a'i esgyniad yr ail waith i orsedd y Bourboniaid, nag y penderfynasant o un fryd wneuthur pob parotoad tuag at atal ei rwysg, a'i ddwyn drachefn dan iau darostyngiad. O'r holl wledydd, yn eu darpariadau milwraidd i wrthwynebu y gormesydd. nid oedd neb yn fwy blaenllaw na Phrydain Fawr. Yn mhen ychydig o fisoedd yr oedd ganddi fyddin luosog yn barod i droi i'r maes, yr hon a ymddiriedwyd dan ofal yr anfarwol Wellington. Yr hen wron Prwssiaidd hefyd, yr enwog Blucher, a ymdrechodd, trwy nerth egni pob gewyn, gasglu ei hen fyddin yn nghyd, er cael mesur cledd unwaith yn rhagor gyda'r hwn, o bawb dan haul y nefoedd, a gashai yn benaf. Byddinoedd y ddwy wlad hyn, sef Prydain a Phrwssia, oeddynt y rhai cyntaf mewn arfau. Buan y cafodd Bonaparte le i gasglu na oddefid iddo, mewn tangnefodd, wisgo y goron, yr hon, mor ddiweddar, a dreisiasai oddi ar ben Louis.

Gwelai yn mharotoadau egniol a helaeth y Cynghreirwyr bod torch dèn i dynu amdani, ac nad oedd namyn grym ei gledd a'i galluogai i barhau yn ben coronawg. Gan hyny nid rhyfedd ei ymdrechiadau llwyddianus yn crynhoi milwyr, ac yn darparu holl angenrheidiau rhyfelgar. Yn mhen ychydig o amser yr oedd ganddo fyddin dra lluosog, yr hon oedd mor ragorol o ran dewrder, dysgyblaeth, a diofrydiad i'w blaenor, ag un fyddin erioed a wisgodd arfau. Yr oedd yn gynwysedig, gan mwyaf, o hen filwyr profiadol, y rhai oedd wedi bod yn gweini dano trwy ystod amrywiol ryfel- dymhorau, ac fel wedi ymgynefino â gwaed a chyflafan. Blaenorid y rhai hyn hefyd gan eu hen gadfridogion, y rhai oeddynt ryfelwyr o'u mebyd, ac fel hen ddwylaw, yn troi at yr unig waith yn yr hwn yr ymddangosent yn eu helfen, ac a'r hwn yn unig y profasent eu hunain yn gyfarwydd. Heblaw hyn oll, yr oedd y fyddin hon wedi ei harfogi yn y modd mwyaf effeithiol; y meirch goreu—mewn gair, yr oedd pob rhan a dosparth wedi eu cyflenwi â phob angenrheidiau, yn y modd mwyaf perffaith; ac ni ddanfonodd Ffraingce erioed yn mlodau ei dyddiau, ragorach byddin i'r maes. Troes allan ei lluosocach, ond erioed ni throes allan ei gwrolach. A phan chwanegom ei bod i gael ei llywio gan un o'r cadfridogion enwocaf yn y byd, yr oedd yn amhosibl i'w wrthwynebwyr beidio a chrynu wrth ystyried y canlyniadau. I wrthsefyll y fyddin hon, penderfynodd y Cynghreirwyr y byddai i'w lluoedd cyfunol gyfarfod â'u gilydd yn yr Iseldiroedd (Netherlands). Fel y crybwyllwyd eisoes, byddinoedd Prydain a Phrwssia oedd y rhai cyntaf i ymgynull, yn cael eu blaenori gan eu henwog Faeslywyddion, Wellington a Blucher. Gwersyllai y Duc Wellington yn Brussels, prif ddinas yr Iseldiroedd; a gwersyllai Blucher yn y pentrefi sydd ar hyd lan yr afonydd Sambre a Mense, sef Charleroi, Namur, Givet, a Liege. Yr oedd y ddwy fyddin, sef Prydain a Phrwssia, o fewn oddeutu 35 milltir i'w gilydd, ac wedi eu trefnu yn y fath fodd ag i fod yn abl i gydweithredu cyn gynted ag y deuai taro ar y naill neu y llall. Yr oedd y gweddill o'r Cynghreirwyr heb ymuno â hwynt, a bychan a feddyliasant, mai cyn i'w hamrywiol luoedd gydgyfarfod, y byddai i'r ymdrech dost a sefydlodd hedd i Ewrop gael ei therfynu heb iddynt hwy gael rhan yn y clod a'r anrhydedd.

GORTHRECHIAD Y PRWSSIAID.

Oherwydd fod magnelau y Prwssiaid wedi eu cyfleu yn y fath fodd nad oedd yn hawdd iddynt eu cludo gyda hwynt, syrthiodd oddeutu 40 o honynt i feddiant y Ffrangcod. Ond fe enciliodd y milwyr yn y fath fodd rheolaidd a threfnus, fel nad allai gwyr meirch y gelynion fenu arnynt. Nid oes dim yn dangos doethineb milwraidd maeslywydd yn fwy, na'i waith yn rheoli enciliad gyda'r fath fedrusrwydd nad all yr erlidwyr gael unrhyw fantais arno. Parhaodd y Prwssiaid eu taith ar hyd y nos, nes dyfod i bentref Wavre. Collodd y Prwssiaid yn y frwydr oddeutu 15,000 o wŷr: ac er nad oedd colled y Ffrangcod yn llawn cymaint, eto rhaid ei bod yn fawr.

Y DUC WELLINGTON YN DERBYN Y NEWYDD.

Y newydd annysgwyliadwy o ymgynulliad lluoedd Ffraingc, a'u hymosodiad, dan eu clodfawr Flaenor, ar y Prwssiaid, a draddodwyd i'r Duc Wellington yn Brussels, y 15fed dydd, yn yr hwyr. Yr oedd y Duc, yn nghyda phrif swyddogion ei fyddin, wedi myned i ddawnsfa (ball) a roddid gan Dduges Richmond i'r Uchgadbeniaid. Daeth y brys-negesydd oddiwrth Blucher, ac a draddododd y llythyrau oedd yn cynwys y newydd i law y Duc Wellington yn yr ystafell ddawns. Buan y dygodd hyn gwmwl ar eu digrifwch a'u llawenydd. Yn hytrach na gwrandaw ar sain cerddorion, rhuad magnelau, adsain udgyrn, a churiad tabyrddau, a glywid mwy yn treiddio dros holl awyrgylch Brussels. Y mae yn amhosibl darlunio y braw a'r cyffro a barodd y fath ymweliad annysgwyliadwy yn y ddinas a'i hamgylchoedd. Yr oedd y milwyr wedi bod yn gwersyllu yno yn awr er ys talm o amser, a wedi dyfod yn hynod o gariadus. Yr oedd eu hymddygiadau hynaws a rheolaidd wedi dwyn mawr serch y dinasyddion, ac edrychid arnynt fel rhai wedi ymgorpholi â hwynt. Nid anfynych y gwelid y milwyr yn meithrin eu plant, yn gwarchod eu haneddau yn eu habsenoldeb, ac ar rai troion ymddiriedid yr Albaniaid yn enwedig â gofal eu nwyddau masnachol. Nid rhyfedd gan hyny iddynt achosi cymaint o bryder, a chael cymaint i gydymdeimlo â hwynt, pan ar droi eu cefnau ar eu dinas, lawer o honynt, yn ol pob argoelion, na ddychwelent iddi byth mwy. Yn ystod eu parotoadau, tra yr oeddynt yn casglu yn nghyd eu hamrywiol angenrheidiau, ceid y dinasyddion gyda hwynt, wedi gadael eu gwelyau yn nyfnder y nos, ar haner gwisgo am danynt, yn canu yn iach iddynt, ac yn traddodi eu goreu fendith ar eu penau. Yr oedd cymysg ofn am eu dyogelwch eu hunain a'u hamddiffynwyr dewrion, a'r perygl oedd yn ymgasglu oddeutu y ddinas, yn gweithredu mor drwm arnynt, fel nas gwyddent yn iawn pa beth i wneyd, na pha le i droi eu hwynebau. Yr oedd wedi dyfod i'w clustiau fod Buonaparte yn bygythio rhoddi eu dinas yn sathrfa ac ysglyfaeth i'w filwyr, os byddai yn fuddugoliaethus, ac y mae llawer o le i ofni fod gormod o wir yn hyn."

Y FYDDIN BRYDEINIG YN TROI ALLAN O BRUSSELS.

Fore yr 16eg y mae yr amrywiol gatrodau yn troi allan o Brussels, yn cael eu blaenori gan eu priodol Gadfridogion. Yn mysg y rhai blaenaf i wynebu y maes, caed dwy gatrawd Albanaidd, y 42ain a'r 92ain. Yn hoyw a llawen yr ymadawent a'r ddinas, gan seinio eu pibroch, a dangos pob arwyddion o ddewrder ac eofndra. Yr oeddynt yn gwneuthur i fyny ran o ddosbarth yr enwog Syr Thomas Picton, yr hwn oedd newydd ddyfod i Brussels y nos o'r blaen o Brydain. Mor fyrbwyll a dirybudd y bu raid i'n byddinoedd dewrion droi allan i gyfarfod â'u gelynion!

