Hanes y Bibl Cymraeg/William Salesbury

Oddi ar Wicidestun
Ymdrechion i Gyflenwi Cymru a Biblau Hanes y Bibl Cymraeg

gan Thomas Levi

Richard Davies D.D.

PENNOD VIII.

HANES PRIF GYFIEITHWYR Y BIBL.

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
William Salesbury
ar Wicipedia

I. William Salesbury

MAE esgeulusdra nodedig wedi bod i gadw hanes fanol o fywyd y boneddwr a'r ysgolor enwog hwn. Mae yn hysbys ei fod yn deilliaw o un o hen deuluoedd mwyaf cyfrifol y Dywysogaeth. Ail fab ydoedd i Ffoulk Salesbury, Ysw., Plâs Isaf, Llanrwst, yn Sir Ddinbych. Enw ei daid ydoedd Robert Salesbury, yr hwn ydoedd bedwerydd mab i Thomas Salesbury Hên, o Lleweni, ger Dinbych. Daethai i feddiant o etifeddiaeth y Plâs Isaf trwy briodas â Gwenhwyfar, unig ferch ac etifeddes Rhys ab Einion Fychan, o'r lle hwnw.

Am eu haniad dywed y Parch. Walter Davies, "Y Salsbriaid oeddynt o âch Normanaidd, a dywedir mai gyda Gwilym y Goresgynydd y daeth y cyntaf o'r enw i'r ynys hon, yn y flwyddyn 1066. . . . . Trwy fynych ymbriodi ac ymgyfathrachu ag etifeddesau Cymreig, daeth y Salsbriaid, fel rhai Normaniaid gwiwgof eraill, o enwau Herbert, Stradling, Basset, Turberville, &c., yn Gymry gwladgar, o barth gwaed, ac iaith, a serchiadau."

Ganed William Salesbury yn gynar yn yr unfed ganrif-ar-bumtheg. Derbyniodd egwyddorion cyntaf ei addysg yn Nghymru. Yna symudodd at brif ffynonell addysg y wlad -Rhydychain, lle yr enwogodd ei hun fel ysgolor. Aeth i Thavies Inn, Llundain, i astudio y gyfraith, a bernir iddo symud oddi yno i Lincoln's Inn. Yr oedd erbyn hyn yn medru naw o ieithoedd gwahanol, heblaw y Gymraeg a'r Saesneg, sef yr Hebraeg, y Galdaeg, y Syriaeg, yr Arabaeg, y Roeg, y Lladin, y Ffrengaeg, yr Eidalaeg, ar Hisbaenaeg. Yr oedd felly, fel ieithydd, wedi curo ei nai fab cyfyrder—yr hybarch Edmund Prys, Mydrydd y Salmau Cân.

Pan basiwyd y gyfraith Seneddol i gyfieithu y Bibl i'r iaith Gymraeg, yn y flwyddyn 1563, ymddengys i'r esgobion oeddynt wedi eu gosod dan gyfrifoldeb y gwaith, droi eu golwg ar unwaith at William Salesbury, ysgolor o'r radd flaenaf, a Phrotestant o'r mwyaf zelog, fel y mwyaf cymhwys i ymgymeryd â'r gorchwyl o gyfieithu yr Ysgrythyrau, ac anogasant ef i ymaflyd yn y gwaith. Yr oedd yn byw y pryd hwn yn Cae Du, yn mhlwyf Llansanan, yn Sir Ddinbych, lle mynyddig, anghysbell, ac allan o'r byd, megys. Yr oedd yr hên ystafell ddiaddurn y bu yn dwyn yn mlaen ei lafur pwysig, yn cael ei dangos hyd ychydig o flynyddau yn ol, ac yr oedd yn neillduol o ddirgel, er mwyn ysgoi llid yr .erlidwyr. Yn ystod teyrnasiad Mari Waedlyd, yr oedd ei zel Brotestanaidd wedi ei wneyd yn wrthrych dygasedd y frenines a'r Pabyddion. Felly gwnaeth ei ystafell mor ddirgel fel nad oedd yr un fynedfa iddi ond trwy dwll o'r simdde. Bu Salesbury yn aros yn Llundain i arolygu argraphiad ei Destament. A'r Testament hwn, wedi ei ddiwygio yn gyntaf gan Dr. Morgan, ac wedi hyny gan Dr. Parry, yw y Testament Newydd Cymraeg a ddarllenir gan y werin heddyw.

