Telyn Dyfi (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Telyn Dyfi (testun cyfansawdd)

gan Daniel Silvan Evans

I'w darllen cerdd wrth gerdd gweler Telyn Dyfi
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Daniel Silvan Evans
ar Wicipedia




TELYN DYFI:

MANION AR FESUR CERDD

GAN

D. SILVAN EVANS, B.D.



ABERYSTWYTH:

ARGRAFFWYD A CHYHOEDDWYD GAN W. JONES.

1898.



ER ANWYLAF GOF
AM
HEULWEN FY MYWYD,

YR HON, WEDI LLEWYRCHU A SIRIOLI FY
NYRYS DAITH AM DAIR BLYNEDD A DEUGAIN,
A FACHLUDODD AR Y DYDD DIWEDDAF O
AWST, 1889, Y CYSSEGRIR Y MANION HYN.
D. S. E.



RHAGYMADRODD.

Yr ydys yn ddyledus i gyfaill arbenig am yr enw Telyn Dyfi ar y llyfryn bychan hwn; a chan fy mod wedi trigiannu mwy na phymtheg mlynedd ar hugain ar lan yr afon hyfryd honno, a bod amryw o'r darnau cynnwysedig ynddo wedi eu hysgrifenu yn ystod y cyfnod hwnw, dichon fod rhyw radd o briodoldeb yn yr enw.

Y mae y rhan fwyaf o'r Manion hyn wedi eu hargraffu eisoes ar wahanol adegau ac mewn gwahanol gyssylltiadau; a chanfyddir nad yw amryw o honynt ond cyfieithion neu efelychiadau.

Llanwrin:

Ionawr 11, 1898.



CYNNWYSIAD.

TELYN DYFI.



I.

PAN FO'R DISGLAER HAUL DWYREAWL

PAN fo'r disglaer haul dwyreawl
Yn goreuro gwlith y wawr,
Ac yn agor cain amrantau
Myrdd o flodau peraidd sawr;
A chymylau'r nos yn cilio
Rhagddo'n chwai ar edyn chwa;
Esgyn bydded sain ein moliant
I'r Hwn sydd a'i enw'n IAH.

Pan fo goslef fwyn y goedwig
Yn ymchwyddo'n beraidd gor,
Ac yn sio'r haul i gysgu
Yn y gorllewinol for,
Ac yn deffro'r seren hwyrol
I flaenori gosgordd lân;
I'r Hwn sydd a'i enw'n GARIAD
Esgyn bydded sain ein cân.

Pan fo nos a dwys ddistawrwydd
Tros y llawr yn taenu llen,
A ser fyrddiwn yn tryfritho
Y cwmpasgylch mawr uwch ben;

Pan fo'r lleuad wyl yn lledu
Mantell arian ar y lli;
Esgyn bydded sain ein moliant
I'r Hwn sydd yn UN A THRI.

II

WRTH LOEW FFRWD SILOAM LYN.

WRTH loew ffrwd Siloam Lyn
Mor brydferth tyf y lili!
Mor ber mae gwlithog rosyn glyn
Teg Saron yn arogli!

Mor hardd ar lethri Lebanon
Y chwyf y cedrwydd tirfion!
Mor deg o gylch Iorddonen don
Y taen y palmwydd gwyrddion!

Na hwynt, er hyn, mwy hardd yw'r traed
Sy'n rhodio ffyrdd tangnefedd;
A'r galon bur, er cig a gwaed,
A lŷn wrth lwybrau rhinwedd.

Edwina'r lili yn y glyn,
Diflanna gwrid y rhosyn;
Crin palm- a chedr-wydd dôl a bryn,
A threnga glesni'r dyffryn:

Ond sawl ym more mwyn ei ddydd
A gofia ei Greawdydd,
Ei ddalen ef yn irlas fydd,
Nis gwywa hi'n dragywydd:

Blodeua yng nghynteddoedd Duw,
Dwg ffrwyth toreithiog beunydd;
Yn llewyrch heulwen nef mae'n byw,
Aiff rhagddo byth ar gynnydd.

III.
PA LE Y CEIR DOETHINEB!

Pa le y ceir doethineb! A pha le y mae trigle deall?!—Job xxviii. 12

Pwy a ddengys i ni ddaioni!'—Salm iv. 6.

PA le y ceir doethineb drud,
A thrigle deall?' medd y byd:
A mynych y gofynant hwy,
Pwy ddengys in' ddaioni, pwy?'

Gwel, acw ger y goeden gudd
Yn eistedd mae pererin prudd,
Gwr santaidd Duw; ac yn ei law
Anfarwol Lyfr y bywyd draw.

Ar ddail y gyfrol nefol hon,
Ar led a weli ger ei fron
(Ae arni dwys fyfyrio wna),
Dangosir, ddyn, it' beth sy dda.

Dim ond gwneyd barn, gochelyd trais,
A gwrandaw ar y Dwyfol lais,
Ymhoffi mewn trugaredd, byw
A rhodio'n isel gyda Duw.

Ië, rhodio'n isel gyda'r Un
A'th brynodd drwy ei waed ei Hun,
Gan adael gwychder nef a'i bri,
Er mwyn cael rhodio gyda thi.

Myfyria ar ei ddirfawr loes,
A chadw olwg ar ei Groes;
Ac nac anghofia ddim o waith
Y prynedigol gariad maith.


A'th nerth a'th enaid oll yn dân
Y ceri dy Greawdydd glân;
Câr hefyd bawb o deulu dyn
Yn ddidwyll megys ti dy hun.

O ddeutu'r bwrdd, ddedwyddaf fraint!
Cyd-linia'n fynych gyda'r saint;
Ac ymborth ar yr Aberth drud
Sydd yn dilëu pechodau'r byd.

Y pelig gwâr ei gywion cun
A byrth â gwaed ei fron ei hun:
Llwyr yr un modd, i'n dwyn o'n cur,
Bu farw Mab y Forwyn Bur.

O dwrf y byd, yn encil glyn
Eistedda'r barflaes feudwy'n syn:
Myfyrdod nefol draidd ei fryd,
A'i feddwl nawf goruwch y byd.

Ger llaw mae'r Groes, ei ymffrost mawr,
A'i gysur ym mlin deithiau'r llawr;
A'i obaith yw, er weithiau'n wan,
Cael coron trwyddi yn y man.

Awr-wydryn einioes wrtho wed
Am gipio'r adeg fel y rhed;
Ac fel y tywod mân o'r bron
Treigl oriau'r fuchedd farwol hon.

Yn nes ym mlaen, a bron yn hudd
Gan gysgod gwyrdd gangenau'r gwŷdd,
Gan ddwys addurno'r dawel fan,
Ymddyrcha cyssegredig Lan.

Câr ef ei phyrth; hoff ganddo'i gwawr
Uwch holl balasau teg y llawr;
Ac am ei syml gynteddau cu
Ei syched yn feunyddiol sy:


Am gael, o flaen gorseddfa'r Rhad,
I'w yspryd yssig esmwythâd;
Ac am gael uno yn y gân
A ddyrcha fry o'i chafell lân.

Uwch tonnau'r byd fel hyn mae'n byw,
A'i serch yn gorphwys ar ei Dduw ;
Ac o afaelion gwŷd a gwae,
Ar edyn engyl esgyn mae.