Fel hyn yr oedd lluoedd Prydain yn prysuro o Brussels i ymuno â lluoedd y Tywysog Blucher, i gydweithredu âg ef yn erbyn y Ffrangcod, y rhai oeddynt yn awr yn ymosod arno gydag ymroddiad digyffelyb. Yr oedd Buonaparte wedi rhagweled hyn, ac wedi dethol 30,000 o filwyr, a'u hymddiried dan ofal y dewr a'r gwrol Dywysog Ney, un o'i brif gadfridogion. Cyfarfu y rhai mwyaf blaenllaw o luoodd Prydain A'r rhai hyn mewn pentref a elwir Quatre Bras, yr hwn a enwir felly oblegyd fod y ffordd o Charleroi i Brussels yn croesi y ffordd o Nivelles i Namur yn agos i'r pentref, ac yn llunio pedair croesffordd. Yr oedd milwyr Ffraingc yno o flaen y Prydeiniaid. Yr oedd yn amhosibl i holl fyddin y Duc Wellington ddyfod i fyny yn gryno gyda'u gilydd, oherwydd fod iddynt waith parotoi, a bod rhai ohonynt yn gwersyllu yn mhellach n'au gilydd oddiwrth Quatre Bras. Ychydig gatrodau, ac yn enwedig yr Albaniaid, yn gwneuthur i fyny ran o ddosbarth yr enwog a'r dewr Gadfridog Picton, oedd y rhai cyntaf i ddyfod i olwg y gelynion. Nid oeddynt ond megys dyrnaid bychan o wŷr, mewn cymhariaeth i rifedi eu gwrthwynebwyr; er hyn oll, ni rusasant am un mynudyn eu gwrthwynebu, a chynal holl bwys yr ymdrech eu hunain. Rhyfedd yw meddwl i'r dewrion teilwng hyn ataly gelyn yn ei rwysg, nes iddynt gael eu gyfnerthu gan filwyr ereill, y rhai o hyd oedd yn dyfod i fyny o Brussels a'i chyffiniau. Tost a gwaedlyd iawn a fu yr ymdrechiadau y dydd hwn, oherwydd anghyfartalwch ein milwyr ni mewn cymhariaeth a'r Ffrangcod; er hyny safasant eu tir heb encilio trwch y blewyn; a chafodd yr haul, ar ei fachludiad, weled banerau Prydain yn chwyfio uwch ben yr un llanerch ag yr oedd wedi bod yn tywynu arnynt trwy gydol y prydnawn. Ond er iddynt hwy allu dal eu ffordd, yr oedd yn amhosibl iddynt beidio a theimlo mawr anesmwythdra mewn perthynas i ddiweddglo y frwydr rhwng Buonaparte a Blucher, canys yr odddynt ar hyd y dydd yn clywed swn eu magnelau. Yr oedd yr haul wedi codi ar y ddaear fore yr 17eg, pan dderbyniodd y Duc Wellington y newydd gofidus o orthrechiad yr hen wron, a'i fod, ar y pryd, yn encilio. Yr oedd y ddau Gadfridog, sef Blucher a Wellington, wedi cytuno o'r blaen, mai os gorchfygid ef, sef Blucher, y byddai iddo gilio yn ol, i dreflan a elwid Wavre, ac y byddai iddo yntau, sef y Duc Wellington, syrthio yn ol i'r cyfryw sefyllfa ag a'i gwnai yn gyfleus iddynt gydweithredu erbyn y deusi ail daro. Yn unol A'r drefn uchod, enciliodd y Tywysog, i Wavre; ac yn ddioed, wedi derbyn y newydd hyn, gorchymynodd y Duc i'w holl fyddin adael eu sefyllfa bresenol, a myned yn ol tua Brussels. Erbyn oddeutu 11eg o'r gloch, ar fore yr 17eg, yr oedd eu hamrywiol sefyllfaoedd yn Quatre Bras yn wag, a'r holl fyddin ar eu hymdaith, oddieithr ychydig o olosgyrdd, y rhai a drefnid yno er atal y Ffrangcod i ddyfod ar ol y fyddin, i'w haflonyddu ar ei henciliad. Yr oedd hi yn ddiwrnod hynod o wlybyrog, a'r ffyrdd wedi cael eu cafnio gan y llifogydd a'r magnelau, fel yr oedd bron yn ambosibl eu trafaelio, ac yn enwedig i'r gwageni a'r cadgelfi. Wedi taith o ychydig oriau, ac oddeutu saith milldir o bellder, cyrhaeddasant faes nodedig a bythgofiadwy Waterloo. Yna gorchymynodd y Duc i'r holl fyddin orphwyso, gan arwyddo ei fod yn bwriadu gwrthsefyll y gelynion yn y lle hwn. Dywedir fod y Duc, pan oedd yn ymdaith drwy yr Iseldiroedd, ac yn myned heibio y llanerch hon, wedi sylwi arni, a dywedyd, mai os byth y deuai i'w ran ef amddiffyn Brussels, y dewisai y fan hono fel ei sefyllfa filwraidd.

DYSGRIFIAD O FAES Y FRWYDR.

Yr wyf yn bwriadu yn awr roddi brås eglurhad o faes yr ymladdfa, a sefyllfaoedd y ddwy fyddin. Yr wyf yn meddwl mai y ffordd oreu, tuag at roddi rhyw syniad i'r Cymro o'r lle, fydd ei gyfeirio i lunio iddo ei hun ddyffryn tebyg iddo yn ei fro enedigol. Bydded iddo, gan hyny, ddychymygu dyffryn oddeutu tri chwarter milldir o led, ac ychydig dros ddwy o hyd, yn rhedeg o'r deau orllewin i'r gogledd ddwyrain, a llechweddi lled uchel o bob ochr. Wrth sefyll yn y pen deheuol, ac edrych tua'r gogledd ddwyrain, efe a genfydd fyddin Prydain ar yr aswy iddo, a byddin Ffraingc ar y ddeau. Yr oedd cadres Brydain wedi cael ei threfnu yn debyg i be baech yn tori cylch crwn yn ei hanner, ac yn troi y camedd at y Ffrangcod, ac yn gosod rhes o wŷr ar hyd yr ochr allanol iddo: felly byddai bob pen yn fynu i fewn ychydig, a'r canol yn fwy yn mlaen, fel hyn,)) Yr oedd y fyddin yn ddwy rês. Yr oedd y rhes gyntaf wedi cael ei gosod ar war trum, oddeutu haner ffordd i fyny y llechwedd, y tu ol i hen glawdd lled rwyllog, a ffos ag oedd yn rhedeg o dreflan Mynydd St. Jean, tua phentref Ohain. Yr oedd yr ail rês wedi ei chyfleu mewn pant, tu ol i'r drum, aci ryw raddau yn cael ei chysgodi rhag ergydion y gelynion. Y mae y llechwedd oddeutu La Haye yn lled goodiog, ac yn bur agenog, ac hyd yma y cyrhaeddai pen eithaf cadres Brydain, ar yr aswy. Y mae flordd yn myned o La Hayei Ohain a St. Lambert, ac ar hyd hon yr oedd Wellington yn dysgwyl yr hen Flucher i'w gynorthwyo. Yr oedd canolbwynt byddin Prydain ar gyfer pentref Mynydd St. Jean, oddeutu canol y bryn, yn agos i'r llanerch ag y mae y ffordd fawr o Brussels yn fforchi yn ddwy, un yn arwain i Nivelles, a'r llall i Charleroi. Yr oedd pen eithaf y fyddin, ar y ddeau, yn terfynu yn Merke Braine. Tua phen deheuol y fyddin, yn mhell y tu blaen, yr oedd lle o'r enw Hougoumont, tŷ gŵr boneddig, yr hwn a gylchynid o un tu â thai allan, ac o'r tu arall â gardd eang, yn llawn o rodfeydd. Yr oedd yr ardd hon yn cael ei chau allan â gwal uchel, a thu allan i'r wal yr oedd clawdd a ffos. Yn amgylchu y cyfan yr oedd tyrau o goed talgryfion yn gorchuddio yn nghylch pedair erw o dir. Yr oedd y llanerch hon o'r pwys mwyaf in milwyr ni. Yr oedd y lle ynddo ei hun fel rhyw gaer fechan, a thra safai yn meddiant y Prydeiniaid, yr oedd bron yn amhosibl i'r Ffrangcod lwyddo yn erbyn pen deheuol y fyddin. O'r tu arall, pe syrthiassi i ddwylaw y gelynion, buasai y Prydeiniaid yn yn cael eu caethiwo i'r llechweddi, a'u hysgogiadau yn cael eu cyfyngu i lawer llai o gwmpas. Rhoddasai fantais i Buonaparte i blanu ei fagnelau yno, ac anrheithio ein byddin, a'i maeddu, drwy saethu ar hyd y gadres. Rhoddwyd amddiffyniad y lle hwn i ofal dosbarth o'r Gosgorddion; a La Haye Sainte, yr hwn oedd ar gyfer canolbwynt y fyddin, ac oedd yn cynwys tŷ annedd, ac ychydig dai allan, a ymddiriedwyd ir Hanoveriaid. Y tu ol i'r clawdd, ar hyd y ffordd a grybwyllwyd, yr hwn sydd yn rhedeg o La Haye Sainte i La Haye, y trefnid dosparth ein cydwladwr Syr Thomas Picton. Dysgwylid mawr daro ar y lle hwn, oherwydd mai yma yr edrychid am fyddin Blucher i ddyfod i gyduno a'r Prydeiniaid. Nid oedd dim yn hynod yn sefyllfa Ffrangcod, namyn mai llechwedd oedd, lled debyg i'r ochr ar yr hon y safai y fyddin wrthwynebol. Yr oedd y dyffryn rhyngddynt yn hollol agored, heb ei ranu yn gaeau, na'i ddosbarthu â chloddiau, ac mewn rhai manau yn gulach na'i gilydd. Nid yw yn gwbl wastad, ond y mae ar hyd—ddo amrywiol bongciau a phantiau. Ar y dydd nodedig hwn yr oedd yn cael ei orchuddio ag yd, bron yn barod i'r cryman, ac yn tyfu can uched ag ysgwyddau yr ymrafaelwyr, Yr oedd dyfodiad y Prydeiniaid i'r lle yn gynarol y dydd o'r blaen, sef yr 17eg, yn fantais fawr iddynt. Cafodd y gwyr amser i orphwyso, i lanhau ei harfau, ac i'w cynysgaethu eu hunain â phob anghenrheidian anhebgorol. Cafodd y Duc Wellington hefyd amser i drefnu ei fyddin, i gadarnhau pob lle yn y modd goreu. Yn hyn cynorthwyid ef yn fawr gan ddau beiriannwr enwog, y rhai oeddynt hynod o gyfarwydd yn y gelfyddyd o drefnu a hwylio y magnelau. Dywedir fod y Duc Wellington wedi gorchymyn i ddarlun o'r fan gael ei dynu, pan ymwelodd a'r lle dro yn ol, fel y soniwyd, ac iddo alw am hwnw yn awr, er ei gynorthwyo i drefnu ei barotoadau amddiffynol. Wedi gorphen y cyfan, efe a neillduodd i bentref Waterloo, yn nghydag amryw o'r prif gadfridogion, lle y lletyodd am y noson, Gorphwysai y milwyr yn y lle, a'u pwys ar eu harfau. Ac yr oedd lluoedd Ffraingc yn dyfod i fyny ar hyd y nos, i fod ar y bryn ger llaw iddynt. Yr oedd y tywydd yn hynod o dymhestlog drwy y nos, yn goleuo mellt ac yn taranu yn y fath fodd na chanfu ein milwyr na'u blaenoriaid erioed ei gyfryw. Yr oedd y gwlaw yn ymdywallt yn genllifoedd, a hwythau heb unrhyw gysgod. Yr oedd y taranau a'r mellt fel pe buasent yn ymryson yn eu ffyrnigrwydd a'r hyn oedd i gymeryd lle dranoeth.

