Prif Feirdd Eifionydd/Y Llew a'i Gynghorwyr

Oddi ar Wicidestun
Y Gwybed a'r Llestr Mêl Prif Feirdd Eifionydd

gan Edward David Rowlands

Mae'r gwaed a redodd ar y groes

Y Llew a'i Gynghorwyr.

EDLIWIWYD i'r llew gan ddywalgi
Fod ei anadl e'n enbyd yn drewi,
A galwodd y llew am y milgi;
Gofynnodd, "Yw 'ngwynt i'n arogli?"
"O nag ydyw, f'arglwydd," medd hwnnw.
A lladdodd y llew ef yn farw,
Am ei wenieitheb.

Ac yna gofynnodd i'r blaidd;
Medd yntau, "Wel ydyw, syr, braidd."
Fe laddodd y llew y blaidd hefyd,
Yr un modd a'r milgi gwenieithlyd,
Am ei wiriondeb.

Yna galwodd y llew am y llwynog;
Gofynnodd i hwnnw, gan annog
Ar fod iddo draethu'r gwirionedd
Heb ofn, ac heb ffafr na gwenieithedd.

"Yn wir," eb yntau, "gyda'ch cennad, f'arglwydd,
Yr wyf er's tridiau'n hollol anghyfarwydd
Ar bob arogliad: y mae'r anwyd arnaf;
Eich ateb heddyw yn fy myw nis gallaf."

Pan y syrthiom ar amserau
Enbyd, fel y digwydd weithiau,
Peidio dwedyd dim yw'r gorau:
Cloi a barrio drws y genau.


Nodiadau[golygu]