Dos, ystyr di yr uniawn doeth,
A rhodia yn ei lwybrau coeth;
A'th hunan cadw ar bob pryd
Yn ddifrycheulyd rhag y byd.

Fel hyn i'th ran daw gwynfyd gwir,
Doethineb, hedd, a dyddiau hir;
Ac yn dy galon, fel y môr,
Ar led tywelltir cariad Ior.

IV.
Y GOFWY BARNOL.

'Wele yr Arglwydd yn dyfod allan o'i fangre, i ymweled ag anwiredd preswylwyr y ddaiar.'—Esa. xxvi. 21.

MEWN trym-loes y ffoisom o neuadd ein tadau,
Yr estron a ddamsang ein mynor gynteddau;
Y corwynt â'i anadl ein henw a ddeifiodd,
A chasnur Iehofah i'r llwch a'n maluriodd.

O'i fangre daeth allan, a'i fraich mewn digllonedd
Diosgodd, i gospi gweddillion anwiredd;
Disgynodd, a distryw o'i flaen a ymdaenodd,
A'i soriant, yn llosgi fel tân, a'n difaodd.


Ei wisg oedd y fellten, a'i lais oedd y daran,
A'r goleu anhygyrch oedd iddo'n ddirgelfan:
Yng nghaddug y ddunos y nen a ymguddiodd,
A'r ddaiar, gan grynu fel deilen, a grynodd.

Merch Iudah pa hired bydd gwlybion dy ruddiau,
A'th blant yn alltudion o wlad eu cyndadau?
Pa bryd daw'r gogoniant fu'n toi Bryn Arabia
I arwain dy grwydriaid at ffrydiau Siloa?

V. CYFLAFAN BETHLEHEM.

'Llef a glybuwyd yn Rama, galar, ac wylofain, ac ochain mawr, Rahel yn wylo am ei phlant; ac ni fynai ei chysuro, am nad oeddynt.'—Matt. ii. 18.


AETH llais gorfoledd Iudah'n brudd;
Ni ddyrch y cerddor lawen lef;
A thelyn y prophwydi sydd
Yng nghrog wrth orsedd aur y nef.

Taen tynged drom dros Bethlehem,
Mae'n llif o waed ei glynoedd hi!
Anobaith yn ei phyrth a drem,
A thrwyddi traidd wylofus gri!

Y baban tlws a wên ar fron
Ei dirion fam yn nechreu'r dydd :
Cyn hwyr hun is y marwol don,
Yn oer ei fron, yn welw ei rudd!

Alaethwch, famau! gwae a'ch todd;
Difrododd llaw y creulawn chwi:
Eich plant nid ynt! oer fedd a'u clodd,
A'u gwaed a chwydd y tonnawg li!


Nid ydynt! ond at fintai lân
Seraphim gwlad anfarwol hoen
Eu hyspryd ffoes, i chwyddo cân
Ardderchog lu merthyri'r Oen.

VI.
HEDDYW AC EFORY.

Nac ymffrostia o'r dydd y fory.'—Diar. xxvii. 1.
'I ti yr heddyw; i bwy y fory?'—Diareb.

TAW, fab marwoldeb, taw â'th ffrostio
Am ddydd nad ydyw wedi gwawrio;
Ond cofia mai mewn un diwarnod
Y gall holl bethau daiar ddarfod.

Heddyw, yr ieuanc ysgafn yspryd
A wasg rudd wefus ei anwylyd;
Efory, y wefus deg a weli,
Ef allai, yn angeu wedi gwelwi.

Heddyw, y fwyn briodferch hawddgar
Sydd yn cofleidio ei serchus gymhar;
Efory, gan ei halaeth chwerw,
Ei llaw a gur ei dwyfron weddw.

Heddyw, y baban glwys a sugna
Fron ei fam, ac arni chwardda ;
Efory, dichon yw mai oerion,
Fel nant rhewedig, fydd ei dwyfron.

Heddyw, y glust a yf beroriaeth
Caniadau'r llwyn, a thelynoriaeth ;
Efory, pwy a fedr ei deffro,
A thi yn angeu wedi huno?


Heddyw, mewn heirdd gerbydau, gelli
Dramwyo hyd y ffordd y myni;
Efory, ysgatfydd, cei dy gludo
I dy'th hir gartref i orphwyso.

Heddyw, ti elli wledda'th galon
Yn helaethwych ar ddanteithion;
Efory, fel o fic i'th wleddau,
Y pryf loddesta arnat tithau.

Taw, fab marwoldeb! taw â'th ffrostio
Am ddydd nad ydyw wedi gwawrio;
Ond cofia mai mewn un diwarnod
Y gall dy fywyd dithau ddarfod.

VII.
DYBYDD HINON GWEDI GWLAW.

'Er maint sydd yn dy gwmwl tew
O wlaw a rhew a rhyndod,
Fe ddaw eto haul ar fryn,
Nid ydyw hyn ond cafod.'

CROCH rued gauaf; taened len
O eira dros y ddôl a'r llwyn;
A rhwymed fyd â'i gadwyn den;
Daw eto wanwyn mwyn!

Er i gymylau erch eu gwedd,
A chaddug dudew hyll,
Orchuddio'r nen ag amdo'r bedd,
Daw goleu gwedi gwyll.

Ymgynddeiriogwch, wyntoedd croch,
A chwithau ystormydd mawr ;
A heibio'r ddunos fwyaf ffroch,
Ac yna tyr y wawr.


Gwisg Anian wisgoedd gwanwyn ir,
Gan ddail balchïa'r pren;
Taen arogl blodau dros y tir;
A chwardd y llawr a'r nen.

Daw'r rhos i wrido yn y cudd;
Amgylcha'r mill y llyn;
Godyrdda'r cornant rhwng y gwŷdd;
A llona cân y glyn.

Ymddyrcha dithau, galon glaf!
Ni phery'r gauaf rhyn;
Daw gwanwyn byd; nesäu mae haf,
A thywyn haul ar fryn.

Os isel heddyw Eglwys Dduw,
Na wanobeithia di;
Daw'n uchel eto, canys byw
Ei Hamddiffynwr hi.

Os annuw yn ei sathru sy,
Yn fawr ei lid a'i frad;
Gnawd gwedi'r drycin mwyaf du,
Cael hinon lawn o had.

Os athrist wyt wrth syllu'n awr
Ar gamwedd ar bob llaw,
Gwel acw'r waredigaeth fawr:
Daw hinon gwedi gwlaw.

VIII.
RHAN O'R SALM CIV.

Fy enaid, dyrchafa gân newydd i'r Ior,
Yr Hwn a wnaeth nefoedd, a daiar, a môr:
Ofnadwy mewn moliant a nerth ydyw Ef,
Ei wisg yw'r goleuni, ei orsedd yw'r nef.


Ar ymchwydd y dyfroedd mae'n eistedd yn ben;
A'i ddwylaw fel mantell a daenant y nen;
Y chwimmwth gymylau, ei gerbyd Ef ynt,
A'i Fawredd a ferchyg ar edyn y gwynt.

Mor gyflym a'r fellten y nefoedd a wân,
Mae'n gwneyd ei angylion a'i weision yn dân:
Sylfaenodd y ddaiar ar sylfan mor gref,
Fel byth nid ysgoga nes pallo y nef.

I'r lloer rhoes amserau o gynnydd a thraul,
Ac amser ei fachlud a ddysgodd i'r haul:
Dy waith o ddoethineb, O Arglwydd, sy'n llawn,
A'r ddaiar yn gyflawn o'th gyfoeth a gawn.