Cynwysai byddin Prydain mor agos ag y gellir barnu yn nghylch 82,000, ac a wneid i fyny fel canlyn:—Prydeiniaid, 38,000;—Lleng Ellmynaidd, 8,000;—Hanoveriaid, 14,000;—Lluoedd y Duc Brunswick a'r Belgiaid, 22,000.—0 wŷr traed, 62,000— Gwŷr meirch, 15,000;—Magnelwyr a pheiriannwyr, 5,000. Cynwysai byddin Ffraingo yn nghylch 90,000, Lletyai Buonaparte mewn treflan fechan a elwir Planchenoit Noswyl arbenig oedd hon i'r milwyr a'u cadfridogion o bob ochr: a chyda dysgwyliad pryderus am gyflafan erchyll, yr hon y byddai iddi y canlyniadau mwyaf pwysig, yr arosasant am wawriad y 18fed o Fehefin.

GWAWRIAD BORE Y FRWYDR.

Wedi noson o wyliadwriaeth a phryder, o'r diwedd fo wawriodd bore y 18fed, ac erbyn hyn yr oedd y ddwy fyddin elynol yn ngolwg eu gilydd. Yr oedd Buonaparte wedi mawr ofni y byddai i'r Prydeiniaid omedd sefyll brwydr âg ef, ac na arosent yn eu henciliad nes cyrhaeddyd eu llongau: ond pan welodd hwynt wedi eu trefnu yn barod i'w wrthsefyll, ar lechwedd gyferbyn âg ef, dywedir iddo dori allan mewn mawrffrost a gorfoledd, "Ah! dyma fi wedi cael y Saeson i'm gafael o'r diwedd." Mor awyddus oedd ef i ddechreu yr ymgyrch, ac mor sicr oedd o fod yn fuddugoliaethus, fel yr oedd yn hyrddio yr ol—fyddinoedd i brysuro yn mlaen, ac i gymeryd eu sefyllfaoedd priodol. Ni ddarfu iddo unwaith gymaint a breuddwydio fod yn ddichonadwy iddo gael ei orchfygu, o ba herwydd ni wnaeth unrhyw ddarpariaeth ar gyfer enciliad. Gallwn fod yn sicr mai nid llawer o ddydd a allyngai y Duc Wellington i fyned heibio heb ei ddefnyddio i ymbarotoi yn effeithiol erbyn yr ymosodiad ofnadwy ag oedd ar gael ei wneuthur arno. Yr oedd efe gyda'r fyddin ar lasiad y dydd; ac oddeutu pedwar o'r gloch y bore anfonodd geuadwr at yr hen Flucher, yr hwn, yn nghyda'i fyddin, oedd yn nhref Wavre, oddeutu 15 milldir o faes Waterloo. Yr oedd y genad i hysbysu i'r hen wron fod y Duc Wellington wedi cymeryd ei sefyllfa ar gyfer Waterloo, a'i fod wedi penderfynu yno wrthsefyll y Ffrangood; ei fod yn dymuno arno ef (Blucher) anfon dau ddosparth o'i fyddin er ei gyfnerthu. Ond yr hen wron, yn hytrach nag anfon dau ddosparth, a atebai, y byddai iddo ef, a phob dyn yn ei fyddin, ddyfod i'w cynorthwyo i orchfygu ei hen elyn cyn gynted ag y medrai eu traed eu cario. Y mae y cenadwr a anfonwyd yn dywedyd fod awydd y Prwssiaid i ddyfod i gefnogi eu cyfeillion y Saeson, yn fawr dros ben. Fel yr oedd ef, ac un neu ddau ereill o beirianwyr Lloegr, y rhai a anfonasid er eu cynorthwyo i ddyfod yn mlaen, yn marchogaeth ar hyd eu rhengau, anerchid hwy gan y milwyr, "O! sefwch eich tir, ddewrion Brydeiniaid, nes i ni ddyfod yn help i chwi." Ac ni arbedasant na thrafferth, na phoen, na llafur, i brysuro eu hynt. Ond yr oedd y ffyrdd rhyngddynt a Waterloo yn hynod o ddrwg, ac wedi cael eu hagenu a'u cafnio gan y gwlawogydd diweddar, fel yr oeddynt bron yn annheithiadwy, ac yr oedd yr haul wedi gwyro yn mhell yn ei orllewinol chwyl cyn bod iddynt hwy na rhan na chyfran yn ngyflafan Waterloo. Pan ystyriom fod twrf y magnelau yn rhuo yn eu clustiau drwy gydol y dydd, a'u bod, trwy ystod eu taith, yn clywed trin yr ymgyrch, pwy all ddirnad eu hawydd a'u hymegniad i gyrhaeddyd y llanerch?

