Prif Feirdd Eifionydd/Mae'r gwaed a redodd ar y groes

Oddi ar Wicidestun
Y Llew a'i Gynghorwyr Prif Feirdd Eifionydd

gan Edward David Rowlands

Cysegrwn flaenffrwyth ddyddiau'n hoes

Emynau.

Y Gan Newydd.

MAE'R gwaed a redodd ar y groes
O oes i oes i'w gofio;
Rhy fyrr fydd tragwyddoldeb llawn.
I ddweyd yn iawn am dano.

Prif destyn holl ganiadau'r nef
Yw "Iddo Ef," a'i haeddiant:
A dyna sain telynau glân
Ar uchaf gân gogoniant.

Mae hynod rinwedd gwaed yr Oen,
A'i boen wrth achub enaid,
Yn seinio'n uwch ar dannau'r nef
Na hyfryd lef seraffiaid.

Mhen oesoedd rif y tywod mân,
Ni bydd y gân ond dechreu,
Rhyw newydd wyrth o'i angeu drud,
A ddaw o hyd i'r goleu.

—ROBERT AP GWILYM DDU.


Nodiadau[golygu]