IX.
Y WLAD WELL.

ERGLYWAF di'n siarad am wlad well a'i gwynfyd,
A gelwi ei meibion yn dorf y dedwyddyd:
Fy mam, O pa le mae'r fath oror ysplennydd,
Ai nis gwnawn ei cheisiaw o gyrhaedd ein cystudd?
Ai man lle mae perthi'r eurfalau'n blodeuaw,
Ac ednod drwy gangau y myrtwydd yn dawnsiaw?
Nid yno, nid yno, fy mhlentyn cu.

Ai man mae'n ymddyrchu y palmwydd teleidion,
A'r gwinrawn yn tyfu yn sypiau addfedion?
Ai draw rhwng y glasfyr mewn irain werddonau,
Man chwyth mwyth awelon dros wigoedd per flodau,
Ac adar hyfrydwch yn hylon gyfodli,
Mewn mentyll amliwiawg ar frig yr eurlwyni?
Nid yno, nid yno, fy mhlentyn cu.

Ai rhywle yn nhiroedd pellenig y dwyrain,
Man treigl yr afonydd ar wely aur disglain,

Man gwasgar y rhuddem ei llachar belydron,
Man gwrida myrierid yn wythi tryloewon,
A'r gleinfaen yn llathru ar draethau o grisial;
Ai yno, fy mam, mae'r wlad well ddigyfartal?
Nid yno, nid yno, fy mhlentyn cu.

Fy mhlentyn! ni welodd un llygad mo honi,
I glust ni ddaeth cydgerdd ei llon delynori;
Nis gall unrhyw freuddwyd ddarluniaw byd teced,
Na gofid nac angeu ni faidd yno fyned,
Ac amser ni chwyth ar ei blodau diddarfod,
Canys hwnt y cymylau, marwoldeb, a'r beddrod,
Mae honno, mae honno, fy mhlentyn cu.

X.
YR EWIG WYLLT.

YR ewig wyllt ar Iudah fryn,
Gan lamu, eto a chwardd,
Ac yf o ffrwd pob bywiol lyn
Ar santaidd dir a dardd;
Ei gweisgi gam a'i llygad a
Gyflymant heibio fel y chwa.

Mor heinif cam, a threm fwy gwiw,
A welodd Iudah gynt;
Ac ar y llannerch lasdeg liw
Deleidion rai nad ynt:
Chwyf cedrwydd heirdd ar Lebanon,
Ond darfu'r harddach ferched llon!

Dedwyddach yw'r balmwydden werdd
Nag Israel alltud blant;
Hon daen ar led ei gwreiddiau fferdd
A'i chysgod hulia'r pant;
Ei genedigol fan nis gad,
A byw ni bydd mewn estron wlad.


Ond crwydro raid i ni yn llyth,
Mewn tiroedd pell mae'n bedd;
Lle gorphwys lludw'n tadau, byth
Ni chawn ni letty hedd:
O'n Teml nid erys maen, a Gwawd
Ar orsedd Salem wnaeth ei sawd.

XI.
GWYNFYDIGRWYDD Y CYFIAWN.

'Gwyn ei fyd y gwr ni rodia yng nghynghor yr annuwiolion.'—Salm i. 1.

Y SAWL yn dwys fyfyrio sydd
Yn neddf ei Dduw y nos a'r dydd,
Fel pren mewn gardd gauedig yw,
Ar lan afonydd dyfroedd byw;
Toreithiog ffrwyth rhydd yn ei bryd,
A'i ddalen werdd fydd dirf o hyd.

Nid felly carwyr pechod cas,
Ond fel pren crin mewn anial cras;
Neu fel mân us ar gyflym hynt
A chwelir gan y dwyrain wynt:
Ni safant hwy, gan faint eu bai,
Yng nghynnulleidfa'r cyfiawn rai.

Holl lwybrau'r cyfiawn doeth y sydd
Fel goleu'r haul ar ganol dydd;
A'i lewyrch yn cynnyddu o hyd
Yng nghanol maith dywyllwch byd:
Mae'n ddedwydd iawn, gwynfydig yw,
Ei ffordd adwaenir gan ei Dduw.


XII.
CARTREF YR YSPRYD.

'Dyn a drenga, a pha le y mae?'—Iob xiv. 10.

DIRGELAIDD iawn yng ngwawr ei oes,
Ac anwel fel y gwynt,
Yr yspryd ymaith pa le ffoes,
Mor gyflym ar ei hynt?

Os gofyn wnawn i'r beddrod du,
O'i hanes dim ni chair;
Os ceisiwn gan y bydoedd fry,
Ni thraethant hwythau air.

Am gyrau eithaf daiar faith
Mae chwedlau aml a chun;
Ond o fro'r yspryd, bellaf daith,
Ni ddaeth, ni ddychwel un.

Dwg yr awelon arogl mwyn
Dros fryniau pell, fin dydd;
Ond newydd byth ni fedrant ddwyn
O wlad y beddrod prudd.

Mesura gwyddor falch y nen,
A'r ser, aneirif lu;
Ond hi ni thraidd tu mewn y llen,
Lle gwnaeth efe ei dŷ.

Taen tew gysgodion dros y fan,
A chaddug dwys a'i cel;
Ond lle mae golwg yn rhy wan,
Ffydd yno'n amlwg wel.


XIII.
TITHAU YR UN YDWYT.

Dechreu blwyddyn.

'Tithau yr un ydwyt, a'th flynyddoedd ni ddarfyddant.'— Salm cii. 27.

Duw Dad! Tydi, o'th orsedd wen,
A lywodraethi lawr a nen!
Ar air dy eneu, gadarn Ior,
Gostega twrf gwyllt donnau'r môr;
Ac adnewydda'r haul ei daith
Gwmpasog ar y glesni maith.

O un i un ein blwyddau ni
A lithrant heibio fel y lli;
A hedeg mae ein horiau'n gynt
Na'r saeth, neu'r fellten chwimmwth hynt:
Ond Tithau, byth yr un wyt Ti,
A'th orsedd nid ysgogir hi.

Tydi a roddes fywiol ffun,
Ac einioes i bob math ar ddyn:
I Ti cyflwyno'n hun a wnawn,
A than dy aden nodded cawn:
Mae'n gobaith ynot; gwrandaw Di,
O'th gafell lân, ein cwynion ni.

Na chofia'n hanwireddau mwy,
Yn ol ein haedd na thâl yn hwy;
Ond arnom doed dy fendith rad,
Dy hedd i'n bron, dy nawdd i'n gwlad;
A bydded byth ein mynwes ni
Yn fywiol deml i'th foliant Di.

Wrth blant cyfyngder trugarhâ,
Ac arnynt beunydd esmwythâ;

Dyrchafa'r tlawd o'r llwch i'r lan;
Cynnalied dy ddeheulaw'r gwan;
Ar wreng a bonedd yn ein tir
Tywyned gwawr dy nefol wir.

Ac aed trigolion daiar las
Ar gynnydd beunydd ym mhob gras;
Darfydded Drwg; aed Rhinwedd ddrud
Ar edyn gwawr dros wyneb byd;
A'r ddaiar â moliannus lef
A chwyddo delynori'r nef.

XIV.
MARWOLAETH RAHEL.

'A Rahel a fu farw, ac a gladdwyd yn y ffordd i Ephrath.'— Gen. xxxv. 19.