O'r diwedd, gwelai y Prydeiniaid rhyngddynt a'r goleuni, y drum ar eu cyfer yn cael eu llenwi â gwŷr meirch, y rhai a ymddangosent fel cymylau duon yn tywyllu y terfyngylch; ac am fod ein gwyr meirch ni yn barod i'w derbyn, tybid yn gyffredinol drwy y fyddin y cymerai ymdrech le rhwng y rhai hyn yn gyntaf, ac na chai y gwŷr traed ddim i'w wneyd ond bod yn edrychwyr. Ond yn fuan fe symudwyd y cam- gymeriad drwy i un o swyddogion Ffrainge ddyfod trosodd at ein byddin ni, yr hwn a hysbysai i'r Due Wellington fod ymosodiad cyffredinol ar gael ei wneyd, bron ar yr un amser, ar y ddeau, y canol, a'r aswy. Ymddengys mai ymgais penaf y Duc oedd gallu sefyll ei dir hyd oni ddeuai y Prws- iaid, y rhai, drwy chwanegu at rifedi ei filwyr, a chwyddai ei fyddin i fwy o nifer na'r Ffrangood. Dysgwylid hwy oddeutu unarddeg neu ddeuddeg o'r gloch, ond oherwydd bod y ffyrdd mor ddrwg, fel y soniwyd, ni ddaethant hyd yr hwyr. Yr oedd Buonaparte, o'i du yntau, yn gobeithio y byddai iddo, drwy ei ymosodiadau ffyrnigwyllt a diderfyn, ddadymchwelyd y Prydeiniaid cyn i'r Prwasiaid ddyfod i fyny. Yna yr oedd yn tybio y cai hamdden i ddinystrio byddin Blucher, trwy ymosod arni tra ar ei thaith yn dyfod i gynorthwyo y Prydeiniaid. Ymddiriedai aden aswy ei fyddin i'w frawd Jerome, yr hwn a ystyriai yn filwr tra enwog; ei chanol i Gount Reille a D'Erlon; a'r aden ddeheuol i Gount Loban. Yr oedd y ddau flaenor, o'u hamrywiol sefyllfaoedd, mewn cyflawn olwg o'r holl faes; ac mor agos oedd y ddwy fyddin at eu gilydd fel yr oeddynt yn gweled yn eglur bob ysgogiad o eiddo y naill neu y llall. Yr oedd Buonaparte yn bwriadu agoryd y frwydr hon fel y byddai arferol, drwy gadw ei osgorddion wrth ei law, fel y byddai iddo ymosod gyda hwynt, wedi i aml a mynych ruthr colofn ar golofn, a mintai ar fintai, wanychu a digaloni ei elyn. Ond nid oedd ei ysgogiadau mor gyflym ag y buasai yn dysgwyl. Yr oedd ei fyddin wedi dyoddef yn drwm oddiwrth y dymhestl y noson o'r blaen; ac yr oedd llawer o'r milwyr ar eu taith drwy y nos, ac ni ddaethant i ymuno a'r fyddin ar La Belle Alliance hyd 10 neu 11 o'r gloch fore y deunawfed. Wrth weled eu colofnau yn gwau drwy eu gilydd ar hyd y llechwedd ar eu cyfer, rhai yn troi i'r dde, ereill i'r aswy, ac ereill yn trefnu eu hunain yn y canol, yr oedd ein byddin ni wedi ei llenwi â rhyw ddystawrwydd pryderus. Dysgwylient yn awyddus i edrych pa bryd, ac o ba gar, y deuai yr ymosodiad cyntaf.

DECHREUAD YR YMOSODIAD.

O'r diwedd gwelent y gwŷr meirch, y rhai o'r blaen oodd fel cymylau rhyngddynt a'r goleuni, yn symud i waered; ac am 11eg o'r gloch, ar yr un munudiau ag yr oedd sain heddychlawn y gloch Eglwys yn galw eu cydwladwyr yn Mhrydain i addoli Duw ar ei ddydd, yn ei deml a'i gysegr, seiniad udgyrn, curiad tabyrddau, rhuad magnelau, ac anferth drwst parotoadau rhyfelgar oedd yn llenwi eu clustiau hwy ar faes Water- loo. Dechreuodd y frwydr drwy gyflegriad dychrynllyd o du y Ffrangood, dan gysgod yr hwn yr oedd Jerome Buonaparte i arwain mintai luosog, yn nghylch 30,000 yn erbyn Hougoumont. Yr oedd yr ymosodiad hwn wedi cael ei drefnu gan yr Ymerawdwr ei hun, ac yn cael ei wneuthur o flaen ei lygaid. Gwyddai fod y lle hwn o'r pwys mwyaf i'n byddin ni, a'r fantais annhraethol a ddeilliai iddo o'i gymeryd; ac y mae yn ddiameu na adawwyd dim a allai dyfais a dewrder ei ddychymygu er gwneuthur y rhuthr yn llwyddiannus. Mor ffyrnigwyllt ac arswydus oedd yr ymosodhad fel yr ysgubasant o'u blaenau y milwyr tramor, sef Nassau Usaingen, y rhai oodd yn y coed o flaen Hougoumont, a rhuthrasant yn mlaen, gan ddadymchwel pob rhwystr, hyd nes y daethant at lidiart y farmyard, lle yr oedd dosparth o'r Gosgordd- ion Seisonig yn barod i'w derbyn. Wedi eu dyfod yn lled agos, taniasant arnynt eu holl ddrylliau ar un waith yr hyn a arafodd eu camrau; a'r rhai a anturiasant yn mlaen a dderbyniwyd ar flaenau y bidogau. Mor ofnadwy oedd y gyflafan yn y llanerch hon, fel mewn llai na haner awr yr oedd 1,500 o gyrph meirwon yn hulio y berllan yn unig. Olynol, fel tonau ewynawg yr eigion, dylifai minteioedd y gelyn yn erbyn y lle hwn; a'r Gosgorddion Saosonig, i'r rhai yr ymddiriedid ei gadwraeth, fel creigiau cedyen a wrthsafasant eu holl ymgyrch, gan daflu yn ol eu hymosodiadau brochus, yn ddrylliedig ac ar wasgar, Yr oedd pob un yn ymladd fel pe buasai yn ymddibynu ar ei ymdrechiadau personol ef et hun droi mantol y frwydr o ochr Brydain. Yr oedd y magnelau oddi ar y bryn yn tywallt eu cynwysiadau dinystriol ar y lle ar yr un pryd. Anturiai rhai o'r Ffrangcod dros y clawdd i'r berllan, lle y byddai blaenau llymion cannoedd o fidogau yn barod i'w derbyn. Yna tröent eu hymgais yn erbyn y tŷ a'r tai allan, y rhai, o'r diwedd, a gymerasant dân; ond yn nghanol y tan a'r mwg a'r cwbl, ni phallodd y Gosgorddion yn eu hymdrechiadau. Yr oeddynt yn ymladd yn nghanol y flamau, nid oedd dim ond angeu ei hun a'u hataliai. Ond och! i'r rhai hyn yr oedd cannoedd o'r clwyfedigion wedi ymlungo am gysgod, a thrwm yw adrodd iddynt drengu oll yn y fflamau! Yr oedd eu cyfeillion o'r tu allan yn rhy brysur i wrandaw ar eu hysgrechau, ac yr oedd hyd yn nod pob munudyn o gymaint pwys, fel nad allent ganiatáu amser i'w hachub! Er holl ymgais y Ffrangood ni lwyddasant. Ein milwyr dewrion, gyda mwy o wrolder nag y gall tafod draethu, a'u gorthrechasant ymhob ymgyrch, a chadwasant y lle yn eu meddiant drwy gydol y dydd.

YMWELIAD A MAES Y FRWYDR.

