Prif Feirdd Eifionydd/Mae gennyf ddigon yn y nef

Oddi ar Wicidestun
O am râs i garu Iesu Prif Feirdd Eifionydd

gan Edward David Rowlands

Dysg im', Arglwydd, ffordd Dy ddeddfau

Duw, a Digon.

MAE gennyf ddigon yn y nef,
Ar gyfer f'eisieu i gyd;
Oddi yno mae y tlawd a'r gwael
Yn cael yn hael o hyd.


O law fy Nuw fe ddaw'n ddifêth
Fy mywyd a fy nerth;
Fy iechyd, synnwyr, a phob peth—
Fy moddion oll, a'u gwerth.

O law fy Nuw y daw, mi wn,
Bob cymorth heb nacau—
Holl drugareddau'r bywyd hwn
A'r gallu i'w mwynhau.

Gan hynny, digon, digon Duw!
Aed da a dyn lle'r êl;
Mi rof f'ymddiried yn fy Nuw
A deued fel y dêl.

Ym mhob cyfyngder, digon Duw!
Fy eisieu, Ef a'i gwêl:
Efe i farw, ac i fyw,
A fynnaf, doed a ddel.

—EBEN FARDD.

Nodiadau[golygu]