CWSG Rahel draw yn Ephrath dir,
O dan ei phrudd dderwen wylofus;
A hulio mae'r dywarchen ir
Yr wyneb teg a'r fron gariadus.

Daw gwanwyn, cân yr adar mwyn,
A chwardd y friallen a'r rhosyn;
Ond Rahel byth ni theimla swyn
Caniadau'r berth, na blodau'r dyffryn.

Gyr haf ei des i chwareu'n chwai,
A dawnsia'r llancesau Iddewig;
Ond Rahel sy'n ei glwth o glai,
Heb gofio neb, yn anghofiedig.

Daw'r hydref, gan addfedu'r yd,
A llenwi y fro â llawenydd;
Ond tympan Rahel aeth yn fud,
Ai chân ni lonycha'r diwedydd.


Y gauaf oer ei wyntoedd chwyth,
Ac erchyll y rhua'r enawel;
Ond holl ystormydd daiar byth
Ni thorant dawelwch hun Rahel.

Mal hyn, heb wybod iddi, y
Tymmorau'n olynol a dreiglant;
A'i bron ni ddawr am neb o'r llu
O'i deutu yn angeu a hunant.

Ond-gwawria rhyw fendigaid ddydd
(Dychymmyg ni fedr ei ddarlunio),
Pan waeddir, Amser mwy ni bydd!'
A phaid y tymmorau â'u treiglo.

Ië, gwawria dydd, dydd llawn o hedd,
Pan ddryllir cadwynau marwolion;
A deffry Rahel, gad y bedd,
Ac esgyn i gylch y nefolion.

XIV.
GWLEDD BELSASSAR.

'Belsassar y brenin a wnaeth wledd fawr i fil o'i dywysogion, ac a yfodd win yng ngŵydd y mil.'—Dan. v. 1.

EISTEDDAI y brenin ar orsedd o aur,
O'i gylch ei arglwyddi uchelradd;
A milo heirdd lugyrn lewyrchent yn glaer
Wymporion aneirif y neuadd:
Mewn meiliau aur santaidd o gyssegr tŷ Duw,
Y gwin gorisgellog a chwarddai;
A'r annuw Cenedlig, rhyfygus ei ryw,
O lestri Teml IAHFEH a yfai!


Ond wele! ar ganol y sarllach a'r gwin,
Cyferbyn â'r ceinciog ganwyllbren,
Ar galchiad y pared mae bysedd llaw dyn
Yn araf ysgrifo ysgrifen!
Trwy'r llys treiddia dychryn, newidia pob gwedd,
Llesmeiria (gan fraw) yr arglwyddesau;
Cwymp delw dawdd Belus ger llaw'r deyrnol sedd,
A gwelwa goleuni'r llusernau!

Y brenin a genfydd; o'i law syrth y gwin,
A ffoa ffrwd bywyd o'i ddeurudd;
Ymddettyd ei lwynau; ymgura'i ddau lin;
A chryna fel deilen yr aethwydd!
'Ewch, gelwch ddewiniaid, a brudwyr, gwŷr prudd,
A doethion athronwyr-prysurwch!
Deonglant hwy'r geiriau arswydus y sydd
Yn tarfu'n breninol ddigrifwch.'

'Dysgeidion Caldea, y doethaf o wŷr,
Yr ysgrif pa ham na ddarllenwch?
Saif acw y geiriau yn fwys ar y mur,
Ac erys y swydlawn ddirgelwch!'
Gwybodaeth seryddion gwlad Babel oedd fawr;
Darllenent nef, daiar, a gweilgi:
Ond darfu eu doethder; ni fedrant yn awr
Ond tremio yn fud a dyddelwi.

O feibion Iudea caed yno un caeth,
Ag ynddo ef yspryd y duwiau';
Hwn sefyll yng ngwyddfod y brenin a wnaeth;
Darllenodd, agorodd y geiriau:
Dadlenodd ei dynged y nos honno'n hy,
A'r brenin gan welwi a welwodd:
Cyn agor amrantau'r wawr drannoeth y bu
Yn unol â'r gair a lefarodd.


'Belsassar! mewn clorian y pwyswyd dydi,
Ysgafnach na gwegi y'th gafwyd;

Dy helaeth freniniaeth, cyfrifodd Duw hi,
A'th goron i ereill a roddwyd;
Dy deyrnwisg yn ebrwydd yr amdo a fydd,
A'th ortho fydd maen oer y ceufedd:
Y Mediad yr awron o fewn dy byrth sydd,
A'r Persiad ei hun ar dy orsedd!'

XVI.
CWYMP SISERA.

'Pa ham yr oeda ei gerbyd ddyfod? pa ham yr arafodd olwynion ei gerbydau?'—Barn. v. 28.

MAE'R haul yn gohirio'i belydron hwyr gwanllyd;
Pa ham yr arafodd olwynion ei gerbyd?
Mae'r oer wlith ar Hasor wastadedd yn syrthio;
Pa ham mae olwynion ei gerbyd yn tario?

Aml wisgoedd symmudliw addurnant yr anrhaith
A lona'r gorchfygwr am ludded ei gadwaith;
A theg ferched Canaan, â'u llygaid duloewon,
A lon gyd-arsyllant gadfuddiant y gwron.

Yn rhanu yr yspail a ydynt mor hirfaith?
Ai ffoi y mae Sisera odd wrth ei fam ymaith?
Fy mab, O prysura! y cadfarch cynhyrfer;
Na tholed dy oediad lawenydd fy mhryder.

Mae'n oer y nos-awel, a'r lloer gan ariannu
Ar glogwyn anhylon Haroseh'n tywynu;
Mae'n flin fy amrantau, mae'm mynwes dan dristyd,
Wrth ddisgwyl fy Sisera o'r gad i ddychwelyd.

Seliasai afriflu y ser o'r ffurfafen
Ar obaith y gelyn, a'i erchyll dyngedfen;
Canys dyfroedd Megido yfasent falch greulif
Ei arfog gadluoedd yn nhrochion eu dylif.


A Sisera'n cysgu, mewn breuddwyd breuddwydiai
Am gartref, lle'n unig ei fam brudd arosai:
Griddfanai uwch difrod y cledd, a'r maes gwaedlyd,
Lle darfu gorfoledd dewr feibion cadernyd.

Disymmwth ei enaid a roddai gri chwerw!
A rhedai ffrwd bywyd i lawr ei rudd welw;
Canys Iael trwy ei greuan ei harf a bwyasai,
A'i lygad mewn caddug tragwyddol a soddai!

Efelly, O Arglwydd, y darffo y cyfryw
Sydd iti'n elynion, a holl feibion annuw;
Ac eled a'th hoffant byth rhagddynt ar gynnydd,
Fel haul yn disgleirio yn entrych canolddydd.

XVII.
YR ENETH DDALL.

MAM! gwedant hwy mai claer yw'r ser,
A'r wybren draw mai glas yw hi;
Am danynt mae'm breuddwydion per,
Gan dybied eu bod oll fel ti
Nis gallaf gwrdd â'r wybr hardd liw,
A'r ser ni thraethant air i mi;
Ond cyfyd eu delweddau gwiw
Yn gymhlith pan y cofiwyf di.