Rhoddwn lythyr y Parch. Mr. Rudge, yr hwn a ymwelodd â maes Waterloo ychydig ddyddiau wedi y frwydr. Efe a ddyry yr hanes canlynol o Hougoumont:— "Ond wedi y cyfan nid oedd unrhyw fan o faes yr ymladdfa a ddygodd fy sylw yn fwy na thŷ a gardd Hougoumont, lle y dechreuodd yr ymladdfa. Yn y lle hwn treuliais rai munudiau mewn synfyfyr mawr. Yn y llanerch hon y bu y frwydr yn fwyaf gwaedlyd. Yma y dangosodd y milwyr Saesonig y fath ddewrder pwyllog, a grym corphorol, nes gwneyd yn gwbl ofer holl ymosodiadau dychrynllyd y Ffrangcod. Profodd pob Prydeiniad ei hun yma yn wron. Yr oedd yr holl dai fel rhyw hen furddynod pan ymwelais i a'r lle. Nid oedd unrhyw ran yn gyfan: ond yr oedd y cwbl i edrych arnynt yn arswydus. Yn un o'r tai, nen a mur yr hwn oedd wedi dryllio yn fawr, yr oedd ystafell eang, ar yr hon yr oedd cannoedd o gyrph y meirw yn gorwedd wedi eu llosgi. Yr oedd eu lludw eto yn mygu, ac yr wyf yn sicr na ryfygwn pe dywedwn fod lludw y meirw yn y fan hon yn dair troedfedd o ddyfn. Yr oedd yr ardd ag oedd yn perthyn i'r tŷ yn lled helaeth, ac mi feddyliwn ei bod ar y cyntaf wedi ei threfnu yn hardd a dillynaidd. Yr oedd yn cael ei chylchynu â gwal gadarn, yr hon a gaed yn gysgod i'n gwŷr ni, i'r rhai yr ymddiriedwyd y lle. Ar ei chyfer yr oedd coedwig fechan, yn yr hon yr oedd y Ffrangcod; ac oddi yma tanient arnynt drwy gydol y dydd, a'n gwyr dewrion ninau a ergydient arnynt hwythau drwy fylchau a dorasent yn y wal. Yr oedd effeithiau y bwledau ar y coedydd â rhyw beth yn hynod ynddynt. Nid oedd gymaint a choeden nad oedd wedi ei thyllu yn mhob cwr. Yr oedd brigau y coedydd yn llawn dail, ac yn edrych yn goch, a'u gwyrddlesni arnynt, a'r bonau yn ysgythrog, wedi eu tyllu a'u dirisglo. Yn agos i'r tŷ anedd y mae y llanerch lle y claddwyd, neu y llosgwyd dros fil o laddedigion. Yr oedd yr arogl yn y lle hwn yn hynod o drymllyd! ac mewn rhai manau gallech weled rhyw ranau o'r cyrph. Yr oedd y pridd ag oedd yn eu cuddio wedi gostwng, gan ddwyn i'r golwg fraich mewn un cwr, gwyneb yn y cwr arall, &c. Yr oedd pob peth yn profi dychrynfeydd a galanastra rhyfel! O bob ochr, yr oedd ar led wedi eu taenu arfau a dillad y rhai trengedig; esgidiau, capiau, gwregysau, a phob ceryn milwraidd arall, wedi eu llychwino â gwaed, neu eu toi â chlai a phridd tomlyd. Yn y maesydd yd, y rhai oedd wedi cael eu mathru a'u migno gan garnau y meirch a thraed y milwyr, yr oedd nifer o lyfrau, tocynau, a llythyrau. Yr oedd amryw o honynt yn Saesoneg, ychydig o'r rhai a ddarllenais, ac yn enwedig un oddiwrth un o'r milwyr at ferch ieuangc yn y pen gogleddol i Loegr, yn yr hwn y rhoddai iddi hanes ei fod yn mrwydr yr 16eg, af fod mor ffawdus a diangc heb ei glwyfo; ei fod yn dysgwyl brwydr arall, ac yn gobeithio y cymerid Boni, y gosodid pen ar y rhyfel, ac yna y cai ddychwelyd, a bod yn ddedwydd gyda'i—am y gweddill o'i ddyddiau. Yr oedd y llythyr hwn wedi ei ddyddio y 17eg, a'i lwybreiddio, ond heb ei selio. Pan ddychwelais i Loegr, ysgrifenais at y person i'r hon yr oedd wedi ei gyfeirio, gan ei roddi y tu fewn, a hysbysu hefyd y dull a'r modd y cawawn ef." Wedi ffaelu o'r ymosodiad ar Hougoumont, deuodd yr ymdrech yn gyffredin drwy bob cwr i'r fyddin. Tröwyd ffroenau mwy na dau gan' magnel yn erbyn y Prydeiniaid, a than gysgod y rhai hyn yr oedd ymosodiadau y gwŷr traed a'r gwŷr meirch braidd yn afrifed. Gwelid colofnau cedyrn yn dyfod allan o bob cwr, y rhai a esgynasant yr ochr ar yr hon yr oedd milwyr Lloegr, ac a ruthrasant a'u holl rym ar eu hysgwariau. Ond er bod magnelau y Ffrangcod yn medi i lawr rengau cyfain o'n bechgyn dewrion, ni oddefid i'r gelyn gymeryd y fantais leiaf ar hyn. Llenwid y bylchau i fyny yn ddioed gan ereill parod i aberthu eu heinioes yn achos eu gwlad; a chlywid Buonaparte yn tori allan mewn canmoliaeth iddynt, drwy ddywedyd wrth y wwyddogion oedd o'i ddeutu, "Onid ydynt yn filwyr dewrion! gwelwch mor odiaeth y cyflawnant eu hysgogiadau, ao y cymerant eu hamrywiol sefyllfaoedd! Y mae yn resyn eu dyfetha, ond myfi a'u trechaf wedi'r cwbl."

YR YMOSODIAD AR LA HATE SAINTE

Try yr ymosodiad yn awr yn erbyn canol ein byddin, ar gyfer Mount St. Jean. Prif wrthddrych yr ymosodiad oedd y tŷ fferm o'r enw La Haye Sainte. Lle o fawr bwys i'r Prydeiniaid oedd hwn. Yr oedd Boni yn meddwl y byddai iddo drwy lwyddo yma, dori drwy ganol y fyddin, a gwneyd ei ffordd i Brussels. Yr oedd y lle ychydig yn mlaen i sefyllfa corph y fyddin, efallai oddeutu 300 o latheni. Ymddiriedwyd ei gadwraeth i'r lleng Ellmynaidd y rhai nid oeddynt yn ol mewn dewrder i oreuon milwyr Prydain. Gwyddai pob ochr yn dda ddigon werth y lle, ac ymdrechasant yn ol hyny, o un tu i'w amddiffyn, o'r tu arall i'w gymeryd. Yr oedd yr ymosodwyr yn gynwysedig o bedair byddin o wyr traed, a mintai anferth o'r cuirassiers yn eu blaenori. Deuodd y rhai hyn yn mlaen ar lawn carlam ar hyd ffordd Genappe, ac yma cyfarfu- wyd â hwynt gan oreufeirch Prydain, ac ofnadwy a dychrynllyd fu yr ymdrech. Yr oedd swn a thrwst eu cleddyfau i'w glywed yn mhell, a hir y buont yn ymladd wyneb yn wyneb, a chledd yn nghledd, nes o'r diwedd i wŷr Ffraingc gael eu llwyr orthrechu. Y pedair colofn o wyr traed, y rhai a ddetholid i wneuthur yr ymosodiad, a ruthrasant yn mlaen drwy bob rhwystrau nes cyrhaeddyd i dy fferm La Haye Saintee, yno gwasgarasant gatrawd o'r Belgiaid, ac yr oeddynt yn y weithred o sefydlu eu hunain yn nghanol sefyllfa y Prydeiniaid, pryd y dygwyd i fyny fyddin y Cadfridog Pack i'w gwrthwynebu. Rhan o'r fyddin Ffrengig, oddeutu yr un amser, a amgylchynasant y ty fferm, a thost a gwaedlyd iawn a fu y gyflafan o'i ddeutu. Ond trwy ryw ddrwg anffawd, fe ddarfu powdwr a bwledau y Lleng Ellmynaidd, yr hyn a roddes i'r Ffrangcod gyfryw fantais ag a'u gwnaeth yn feddianwyr o'r lle. Gwthiasant yr holl Ellmyn i angeu ar flaenau eu bidogau. Yr oedd Buonaparte yn syllu yn graff o'i dŵr gwylio i edrych pa wedd y tröai yr ymosodiad hwn allan, a phan welodd ei wyr yn lwyddo yn eu hymgais yn erbyn y tŷ fferm, yr oedd yn llawn ffrost a gorfoledd, gan benderfynu fod y fantol yn troi o'i ochr, ac y caffai gyflawn fuddugoliaeth. Yn ddioed y mae efe yn anfon brys-negeswyr i Paris, i ddywedyd fod y frwydr wedi ei henill. Dros awr gyfan y parhaodd yr ymosodiad yn amheus, Yr oedd pob ochr yn gyru i fyny fyddinoedd cynorthwyol, a phob modfedd o dir a ystyrid o'r canlyniad mwyaf i'w enill neu i'w golli. Y Cuirassiers a'r Lancers a ruthrent yn mlaen ac a hyrddient eu hunain ar yr ysgwariau. Gyda dewrder digyffelyb, marchogent eu ceffylau o gwmpas yr ysgwâr i edrych a gaent fwlch yn rhywle, ond y cwbl yn ofer. Dro arall deuai ychydig o honynt allan o'u cadres, gan farchog i wyneb yr ysgwâr; a saethu at y swyddogion, a heriaw y milwyr yn ysgoywedd, i edrych a allent eu hanog i danio eu drylliau, fel y byddai i gorph y gadres ruthro arnynt, cyn gallu o honynt ail-lwytho eu drylliau; ond y cyfryw ydoedd dysgyblaeth a dewrder pwyllog y milwyr, fel y dyoddefasant hyn oll heb saethu ergyd.—Cymeriad tŷ fferm La Haye Sainte yw yr unig fantais a gafodd Buonaparte yn erbyn Duc Wellington yn y frwydr waedlyd hon; a nid oedd hyn ond mantais fechan wedi y cyfan. Am fod y lle mor agos i sefyllfaoedd ein magnelau, yr oeddynt yn ymdywallt arno yn y fath fodd dychrynllyd, fel y bu raid i'r cadfridog anfon yn ddioed at Buonaparte i hysbysu iddo fod yn amhosibl iddynt ei gadw, heb gael eu dinystrio oll, heb adael un yn weddill. Cyn pen nemawr, bu raid iddynt ei adael Mae llawer yn barnu fod y frwydr, yn ystod yr ymosodiad ar La Haye Sainte a Mynydd St. Jean yn hynod o amheus. Barnant, pe buasai Buonaparte yn sefydlu magnelau yn ddiatreg ar La Haye Sainte, ac yn dwyn i fyny y milwyr ag oedd ganddo wrth gefn, y buasai braidd yn amhosibl hyd yn nod i dalentau Wellington, na dewrder ei filwyr, eu gwrthsefyll. Ond Rhagluniaeth, er hedd Ewropia, ac ereill ddybenion pwysig, a drefnodd yn wahanol. Yn yr ymgais hon, fel yr holl rai blaenorol, efe a aflwyddodd. Yr oedd y Duc, yn nghanol yr holl derfysg, yn hynod o bwyllus ac arafaidd. Dywedir, pan oedd yn syllu trwy ei yspienddrych ar y fintai luosog a chadarn ag oedd yn wynebu ar Hougoumont, yn nechreu y frwydr, iddo lefain wrtho ei hun, "Yn awr, fy anwyl osgorddion, curwch hwy yn ol." Dro arall pan ddygwyddodd iddo fod yn gyfagos i'r 95 gatrawd, a chanfod fod mintai arswydus o wyr meirch yn ymbarotoi i ruthro arni, efe a farchogodd i fyny at y gatrawd, gan waeddi, "Sefwch yn sad, 95, ni wiw i ni gael ein curo, beth a ddywedant hwy yn Mhrydain?"—Yr oedd Buonaparte o'i ochr yntau, wrth weled y frwydr yn fwy aflwyddianuns nag y dysgwyliodd, yn dyfod yn amhwyllus a phigog. Deuodd cenad ato, i hysbysu iddo fod pethau yn ymddangos yn lled wgus, efe a drôdd ei gefn ar y genad, ac ni fynai ei wrandaw. Nid oedd dim yn awr ond hyrddio ei wyr yn mlaen, mintai ar ol mintai, rhuthr ar ol rhuthr; ac fel yr oedd y rhai hyn yn aflwyddo, yr oedd ei ddigllonedd yn cynyddu. Ei ateb i bob newydd anghysurus oedd, "Rhagoch, rhagoch." Yr oedd ei ymddygiad yn llenwi y milwyr a'u blaenoriaid â hollol ddibrisdod, ac yn peri iddynt anturio eu bywydau yn ddirfawr a diarswyd. A llefaru yn ddynol, ni fuasai un fyddin arall dan haul yn gallu gwrthsefyll y fath ymosodiadau; ac y mae y fuddugoliaeth i'w phriodoli gymaint i bwyll ac amynedd y milwyr ag i'w dewrder.

