Prif Feirdd Eifionydd/Dysg im', Arglwydd, ffordd Dy ddeddfau

Oddi ar Wicidestun
Mae gennyf ddigon yn y nef Prif Feirdd Eifionydd

gan Edward David Rowlands

Hoffi'r Wyf Dy lân breswylfa

"Dysg i mi Dy ddeddfau."

DYSG im', Arglwydd, ffordd Dy ddeddfau,
Ynddi rhodiaf hyd yn angeu;
Gair D'orchymyn, pan ei dysgaf
A'm holl galon byth fe'i cadwaf.

Gwna imi rodio ffordd D' orchmynion,
Maent i mi'n hyfrydwch calon;
Gostwng f'enaid at Dy gyfraith,
Ac nid at gybydd—dra diffaith.

Oddi wrth wagedd tro fy llygaid;
Yn Dy ffyrdd bywhâ fy enaid;
O sicrhâ D' addewid imi,
I'th lân ofn yr wy'n ymroddi.

—NICANDER.


Nodiadau[golygu]