Nis gwn pa ham, ond mynych hed
Fy mryd i'r gwynfyd hwnt y bedd;
A gwrandaw'th lais i mi a wed
Mai un fel hyn yw gwlad yr hedd:
Pan wesgi di'r brudd galon hon
Yn dy faddeugar fynwes gun,
Hyfrydwch pur a draidd fy mron,
A meddaf, 'Hyn yw nef ei hun.'


O, mam! a faddeu yr uchel Dduw
Fy meiau, fel maddeui di?
A rydd E'i serch, o ddwyfol ryw,
Ar eneth ddall a thlawd fel fi?
Na ad fi, mam! tra ar y llawr,
Bydd gydaf yn awr angeu du;
A dwg fi at yr orsedd fawr,
Ac aros yn y nefoedd fry.

XVIII.
Y DDALL A BYDDAR.

Fy hanes sydd am eneth
Heb weled ac heb glyw;
Ni wyddai beth oedd archwaeth
Nac arogl o un rhyw;
Ni feddai ddim ond teimlad
O'i holl synwyrau drud;
Y dwymyn boeth a'i gadodd
Yn eneth ddall a mud.

Ond yn ei dwys unigrwydd
Danfonodd Duw y nef
Gyfeilles fwyn i'w dysgu
I'w wir adnabod Ef,
A'i Unig Anfonedig,
Yr Arglwydd Iesu Grist,
A'r Yspryd sy'n diddanu
Y drymllyd galon drist.

Hi glywodd, er yn fyddar,
Y llafar ddistaw fain';
Er mewn tywyllwch, gwelodd
Y 'gwir Oleuni' cain;

Aroglodd Rosyn Saron,'
Gan brofi'r dyfroedd byw,'
Nes ffoi o'i hyspryd adref
I drigo gyda'i Duw.

XIX.
MERCH IEPHTHAH.

'Efe a wnaeth â hi yr adduned a addunasai efe. A bu hyn yn ddefod yn Israel, fyned o ferched Israel bob blwyddyn i alaru am ferch Iephthah.'—Barn. xi. 39, 40.

CYWIRA'TH adduned, nac oeda, fy nhad!
Fy einioes ni phrisiaf; achuber fy ngwlad:
Os mi a ennillodd i ti y gad hon,
Nac arbed y fynwes sy noeth ger dy fron!

Lleferydd fy ngalar ni chlywir byth mwy;
Ni wel y mynyddoedd mo honof yn hwy;
A marw, os marw o dan dy law di,
Fydd marw heb deimlo marwolaeth i mi.

Pam rhwygi dy ddillad? Er cryfed dy serch,
Na thor dy ddiofryd i wared dy ferch:
Yn wyryf gorweddaf yn isel fy ngwedd,
Mor bur a'r blodionos a huliant fy medd.

Er dyrchu o ferched teg Israel eu cri,
Na aded gwroldeb y gwron dydi:
Buddugwyd ar Ammon, ennillwyd y dydd;
Er gwaedu merch Iephthah, mae Israel yn rhydd!

Pan fyddo gwres olaf fy mron wedi ffoi,
A'r llygad a gerit, byth, byth wedi'i gloi,
Arosed fy enw'n dy galon yn gudd,
A chofia im' farw a gwên ar fy ngrudd.


XX.
YR ANRHEITHIEDIG.

'Y mae eich gwlad yn anrheithiedig, eich dinasoedd wedi eu llosgi â than eich tir â
dieithriaid yn ei ysu yn eich gŵydd, ac wedi ei anrheithio fel ped ymchwelai estroniaid ef.'—Esa. i. 7.

MERCH Israel! galara, gyr allan dy gwynion;
Aeth dinas dy dadau yn anrhaith i'r estron:
Gwel, glesni dy dirion lannerchau edwinodd,
A Rhyfel ei edyn rhudd drostynt a daenodd.

Pa fodd y diwreiddiwyd dy dderw cadeiriog,
A chwyfent eu cangau mewn balchder mawreddog?
Y ffawydd irlaswedd a'r palmwydd nodadwy
Gwympasant yn llorwedd o flaen y rhyferthwy.

Gwywedig y gorwedd dy wigoedd cedrwyddin,
A phallodd ireiddiant y llwyni olewin;
Cynhauaf y grawnwin ni lona dy lanciau,
A chiliodd y dawnsiaw o fysg dy lancesau.

Dy erddi, prydferthach na'r meusydd Elysiain,
A duria gwydd-faeddod; a'th ddeildai engylain,
A wenent mor laswawr, crinedig oll ydynt,
Fel grug y diffaethwch o flaen y toredwynt.

Na myrt nac eurlwyni ni wychant dy ddolydd,
Ond dinystr a doa dy frodir ysplennydd;
Y ŵyll a orphwysa o fewn dy balasau,
A chysgu mae Difrod ar adfail dy gaerau.

Dy adar ni chlywir yn odli hyfrydwch,
A llais telynorion a drowyd yn dristwch:
A heddyw pa le mae'r gwyryfon a oeddent
Mor dlosgain a gwridawg a'r blodau a blethent?


Dy Deml a ymollwng yn llwydwedd ac unig;
Dy dŷ a adawyd i ti'n annhrefedig:
Y llwynog ar hyd dy heolydd a uda,
A'r buri ar weddill y cledd a loddesta.

Galara! goleuni IEHOFAH ymadodd,
A dyddiol nos drosot ei lleni amledodd;
Y fflam oedd mor rhuddgoch, ni ddyrch o'th allorau,
Diflannodd dy degwch, edwinodd dy flodau.

Aeth manon y ddaiar yn anghyfanneddle,
A'i chyssegri gywion yr estrys yn drigle:
Gan law yr yspeilydd dy wlad a anrheithiwyd,
A'th blant i estroniaid yn gaethion a werthwyd.

Y rhiniau a chwarient o'th amgylch, a ffoisant,
Gweledion darogan dy feirdd a beidiasant;
Dy gwpan a lanwyd i fyny o chwerwon,
A thithau a yfaist ei erchyll waddodion.

Ar anterth yr hafddydd dy haul a fachludodd;
Fel cwmwl boreuddydd dy fawredd a giliodd;
Distawrwydd a hulia dy eang wastadedd,
A Dial a chwardda ar olion Creulonedd.

Byddinawl fanerau ni welir yn chwyfaw
O flaen dy byrth mwyach, nac arfau'n disgleiriaw;
Oddi wrthynt enciliodd grymusder y cedyrn,
Y darian a ddrylliwyd, a phallodd yr udgyrn.

Galara! clyw ddolef alaethus y gweddwon
Uch maes y gelanedd, lle huna eu meirwon:
Y fam byth ni wela ei mab yn dychwelyd,
A'r wyryf yn ofer ddisgwylia ei hanwylyd.

Y tyrau, a ddyrchent eu penau mawrhydig,
Sydd heddyw yn garnedd dan draed yn fathredig;
Ym mangre Llawenydd gwnaeth Tristwch ei drigfan,
A baner Marwolaeth sydd yno'n cyhwfan.


Dy rwysgawg deyrnwialen mewn dirmyg a ddygwyd,
Gan allu'r Cenelddyn dy orsedd a dreisiwyd;
Dy dlysion nid ydynt, dy emau ni lathrant,
Yr aur a dywyllodd!—pa le mae'r gogoniant?

Hon wedd ni'th anghofid, pan drwy ffyrdd yr eigion
Wrth lewyrch nef-lygorn tywysid dy feibion,-
I'th borthi pan ddafnai y gwlithoedd neithderin,
A ffrydiai y dyfroedd o'r creigiau callestrin.