YR YMOSODIAD AR GANOLBWYNT EIN BYDDIN,

Nid allai dim fod yn fwy ofnadwy na dull ymosodiad y Ffrangcod, o dan Iarll D'Erlon, ar ganol ein byddin. Fe'u harweiniwyd yn mlaen gan fagnelau, y rhai oeddynt yn bwrw cawodydd o beleni; ac yn y pen blaen yr oedd y Cuirassiers, mewn gwisgoedd haiarn, ar y rhai y clywid y peleni yn seinio, ac yn neidio ymaith heb niweidio y gwisgydd.

Cyfarfyddodd y Saeson yr ymosodiad yma yn ddiarswyd. Darfu i Syr Thomas Picton, heb aros yr ymosodiad, ffurfio el ddosparth i ysgwariau, cynwysedig o dri chatrawd, a chyda mintai Syr Denis Pack, cynwysedig o dri chatrawd, aethant yn mlaen i'r ymosodiad. Y Ffrangcod, ar ol dyoddef colled ddirfawr, a yrwyd i'r gwastadedd. Ymosododd marchfilwyr y Cadfridog Ponsonby ar asgell o'r fyddin Frangcaidd, pan y taflasant ymaith eu harfau, ac a ddiangasant bob ffordd. Cymerwyd eryr a dwy fil o garcharorion. Ond dylynodd y marchfilwyr Saesonig hwynt yn rhy bell; taniwyd arnynt gan golofn arall; a thrwy i fintai o farchfilwyr Ffrengig ymosod arnynt, gyrwyd hwynt yn ol gyda chryn golled. Yr oedd mintai Ponsonby yn gynwysedig o'r Royal Dragoons, Scotch Greys, a'r Enniskillens—byddinoedd Saesonig, Ysgotaidd, a Gwyddelig. Gwnaed yr ymosodiad yn dra doeth, canys nid cynt y gwelodd ef y milwyr Ffrengig mewn ymladdfa boeth, nag yr arweiniodd ei fintai i fyny ar hyd y llechwedd, ac yr aeth rhwng yr ysgwariau Prydeinaidd. Llym a gwyllt y seiniai y bibell o'r rhengau Yagotaidd, yn gymysgedig a'r bloeddiadau, "Scotland for ever!" Pan welodd milwyr y catrawd Yagotaidd eu cydwladwyr eon, y Scotch Greys, yn dyfod i'w cynorthwyo, atebasant yn llawen gyda'r cyffelyb fanllefau rhyfelgar, a rhuthrodd yr oll o'r fintai eon ar unwaith ar y gelyn. Nis gallai y Ffrangood sefyll yn erbyn y fath ymosodiad, diangasant ar unwaith—ac fel y nodwyd darfu i'r Prydeiniaid, yn eu penboethni, eu dylyn yn rhy bell. Yn yr erlyniad eon ond anghall yma y collodd Syr William Ponsonby ei fywyd. Gwelodd eofndra dibris ei filwyr gyda fath bryder, fel yn ei ofn am eu dyogelwch y collodd pob gofal am dano ei hun. Gan yspardynu ei geffyl, carlamodd ar eu holau, heb ond un swyddwr gydag ef. Yn fuan daeth i gae lle yr oedd y ddaear mor feddal fel y suddodd ei geffyl, creadur ieuangc, odditano ef. Pan yn ymdrechu dyfod allan, gwelodd fintai o'r Lancers Ffrangig yn dynesu, a chan weled nad oedd ganddo un gobaith i ddiangc, tynodd allan gyda phob brys awror a darlun, a phan yn y weithred o'u rhoddi i'r swyddwr, i'w rhoddi i'w wraig, daeth y lancers i fyny, a lladdwyd y ddau yn y fan. Cafwyd hyd i gorph Syr William Ponsonby ar ol y frwydr, yn gorwedd wrth ymyl ei geffyl, gyda saith o archollion oddiwrth y picellau. Ond ni chwympodd yn ddiddial; cyn diwedd y dydd cafodd y lancers eu tori i lawr bron i gyd gan y fintai ddewr a arweiniesid mor eon yn eu herbyn gan y swyddwr hwnw, cyn ei farwolaeth. Yn ol cofiant Syr Thomas Picton,—"Yr oedd y colofnau Ffrengig yn cerdded wrth ochr y gwrych, aeth y Saeson yn mlaen i'w cyfarfod hwynt, ac yr oedd ffroenau eu drylliau bron yn cydgyffwrdd. Gorchymynodd Picton i fintai Syr James Kempt fyned yn mlaen; llamasant dros y gwrych, a derbyniwyd hwynt gan gyflegriad arswydus. Yna cymerodd ymdrech ofnadwy le; rhuthrodd y Saeson gyda ffyrnigrwydd ar eu gwrthwynebwyr, heb aros i lenwi eu drylliau, ond ymddibynu yn gwbl ar eu bidogau. Yr oedd taniad y Ffrangcod, modd bynag, wedi lleihau eu nifer yn erchyll, ac yr oeddynt yn ymladd o leiaf chwech i un. Gorchymynodd Picton, gan hyny, i fintai y Cadfridog Pack fyned yn mlaen. A chan floeddio, "Ymosodwch! Hwrê! hwrê!" fe'u harweiniodd hwynt yn mlaen ei hun. Dychwelasant y fanllef tra y dylynent ef â phenderfyniad pwyllog, yr hyn yn ol geiriau y blaenor Yspaenaidd Alava, a "arswydodd y gelyn."

MARWOLAETH SYR THOMAS PICTON.

Cadwodd y cadfridog tu ol i'r gadres, gan ei hanog trwy ei siampl ei hun. Yn ol bryslythyr y Duc Wellington, "hwn oedd un o'r ymosodiadau mwyaf ofnadwy o eiddo y gelyn ar ein sefydliad ni." Yr oedd cadw hwn draw, o ganlyniad, o bwys annhraethol i lwyddiant y dydd. Gwyddai Picton hyn, a theimlodd yn ddiameu y gwnai ei bresenoldeb ei hun dueddu yn fawr i lenwi ei ddynion â gwroldeb. Yr oedd yn edrych ar ei gadres eofn, gan chwyfio ei gleddyf, pan y tarawodd pelen ef ar ei gern (temple), ac efe a syrthiodd yn ol ar ei gefn yn farw. Pan welodd Cadben Tyler ef yn syrthio, disgynodd yn union oddi ar ei geffyl, a rhedodd i'w gynorthwyo, a thrwy gymhorth milwr, cariasant ef oddiar ei geffyl; ond yr oedd pob cymhorth yn ofer—yr oedd ei yspryd wedi cymeryd ei hedfa. Cymro ydoedd y dewrgalon a'r gwrol Picton, genedigol o sir Gaerfyrddin, ac y mae cofadail iddo yn nhref Caerfyrddin.