Dywedir, yn "Nghofiant Syr John Wynn, o Wydir," fod Salesbury wedi ymgymeryd â'r gorchwyl o gyfieithu yr Hên Destament hefyd i'r Gymraeg, a'i fod wedi cyfaneddu gyda Dr. Richard Davies am oddeutu dwy flynedd i'r amcan hwnw; ei fod wedi myned yn mlaen yn mhell gyda'r gorchwyl, ond yn anffodus i ddadl godi rhyngddynt am ystyr a gwreiddyn gair, yr hwn y mynai yr esgob ei fod fel hyn, ac y mynai Salesbury ei fod fel arall, ac i'r ymryson hwn derfysgu ac atal y gwaith. Dywed hefyd, iddynt, tra fuont gyda'u gilydd, gyfansoddi homiliau, a llyfrau, a nifer mawr o draethodau yn yr iaith Gymraeg. Parodd yr anghydwelediad â'r Esgob, neu rywbeth arall, iddo roddi ei ysgrifell heibio, yr hyn a drodd allan yn golled fawr i'r Cymry, gan ei .fod yn llenor mor enwog, ac yn Hebrewr di-ail.

Ar farwolaeth Robert ei frawd, yr hwn oedd heb un mab, dim ond dwy ferch, daeth yn berchen llawer o feddianau, yn nghyd â Ilys y Plâs Isaf; ond preswyliodd am gryn dymhor wedi hyny yn Cae Du.

Cyhoeddodd amryw lyfrau heblaw y Testament. Efe gyhoeddodd y llyfr cyntaf a argraphwyd yn yr iaith Gymraeg, yn y flwyddyn 1546, sef math o almanac. (Gwel tudal. 13) Yn y flwyddyn ganlynol, cyhoeddodd Eir-lyfr Saesneg a Chymraeg, cyflwynedig trwy genad i'r brenin Harri VIII. "Imprinted at London, in Foster Lane, by me John Waley, 1547." O flaen y Geir-lyfr mae "John Waley, y prenter, yn danfon anerch ar popol Kymry." Dywed Thomas Fuller, yn ei nodiad ar y Geir-lyfr:—

"Y boneddwr hwn (Salesbury) o gariad at ei iaith enedigol, a gyfansoddodd Eir—lyfr Saesneg a Chymraeg byr; yr hwn yn gyntaf, mewn modd anghyhoedd a gyflwynid i, ac a gymeradwywyd gan, y brenin, Harri VIII. (Tudyr, o ochr ei dad, o waed Cymreig), ac yna a argraphwyd yn gyhoeddus yn y flwyddyn 1547. Rhai dynion ymrysongar a ddadleuant yn erbyn defnyddioldeb y gwaith hwn, gan nad oedd ar y Cymry ddim anghen, nac ar y Saeson ddim awydd am lyfr o'r fath. Ond gwybydded y cyfryw ei fod yn fuddiol i'r ddwy genedl; i'r Saeson er mwyn cyrhaedd, i'r Cymry er mwyn cadw, yr iaith hono. Cyrhaedd;—oblegyd, gan ei bod yn iaith gyntefig, nid yw yr hynafiaethydd ond cloff hebddi (yr hyn a wn trwy fy niffyg fy hun) i ddeall yr ychydig allan o lawer o weddillion y genedl hono sydd eto ar gael. Cadw;——gan fod yr iaith hono, fel eraill, trwy ddiffyg arfer yn agored nid yn unig i lygriad, ond ebargofiad, yn ol cyfaddefiad y brodorion eu hunain. Yn wir, y mae pob geir-lyfrau yn dra buddiol, gan fod geiriau yn dwyn pethau i'r tafod; ac fel y dywed Plato, mai enw, neu air, yw offeryn addysgiant, ac y mae yn arwain gwybodaeth i mewn i'r deall. Pa fodd bynag, gan nas gellir dechreu a diweddu dim ar unwaith, llyfr Salesbury (fel y cyntaf o'r fath) a gynygiodd ar, ond ni chwblhaodd, y gorchwyl; ac wedi hyny, fe'i gorphenwyd gan eraill."[1]