Tan nodded angylion gynt buodd dy furiau;
A duwiau lu gadwent ar Sion noswyliau;
A Chedron balmwyddawg a chwyddai'r awelon,
Ym min y cyflychwyr, ag odlau nefolion.

Bu amser, pan iti gan ddynawl acenion
Yr haul a ohiriai ei danllyd olwynion;
A'r lloer, yn wâr ufudd, y llef a erglywai,
A rhawd ei char gwelw ar unwaith a safai.

Anadlai dy ddyffryn ei berion boreuol,
A'r rhoslwyn yn Saron a wridai yn siriol;
Pelydron yr heulwen gorelwent yn weisgi,
Wrth alaw yr adar, ar ddwyfron y lili.

Ond-eto dy lwysion werddonau a wridant,
A'th fryniau gan flodau anedwin a darddant;
Ol difrod ni welir, ac Eden o newydd,
Ag iriant tragwyddol, addurna dy feusydd.

XXI.
DISTRYW CAERSALEM.

O WYLWCH am Salem! am Salem,
O wylwch! Am Salem a fethrir gan dorfoedd tywyllwch:
Taen Rhufain ei Heryr ar gopa ei thyrau;
Yng ngwaedlin ei meibion troch cadfeirch eu carnau.


O ddedwydd dyngedfen y llu lladdedigion,
Sydd heddyw'n gelanedd gan gleddyf yr estron!
Gwae'r byw a adawyd yn anrhaith i'r newyn,
Caethiwed y treisydd, a gwawd y Cenelddyn!

Yr haul oedd yn machlud; a'r fflam o'r adfeiliau
A fflachiai pan olaf y tremem ei muriau;
O! yna na welsem y fellten yn gwibio,
Ac ar y gorthrymydd ei bollt yn ymddryllio!

Un drem, yn iach yna i'r teios a'r tyrau,
I resi y gwinwydd, i glosydd y blodau;
I'n Teml, i'n Teml fawrwych, lle llathrai pelydron
Gogoniant IEHOFAH y rhwng y Cerubion.

O alaeth mwy chwerw nag angeu, dy adael,
Llawenydd y ddaiar, gogoniant gwlad Israel!-
Dy adael yn yspail Rhufeinig greuloniaid,
Plant anghred didostur, a meibion anwiriaid.

Yn iach i'th ffynnonau, yn iach i'th gysgodion,
I ganu dy lanciau, i ddawns dy wyryfon,
I arogl dy erddi, i alaw dy goedydd,
I'th gedrwydd rhagorol, i'th lwyni olewwydd.

Daeth dydd dy gyfyngder! yn iach, Salem hawddgar!
Alltudion mwy'n gelwir hyd wyneb y ddaiar;
Rhaid gadaw'th gyssegroedd, rhaid gadaw'th allorau!
Ond byth nid ymgrymwn i neb ond DUW'N TADAU.

XXII.
DEFFROWN! FE DDAETH Y DYDD.

Can Blygain Nadolig

DEFFROWN! fe ddaeth y dydd,
A hyfryd wawr yn awr o'r nef,
Sain hedd ar ddaiar sydd;
Llawenydd sydd uwch ben:

Doed mawr a mân i draethu'r gân
I wir Eneiniog nen.
Clywch newyddion yr angylion,
Yng nghyd â'r nefol lu:
Unwn ninnau yn y ganiad,
Bore geni'n Ceidwad cu:
Cyfododd Haul Cyfiawnder maith
Ar dir anobaith du.

Yng nghysgod Angeu prudd,
Heb lewyrch dydd na gweled dawn,
Eisteddai dynol ryw,
Eu cyflwr athrist oedd!
Ond draw yn Ninas Dafydd lân
Caed testun cân o hyd.
Darfu, darfu'r tew gysgodau,
Daeth y goleu, dyma'r dydd;
Mewn gwedd isel yn y preseb
Dwyfol Bresennoldeb sydd!
Daeth Crist ei Hun i brynu dyn;
Na fyddwn mwyach brudd.

Gosteged cynhwrf byd,
Gwrandawn y gân sy'n treiddio'r nen,
Aed tonnau'r môr yn fud;
A doed trigolion llawr
I ganu'n awr yn un eu llef
A theulu'r nef ei hun:
Boed anfarwol gerddi moliant,
A gogoniant i'n Duw ni,
Gan ddynolion ac angylion
Yn y goruchafion fry,
Un llais, un llef gan lawr a nef
Am eni'r Ceidwad cu.

XXIII.
RHAN O EMYN SANT AMBROS.

'Ti, Dduw, a folwn; Ti a gydnabyddwn yn Arglwydd.'

TYDI, O Dduw, a folwn ni,
Addefwn Di yn Llywydd:
Y ddaiar oll a rydd fawrhâd
I Ti, y Tad tragywydd.

Byth arnat Ti, ag uchel floedd,
Y llefa'r lluoedd nefol;
Cerubiaid a Seraphiaid glân
Ar newydd gân wastadol.

Yr Apostolaidd gôr a'th fawl,
Tydi yw mawl Prophwydi;
A'th foli mae, ar gydsain gu,
Ardderchog lu'r Merthyri.

I Ti, Santeiddiol, Nefol Ner,
I Ti yn ber y canant:
O'r ddaiar hon i entrych nef
Adseinia llef dy foliant.


Yr unrhyw ar Fesur arall.

TYDI, O Dduw, a folwn ni,
Yn Arglwydd cydnabyddwn Di;
Y ddaiar oll a ddyry fawl
I Ti, dragwyddol Dad y gwawl.

I Ti y cân angylion nef,
A'u nerthoedd oll, ar lafar lef;
Cerubin a Seraphin sydd
Yn llefain arnat nos a dydd.


Dy foliant Di, anfeidrol Ior,
A seinia'r Apostolaidd gôr;
Prophwydi a Merthyron glân
I Ti a gyd-ddyrchafant gân.

Yr Eglwys Lân, â'i llef yn llon,
A'th fawl dros wyneb daiar gron;
A'r nefol lân aneirif lu
A'th fawl trwy'r holl ororau fry.

XXIV.
WRTH DDYFROEDD BABILON.

'Wrth afonydd Babilon, yno yr eisteddasom, ac wylasom, pan feddyliasom am Sïon.'—Salm cxxxvii. I.

GAN eistedd wrth ddyfroedd Babilon,
Wylasom wrth gofio y dydd
Y sathrai y gelyn uchelion
A thyrau heirdd Salem heb ludd;
A chwithau, amddifaid wyryfon!
Wasgarwyd yn lleithion eich grudd.

Tra syllem yn brudd ar yr afon
A lifai mewn rhyddid is law,
Gofynent am gân; ond i'r estron
Hyn byth o orfoledd ni ddaw!
Cyn chwareu telynau per Sïon
I'r gelyn, byth gwywed fy llaw!

Y delyn ar helyg gangenau,
O Salem! a grog uwch y lli;
Nis gadwyd o ddydd dy wychderau
I mi un cofarwydd ond hi:
A byth ni chymmysgir ei seiniau
A llais yr yspeilydd gan i!


XXV.
DAETH Y CEIDWAD, LLAWENHAWN.

DAETH Y Ceidwad, llawenhäwn,
Gyda'r dorf i Fethlem awn;
Gwelwn yno'r Ceidwad cun
Gwedi gwisgo natur dyn.
Daeth yr hyfryd ddedwydd awr,
Ganwyd y Messiah mawr.