Yr oedd rhuthr y frwydr yn myned yn mlaen, a'r lluaws gwrthwynebol wedi ymgyfarfod, ac nis gallai neb fod yn segur yn y fath amser. Gosodwyd ei gorph gan hyny o dan goeden, lle y gellid yn hawdd gael hyd iddo pan fyddai y frwydr drosodd.

Ar ol bod yr ymdrech waedlyd trosodd, ac i'r Saeson buddugoliaethus gael eu galw yn ol i faes y frwydr, gan adael y Prwssiaid i erlyn ar ol y gelyn, aeth Cadben Tyler i chwilio am gorph ei hen gadfridog, ac a'i cafodd yn hawdd. Wrth chwilio, cafwyd fod y belen wedi suddo i'w gern chwith, a myned trwy yr ymenydd, yr hyn o angenrheidrwydd a achosodd angeu disyfyd.

Wrth edrych ar wisg Syr Thomas Picton ar brydnawn y 18fed, ychydig oriau ar ol ei farwolaeth, canfyddwyd fod ei amwisg wedi rhwygo ar un ochr. Arweiniodd hyn i ymchwiliad pellach, ac yna daeth y gwirionedd yn amlwg:—Ar yr 16eg yr oedd wedi cael ei glwyfo yn Quatre Bras: tarewsid ef gan belen, a thorwyd dwy o'i asenau, heblaw gwneyd rhai niweidiau tumewnol; ond, gan ddysgwyl yr ymladdid rhyfel boethlyd mewn ychydig amser, cadwodd ei glwyf yn ddirgel, rhag ofn y cymhellid ef i absenoli ei hun. O'r amser y gadawsai y wlad hon, hyd nes yr ymunodd a'r fyddin, nid aethai i'w wely unwaith—prin y rhoisai ddigon o amser iddo ei hun i gymeryd lluniaeth, gan mor awyddus ydoedd yn ngyflawniad ei ddyledswydd. Ar ol y clwyf tost a dderbynissai, gallasai ef ymatal yn gyfiawn rhag ymuno â'r fyddin ar y 18fed. Yr oedd ei gorph nid yn unig wedi duo ar ol ei glwyf cyntaf, ond wedi chwyddo yn fawr; a'r rhai hyny a'i gwelsant, a ryfeddent iddo gymeryd rhan yn nyledswyddau y maes.

Yn yr ymosodiad ofnadwy ag y soniwyd am dano, yr oedd y Currassiers yn hynod o amlwg. Teimlid eu hymosodiadau yn dost, ac am beth amser yr oedd pob ymgais i'w cadw draw yn ofer. Yr oedd y gwŷr meirch ysgeifn Prydeinaidd yn dyoddef yn greulon yn yr ymosodiad anghyfartal gyda'r gwrthwynebwyr trymion ac haiarn—wing. Gyrwyd hwynt yn ol gyda chryn golled, a gwnaed llawer yn garcharorion. Yr oedd hyd yn nod y lleng Allmanaidd, mor hynod am eu dysgyblaeth a'u heofndra mewn brwydr flaenorol, yn anghyfartal i ddal ergyd y gwrthwynebwyr hyn.

Nid oedd y gwyr meirch Ffrengig, yn eu hymosodiad, yn cael eu cynorthwyo gan wyr traed. Deuent yn mlaen gyda'r eonder mwyaf, yn agos at yr ysgwariau Prydeinaidd. Yr oedd y magnelau, y rhai oeddynt yn y blaen, yn cadw tan parhaus ar y Ffrangcod fel yr oeddynt yn dynesu, ond ar ol dyfod yn bur agos, yr oedd y magnelwyr yn gorfod encilio i'r ysgwariau, gan adael y magnelau yn meddiant y gwŷr meirch Ffrengig, y rhai modd bynag, nas gallent gadw meddiant o honynt, nac hyd yn nod eu tyllu, pe buasai y moddion ganddynt, oherwydd y cyflegriad arswydus yr oeddynt yn agored iddo oddiwrth y drylliau. Goddefid i'r gwyr meirch ddynesu yn agos at y bidogau Prydeinaidd cyn tanio ohonynt arnynt. Yna fe'u herlynid yn ol gyda chryn ddistryw, a'r magnelwyr yn union, gyda deheurwydd hynod, a danient arnynt yn ddinystriol fel yr encilient.

Yn yr eiliadau mwyaf pwysig o'r ymosodiadau hyn dygwyd mintai fawr o wŷr meirch, o dan ofal Arglwydd Uxbridge (wedi hyny Ardalydd Mon,) i fyny, cynwysedig o'r Life Guards, Oxford Blues, a'r Scotch Greys, y rhai a ymosodasant, ac ymladdwyd y frwydr fwyaf gwaedlyd a welwyd erioed rhwng gwŷr meirch. Er pwysau ac arfogaeth y cuirassiers, a nerth eu ceffylau, yr oeddynt yn hollol analluog i wrthsefyll ymosodiad y fintai drom. Wrth arwain y meirch-filwyr yn y rhuthrgyrch ofnadwy hwn, cafodd Iarll Uxbridge ergyd gan belen yn ei glun, fel y bu yn anghenrheidiol ei thori i ffwrdd ar derfyn y frwydr; a derbyniodd gan ei frenin y teitl o Ardalydd Mon, fel cydnabyddiaeth o'i wrhydri.

Ar ol un o ymosodiadau y meirchlu, cymerodd ymladdfa lawlaw, amrai o ba rai a ddygwyddasant yn ystod y dydd, le ger gwydd y milwyr Prydeinaidd. Cyfarfyddodd hussar a chuirassier Ffrengig ar y gwastadedd; yr oedd y blaenaf wedi colli ei gap, ac yn gwaedu oddiwrth archoll ar ei ben. Ni phetrusodd, modd bynag, i ymosod ar ei wrthwynebwr haiarn—wisg, a gwelwyd yn fuan bod effeithiolrwydd meirchlu yn dibynu ar farchwriaeth da, a medrusrwydd yn nefnyddiad y cleddyf, ac nid mewn arfogaeth trwm amddiffynol Y foment y croesai y cleddyfau yr oedd medrusrwydd milwrol a blaenoriaeth yr hussar yn amlwg. Ar ol rhai yagarmesau, derbyniodd y Ffrengcyn archoll tost yn ei wyneb, yr hyn a'i hurtiodd; yr oedd yn awr yn amhosibl iddo ddiangc ei wrthwynebwr hoyw, ac yna brathodd yr hussar Prydeinaidd ei gleddyf iddo ef, yr hyn a'i dygodd i'r llawr, yn mysg bloeddiadau ei gymdeithion pryderus. Buonaparte, gan wybod yn dda y byddai raid i aberthiad ofnadwy o fywyd dynol gymeryd lle, i wthio yn ol y gwrthsafiadau dewr hyn, a feddyliodd am lethu y Prydeiniaid. Ond pan welodd ei golofnau yn cael ei gyru yn ol mewn annhrefn, pan yn cael ymosod arnynt ar yr aswy o'r rheng Saesonig gan Ponsonby ddewr; pan giliai ei feirchlu yn ol o'r ysgwariau nas gallent dreiddio iddynt; pan oedd byddin yn cael ei dwyn i lawr i gwmni bychan gan ei fagnelau, ac eto yr ychydig hyny yn safyll yn gadarn ar y tir a gymerasent ar y dechreu; nid rhyfedd iddo adrodd ei syndod i Soult—"Hardded y mae y Saeson yma yn ymladd—Eto y mae yn rhaid iddynt gilio."

Yr ydoedd yn awr yn bedwar o'r gloch. Yr oedd y fyddin gynghreiriol wedi derbyn amrai ymosodiadau gerwin, y rhai a gadwesid yn ol yn ddewrwych, ac nid oedd un fantais o bwys wedi cael ei henill gan y Ffrangcod. Cymerodd ataliad byr le ar ymosodiadau parhaus Buonaparte. Ymddengys ei fod wedi newid ei gynlluniau; trwy ei fod o'r amser hwn hyd haner awr wedi pump ar waith yn cydgynull ei cegorddion. Yn yr amser hwnw dechreuodd cyfres o ymosodiadau newyddion ar hyd yr holl reng. Darfu i'r holl feirchlu trymion, y cuirrassiers, y carbincers, y dragoons, a'r gwarchawdlu, ruthro ar y canolbwynt Prydeinaidd. Er mor ofnadwy oedd y gyflafan, buasai yn fwy ofnadwy fyth, oni fuasai i'r shells, oherwydd cyflwr gwlyb y ddaear, gael yn aml eu claddu yn y ddaear; a phan y torasant, ni wnaethant nemawr gyda thaflu i fyny lawer iawn o laid. Yr oedd pob gosgordd o eiddo Buonaparte y awr ar waith, oddigerth ei warchawdlu: a llefarai a theimlai megys pe buasaí y frwydr yn eiddo iddo ef. Dywedodd wrth Betrand, "Gallwn gyrhaedd Brussels erbyn pryd swper."