Mae Strype, yn ei "Annals," yn galw yr awdwr yn "Wyllyam Salesbury of Llanrwst, gent," ac yn dyweyd ei fod yn "bartner" â "John Waley, y prenter," yn y patent am saith mlynedd i argraphu y Bibl Cymraeg.

Llyfrau eraill a ysgrifenwyd gan William Salesbury oeddynt, "Dymchweliad Allor uchel y Pab;" "Arweiniad hawdd ac eglur i'r Iaith Gymraeg," yn nghyd â'r olaf yn Saesneg hefyd, a'r oll yn y flwyddyn 1550. Yn 1551, cyhoeddod "Kynifer Llyth a Ban o'r Ysgrythur ac a ddarllenir yr Eccleis pryd Comun, Sulieu, a'r Gwilieu trwy 'r Vlwyddyn. 0 Gamhereicat William Salesbury, Llundain." Yr oedd hwn yn cynwys cyfieithiad o'r rhanau o'r Efengylau a'r Epistolau ag a arferid yn ngwasanaeth yr Eglwys. Yn yr un flwyddyn hefyd yr ysgrifenwyd "Rhetoreg, neu Egluryn Ffraethineb," gan yr un awdur dysgedig. Gadawyd y gwaith hwn mewn ysgrifen gan Salesbury ar ei ol; ac ar ddymuniad ei gâr, John Salesbury, o Leweni, adolygwyd ef, ac ychwanegwyd ato, gan y Parch. H. Perri, B.D. Yr oedd hwn yn draethawd godidog iawn, yr hwn a gyhoeddwyd yn pedwar-plyg yn Llundain. Yr oedd y llyfrau hyn oll wedi eu hysgrifenu gan Salesbury cyn cyfieithu y Testament Newydd, lle y gwelir ei fod wrthi yn ddyfal am ugain mlynedd cyn ymddangosiad ei Destament yn cyfoethogi ei genedl â llyfrau o'r mwyaf buddiol. Nid ᎩᎳ amser marwolaeth Salesbury, mwy nag amser ei enedigaeth, yn hysbys. Dywed Syr John Wynn iddo farw yn 1599; ond barna eraill ei fod wedi marw cyn y flwyddyn 1596, os nad cyn 1593, pan gyhoeddwyd "Egluryn Ffraethineb " gan Perri.

Mae Cymru yn rhwymedig iawn i lafur y gŵr enwog hwn, nid yn unig am y rhodd anmhrisiadwy o gael Testament Newydd ein Harglwydd yn brintiedig yn yr iaith Gymraeg, ond hefyd am y dôn neu yr yspryd uchel a chrefyddol a roddodd i'r wasg Gymreig yn y cychwyniad. Cychwynodd y wasg Saesneg gyda llyfrau ysgafn ac anfuddiol, ac y mae ei llenyddiaeth wedi ei llygru gan ffrydiau parhaus o'r cyfryw gymeriad hyd heddyw. Ond yr oedd y llyfrau cyntaf a argraphwyd yn yr iaith Gymraeg, yn llyfrau buddiol, crefyddol, ac anghenrheidiol. Cynrychwyd blâs at y cyfryw yn ein cenedl, sydd wedi ei gadw hyd heddyw, fel nad oes nemawr lyfr o ddim pris yn ein plith heb fod arogl crefyddol arno.

Nodiadau[golygu]

  1. Fuller's "Worthies,"