Ganwyd, do, ym Methlem dref,
Grist, Eneiniog mawr y nef;
Wele Air y Dwyfol Ri,
Ior y nef, Duw gyda ni.
Daeth yr hyfryd ddedwydd awr,
Ganwyd y Messiah mawr.

Clywch caniadau engyl sy
Yn dadseinio'r nefoedd fry;
Dydd gorfoledd heddyw yw,
Dydd cymmodi dyn a Duw.
Daeth yr hyfryd ddedwydd awr,
Ganwyd y Messiah mawr.

Dyma ddydd trugaredd hael,
Gwaredigaeth i rai gwael;
Mawl i Dduw trwy'r bydoedd fry,
Tangnef ar y ddaiar ddu.
Daeth yr hyfryd ddedwydd awr,
Ganwyd y Messiah mawr.

Dydd yw hwn, ein Duw a'i gwnaeth,
Dydd rhyddhâd carcharor caeth;
Dydd agoryd teyrnas nef
I golledig fyd yw ef.
Daeth yr hyfryd ddedwydd awr,
Ganwyd y Messiah mawr.


Tori wnaeth y nefol wawr
Dros derfynau daiar lawr;
Cysgod angeu ffoi a wnaeth,
Caddug hirnos ymaith aeth.
Daeth yr hyfryd ddedwydd awr,
Ganwyd y Messiah mawr.

Llawen gân sy'n treiddio'r nen,
Llef gorfoledd Gwynfa wen;
Cydgan ser y bore yw,
Sain clodforedd meibion Duw.
Daeth yr hyfryd ddedwydd awr,
Ganwyd y Messiah mawr.

Dowch, addolwn ger ei fron,
Ef yw Arglwydd daiar gron;
Er mor dlawd ei letty yw,
Egwan ddyn, mae'n gadarn Dduw.
Daeth yr hyfryd ddedwydd awr,
Ganwyd y Messiah mawr.

Henffych, Fab y Dwyfol Dad,
Henffych, wir Waredydd rhad;
Henffych, Dduw a ddaeth yn ddyn,
Heddyw gwnaed y ddau yn un.
Daeth yr hyfryd ddedwydd awr,
Ganwyd y Messiah mawr.

Henffych, Haul Cyfiawnder mwyn!
O dywyllwch daeth i'n dwyn;
Henffych, hael Dywysog Hedd,
Awdwr bywyd wedi'r bedd!
Daeth yr hyfryd ddedwydd awr,
Ganwyd y Messïah mawr.

Llawenhau mae seintiau glân
Trwy eithafoedd gwlad y gân;
Engyl pur o gylch y fainc
Sy'n dyrchafu'r newydd gainc.

Daeth yr hyfryd ddedwydd awr,
Ganwyd y Messïah mawr.

Llafar-ganed pobloedd byd
A'i ynysoedd pell yng nghyd;
A chydfloeddied côr y nef
Byth ogoniant iddo Ef!
Daeth yr hyfryd ddedwydd awr,
Ganwyd y Messiah mawr.

XXVI.
GWAGDER Y BYD.

'Gwagedd o wagedd; gwagedd yw'r cwbl.'—Preg. i. 2.

NIS geill mwynderau'r ddaiar hon
Ddedwyddu y bruddedig fron;
Ei thlysau teg a'i gemau drud,
Gau a thwyllodrus ynt i gyd.

Oferedd yw holl fawredd byd,
A gwychder hwn nid yw ond hud:
Edwinol yw ei flodau syw,
A'i degwch penaf, cysgod yw.

Cais rhai anrhydedd hwn a'i fri,
Ac am eu cael mae'n fawr eu cri;
Ond distrych môr ar greigiog ael
Yw sylwedd ei drysorau gwael.

Uwch ei holl fwyniant, dyrchu wnaf
Fy ngolwg tua llys fy Naf;
Dedwyddwch anniflannol sy
O fewn cylch aur y gwynfyd fry.


XXVII.
DINAS DUW.

'Gogoneddus bethau a ddywedir am danat ti, O ddinas Dduw!'—Salm lxxxvii. 3.

O'r fath bethau gogoneddus,
O'r fath eiriau hyfryd yw
Y darluniad anrhydeddus
Roir o Sion, dinas Duw!
Dyma drigfan Duw y duwiau,
Ar y graig mae sylfaen hon;
Iachawdwriaeth yw ei muriau,
Pwy all ddrygu ei heddwch llon?

O, mor ddedwydd yw trigolion
Dinas Sion gyda'r Oen!
Yn eu gynau disglaer gwynion
Mewn anfarwol hedd a hoen;
Ar orseddau yn y nefoedd,
Ar ddeheulaw Barnwr byd,
Wedi'u gwneuthur yn freninoedd
Ac offeiriaid maent i gyd.

XXVIII.
Y DIFROD.

AR lanau'r Iorddonen yr Arab a grwydra,
Ar santaidd Fryn Sion yr Anwir addola;
Mawrygwyr Baal welir ar Sinai'n ymgrymu,
Ond yno, Duw'r Dial, mae'th daran yn cysgu!
Ië, yno, lle ysgrifodd dy fys y ddeddf danllyd,
Lle llochai dy gysgod dy bobl yn y cynfyd;
Lle cuddiai tân fflamiol belydron dy ogoniant:
Dy Hun, a byw hefyd, marwolion ni welant.

Ar edyn y fellten, O Dduw, ymddisgleiria,
O law y gorthrymydd ei gledd ffwrdd ysguba;
Pa ham y gormesiaid dy gyssegr a sathrant!
Pa hyd bydd dy demlau heb adsain dy foliant!

XXIX.
BARTIMEUS DDALL.

Ar Ddelw Longfellow

'Bartimeus ddall, mab Timëus, oedd yn eistedd ar fin y ffordd, yn cardota.'—Marc x. 46.

GER Iericho, mewn man cyfleus,
Eistedda'r truan Bartimeus;
A chlywa gan y dyrfa fod
Yr Iesu y ffordd honno'n d'od;
Ac yn ei ing gwaedd arno Fe,—
Iesou, eleêson me!

Amlhâ'r tyrfaoedd ar bob llaw,
A cheisiant arno roddi taw;
Ond uwch eu hust a'u bloedd, y dall
A ddyrch ei lef-ni chymmer ball,
Nes clyw,-Dy alw mae Efe!'
Tharsei, egeirai:phônei se!

Yr Iesu'n dirion ato ddaw,
Gan weyd, 'Beth geisi ar fy llaw?'
Eb yntau, Cael o honof fi
Fy ngolwg, Athraw, genyt Ti!'
Ateba'r Iesu—' Hupage:
Hê pistis sou sesôke se!'

Chwi rai â llygaid genych sy,
Ac eto'n byw mewn caddug du,

I'ch adgof doed y geiriau cu,—
Iêsou, eleêson me!
Tharsei, egeirai, hupage!
Hê pistis sou sesôke se!

XXX.
GWAITH Y CREAD.

O'r Almaeneg

GWRM a marw daiar ydoedd,
Mewn tywyllwch nos yn hudd;
Gwedai y Tragwyddol, 'Bydded,'
Ac i fod goralwai Ddydd.
Odd uchod dylifai gwawl llachar ei liw,
Ac engyl i'w groesaw a gathlent yn gliw.