Cerid y rhyfel yn mlaen ar bob tu gyda hoywder annysgrifiol. Yr oedd pryder y Duc Wellington am ei filwyr dewr wedi dyfod yn fawr iawn. "Gwelais ef," meddai dyn oedd yn bresenol, "yn tynu ei awror allan amrai weithiau, a hyny yn ddiameu i gyfrif pa bryd y deuai y Prwssiaid." Dywedir hefyd ddarfod ei glywed yn dywedyd, "O na pharai Duw i naill ai y nos neu Blucher ddyfod!"

Chwech o'r gloch nid oedd y Prwssiaid wedi dyfod. Yr oedd y catrodau Prydeinaidd oll mewn gweithrediad yr oedd eu dinystr eisoes yn fawr iawn, a'u llwyddiant yn dra amheus. Yr amser yma, pan welodd y Cadfridog Syr Colin Halket, yr hwn oedd yn llywodraethu y bummed fintai Saesonig, fod ei rengau wedi eu lleihau yn erchyll, ac amrai o'i ddynion yn dihoeni gan ludded, anfonodd genad at y Duc, i ddywedyd fod ychydig o seibiant, pa mor fyr bynag, yn anhebgorol angenrheidiol. "Dywedwch wrtho," ebai y Duc, "fod yr hyn a gynygia yn amhosibl. Rhaid iddo ef a minau, a phob dyn ar y maes, farw yn y fan yn hytrach na llwfrhau." "Y mae hyna yn ddigon," atebai Syr Colin, "bydd i mi, a phob dyn o'm catrawd, gyfranogi o'i dynged ef."

TERFYNIAD Y FRWYDR, A DYNESIAD Y PRWSSIAID.

Yr oedd y fyddin Brydeinaidd wedi bod o dan dân y gelyn am yn agos i saith awr. Yr oedd mynediad y Prwssiaid yn mlaen yn cael ei atal, o ran trwy gyflwr y ffyrdd, y rhai oeddynt wedi dyfod bron yn annhramwyadwy; ac o ran trwy anewyllysgarwch y rhai hyny a orchfygesid yn Ligny, i ddyfod eilwaith i ymladd a'u gorchfygwyr. Diau fod ganddynt yn eu mynediad yn mlaen i ymwneyd ag anhawsderau mawrion, ac achosai eu magnelau trymion oediad mwy fyth; yr oeddynt yn suddo weithiau fodfeddi i'r llaid. Er holl ddysgyblaeth ymffrostgar y Prwssiaid, torai y dynion tros derfynau trefn a llywodraeth. Hyd yn nod wrth Blucher ei hun nid ymatalient rhag gwrth-achwyn. "Nis gallwn byth fyned yn mlaen," a glywid ar bob tu. "Rhaid i ni fyned yn mlaen," atebai Blucher, "yr wyf wedi rhoddi fy ngair i Wellington, ac ni oddefwch i mi ei dori; ymegnïwch eich hunain ychydig, fy mhlant i, a bydd y fuddugoliaeth yn eiddo i chwi."

Tua'r amser yma anfonwyd hysbysiad i Buonaparte fod y Prwssiaid yn dynesu, ond efe a ystyriai hyny yn chwedl ddisail, a dywedai nad oedd y Prwssiaid tybiedig yn ddim amgen na byddin Grouchy. Ond bu raid i Napoleon, pa fodd bynng, ymostwng i dystiolaeth, pan y canfu y rhai hyny yn dechreu ymsood ar ei aden ddehau; a gyrodd ran o'r nawfed dosparth o'i fyddin i'w gwrthsefyll

YMOSODIAD TERFYNOL WELLINGTON.

Yna Wellington a wnaeth ei ymosodiad mawreddus a phenderfynol, ac a ddygodd yn mlaen yr holl linell o wyr traed, y gwyr meirch, a'r cyflegrau, ac a fu lwyddiants yn mhob pwynt, nes gyru yr holl fyddin Ffrengig i annhrefn, a chael cyflawn fuddugoliaeth arnynt. Yn fuan ar ol hyn y Prwasiaid a ruthrasant ar y Ffrangcod, ac a'u hymlidissant drwy'r nos.

Dywedir i'r fyddin Frytanaidd, yn y frwydr byth-gofiadwy Waterloo, ragori hyd yn nod arnynt eu hunain yn eu gwrhydri dihafal; a phob llawryf a enillasent trwy eu buddugoliaethau blaenorol, y pryd hwn a daflwyd i'r pentwr, ac a wnaed yn un we anfarwol i addurno eu coffadwriaeth. Gwasgarwyd anrhegion i bob catrawd a phob milwr, a cherfiwyd y gair "Waterloo" ar holl fanerau y catrodau ag oeddynt yno. Cyfrifwyd diwrnod y frwydr fel dwy flynedd o wasanaeth i'r rhai a leolwyd ar lechtros y pensioners. Rhoddwyd medalau i bawb o'r gwroniaid ag oedd wedi sefyll tân y frwydr hon, yn goffawdwriaeth am y diwrnod; a phenderfynwyd fod medal y Swyddog uwchaf i fod o'r un defnydd ag eiddo y milwr iselaf, fel y byddai i'r rhai oeddynt wedi cydgyfranogi o'r caledi a'r perygl, gydgyfranogi hefyd o'r un anrhydedd. Casglwyd gan fawrion y deymas £400,000 i gynorthwyo y clwyfedigion, ac hefyd weddwon ac amddifaid y rhai a laddwyd, heblaw yr hyn a ganiatai y Llywodraeth iddynt. Y Duc Wellington hefyd a roddodd i fyny, ir perwyl hyny, haner yr iawn seneddol oedd yn dygwydd iddo am y meddiannau a gymerasid oddiar y gelyn y rhyfeloedd yn Yspaen a Phortugal. Cyflwynwyd diolchgarwch y senedd-dal i'r Duc, a chymeradwywyd fod £200,000 i gael eu rhoddi iddo, yn ychwanegol at yr hyn a dderbyniasai o'r blaen, i'r dyben o brynu iddo etifeddiaeth Strathfieldsaye, yr hyn a wnaethpwyd.

Yn y rhyfelgyrch byr yma, yr hwn a derfynodd yn Waterloo, collodd y Ffrangcod o filwyr tua deugain mil; y Prwssiaid ddeunaw mil ar hugain; y Prydeiniaid, yr Hanoveriaid, a'r Belgiaid, dair mil ar hugain!! Am y deugain mil a gollodd Napoleon, ei wrthwynebwyr a gollasant driugain ac un o filoedd.

ALLTUDIAD A MARWOLAETH NAPOLEON.

Yr oedd gorchfygiad y Ffrangcod mor gyflawn fel yr oedd yn gwbl amhosibl casglu gweddillion y fyddin i encilio yn drefnus; felly Napoleon a brysurodd i Paris, ac a roddodd i fyny y goron yn ffafr ei fab, yr hwn oedd eto yn Awstria. A chan fod y Cynghreirwyr yn dynesu at Paris, barnwyd yn angenrheidiol i Napoleon adael Ffraingc; ac ar y 13eg o Orphenaf, rhoddodd ei hun i fyny i'r Cadben Maitland, o'r Bellerophon, ar yr amod y dygai efe ef i Loegr, a'i roddi at ewyllys y llywodraeth Brydeinaidd. Ar y 24ain o Orphenaf, daeth y llong i Torbay: ac ar yr 31ain mynegodd Syr H. Bunbury i Napoleon fod y weinidogaeth wedi penderfynu ei alltudio i St. Helena. Felly efe, a phedwar o'i ddylynwyr, meddyg Seisonig, a deuddeg o weision, a drosglwyddwyd i'r Northumberland, yr hon oedd yn cario baner y Llyngesydd Cockburn, a ghodasant hwyliau, ar y 7fed o Awst, am le eu caethiwed, a thiriasant yno ar yr 16 o Hydref, 1815.

Bu fyw yn St. (Helena[2]) am yn agos i bum' mlynedd; ond dechreuodd ei iechyd waethygu yn mis (---) 1817. Yn mis Mawrth, 1821, aeth ei afiechyd yn beryglus, ac y 6ed o Fai, (cymerodd ei) anadl olaf. Claddwyd ef yn St. Helena; ond yn y flwyddyn (1840 datgladdwyd ei) gorph, a dygwyd ef i Ffraingc i gael ei gladdu mewn rhwysg mawr. (Dyna) ddiwedd un a fu unwaith yn ddychryn i'r byd—yn codi ac yn dymchwelyd gorseddau wrth ei ewyllys, ac yn gosod rheolau a chyfreithiau i freninoedd a phenaduriaid y ddaear!

Nodiadau[golygu]

  1. Yn y darlun uchod, ond chwilio yn fanwl, ceir gweled llun Buonaparte ar faes y frwydr, yn mhlith canghenau y coed. Na roddwch i fyny nes dyfod o hyd iddo.
  2. Mae staen ar y dudalen yn gwneud rhannau o'r paragraff olaf yn annarllenadwy. Mae'r geiriau mewn cromfachau yn ymgais i ddyfalu be sy'n debygol o fod ar goll

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.