Duw lefarai:dyfroedd ffrydient
O'u dofn gronfa yn eu hias;
Dyrchai y ffurfafen, huliai
Fwd y nen â gortho glas.
Nan uchod tanbeidiai gorlesni nef ffaw,
Gan anfon i'r ddaiar oleuni a gwlaw.

Duw lefarai:rhenid awon,
Daiar godai i fyny ei phen;
O'r ban fynydd a'r serth glogwyn
Ymledaenai ffrydlif tren.
Y ddaiar orphwysai ym mynwes nef lwys,
Uwch gwagle diderfyn mantolai ei phwys.

Duw lefarai:bryn a thyno
Wisgent befraf wisgoedd gwyrdd;
Yn y dyffryn gwigoedd chwyfient,
Gwelid blagur coedydd fyrdd.
Ei Air a ddillada y werf allt a'r llwyn,
Gan fantell o geinion addurna bob twyn.


Duw lefarai:gwenai Huan
Ar y newydd ddaiar wen,
Yna dyrchai i fyny i redeg
Ei mawr chwyl yn entrych nen.
Uwch ben, gan ddisgleinio, llon floeddiai y ser;
I'w cherbyd breninol esgynai'r Lloer der.

Duw lefarai heigiai dyfroedd
O aneirif ddeiliaid llif;
Gweai ednod chwai, amryliw,
Trwy y gelli yn ddirif.
Ban ddyrchai yr eryr ar edyn o dân;
A'r eos a lonai y dyffryn â'i chân.

Duw lefarai:o'r clai tarddai
Y llew, a'r march, a'r eidion mwyn,
Tra o gylch y ddôl flodeuog
Siai'r gwenyn, pranciai'r ŵyn.
Yn heidiau byw hulient y mynydd a'r glyn;
Ond byth tua'r ddaiar y selant yn syn.

Duw lefarai:tremiai ddaiar
A nef wen â golwg gun;
Mewn myg urddas Dyn a greai
Ar ei Ddwyfol ddelw ei Hun.
O'r pridd ymddyrchafai yn arglwydd y llawr;
Llawenai holl gydgor y nef am yr awr.

Nan gorphenwyd Gwaith y Cread,
Weithion dyn lefarai'n ffraeth:
Dydd o drefniad Duw i orphwys,
Bore Sabbath gwawrio wnaeth.

XXXI.
CWYMP Y DAIL.

'Un naws â dail einioes dyn.'—Gronwy Owain.

O FARWOL ddyn! y ddeilen wyw
Lefara'n brysur wrthyt ti,
'Ber yw dy oes, a'th ddyddiau i fyw
Sy ddiddym fel yr eiddom ni.

'Pan elo gwanwyn einioes ffwrdd,
Per haf dy fywyd lona'th wedd,
Y deifiol hydref ddaw i'th gwrdd,
A gauaf henaint dyr it' fedd.'

Pan ddychwel gwanwyn, blodau lu
A wisgant y werdd goedwig lwys;
Ond am y dyn, y fan y bu
Yn unig saif yn arwydd dwys.

Ond mewn rhagorach gyflwr, dir
Mae'r rhai a hunant ynddo Ef;
A chodant mewn dedwyddwch gwir,
A'u haf a bery tra bo nef.


XXXII.
Y CEISIEDYDD TRYSOR.

O Göthe

GWEDI treulio'r dydd mewn lludded,
Ymson wnawn, â chalon wyw:
'Cyfoeth yw y fendith fwyaf,
Tlodi, melltith drymaf yw!'
Yna yr eis i gloddio trysor
Maes i'r coed, gan weyd yn llyn:

Ellyll! eiddot byth fy enaid!'
Ac â'm gwaed llofnodais hyn.

Llunio yna'r cylch cyfaredd,
Cynneu y cyfrinol dân;
Trefnu llysiau'r swyn, a'r esgyrn,
Traethu yr orcheiniol gân;
Chwiliais am yr aur cuddiedig,
Chwiliais fel am wrthddrych cu,
Megys y'm dysgasai'm hathraw;—
Gerwin oedd y nos a du.

Gwelais lewyrch yn ymddangos
Draw o bell, fel seren dlos;
A dynesai, pan y seiniai
Tafod oer cnul hanner nos:
Deuai'm mlaen yn chwai gan fflachio,
Fel y tanllyd win a chwardd,
Pan y llif o'r fail gyforiog;—
Hwn a ddygai llencyn hardd.

Am ei ben yr oedd talaith ddisglaer,
Syniant oedd ei lygad mwyn;
Yna mewn i'r cylch y camai,
Gyda'r gwawl oedd yn ei ddwyn.
Ceisiodd genyf brofi'r cwpan:
Tybiais innau, 'Nis gall ddim
Mai y llencyn hwn yw dygydd
Rhoddion prid yr ellyll im'!

'Profa draflwnc pur fodoldeb
O'r aur gwpan ger dy fron;
Ac â'th farwol hud a lledrith
Byth na ddychwel i'r fan hon:
Am drysorau'n hwy na chloddia;
Bid dy eiriau swyn rhag llaw,-
"Dydd i weithio, nos i orphwys;"
Felly hedd i'th fron a ddaw.'

XXXIII.
DYFROEDD BYWIOL.

DYFROEDD bywiol sydd yn llifo
Dan dy orsedd Di, fy Nuw,
Fel y crisial gloew, disglaer,
Afon Iachawdwriaeth yw.
Dyma'r ffrydiau byw, rhedegog,
Sydd yn lloni'r ddinas fry;
Ar ei glan mae pren y bywyd
I iachau aneirif lu.

Dyma le i olchi'r aflan
Oll yn wyn fel eira mân;
Dyma fan i buro'r euog
Nes ei wneyd yn berffaith lân:
Hon yw'r ffynnon lawn o rinwedd
Sydd yn disychedu'r llawr;
Canwn iddi, mae ei ffrydiau
Yma 'ng ngwlad y cystudd mawr.


XXXIV.
I FABAN.

'Fel blodeuyn y daw allan.'—Iob xiv. 2.

I FYD y daethost, flodyn per,
Sy'n llawn gorthrymder drwyddo,
Lle mae tymmestloedd mawr eu grym,
A gwyntoedd llym yn rhuo,
Heb nemawr o ddedwyddwch cu
I'r dynol deulu ynddo.

Yn hwn erglywir y march coch
Yn aml yn croch weryru;

Goreilw'r udgorn flodau gwlad
I faes y gad i waedu;
A gwelir myrdd o feibion gwŷr
Trwy'r cleddyf dur yn trengu.

Ni chwythodd eto drallod blin
Gauafol hin i'th erbyn;
Ni phrofaist ing, trueni oes,
Nac unrhyw groes awelyn;
Ond megys rhosyn coch yr ardd
Blodeui, hardd flaguryn.

Dedwyddwch yn dy fynwes sydd,
Ac ar dy rudd, prydferthwch;
Nyth diniweidrwydd dan dy fron,
Ac yn dy galon, heddwch;
Dynwared mae dy lwys wên gu
Wên engyl fry mewn tegwch.

Ni wyddost ti am lwybrau brad,
Cenfigen, na dichellion
Uchelgais, a dryganian hell,
Sy ddigon pell o'th galon;
O'i mewn ni thriga meddwl drwg,
Ni phrofa wg elynion.

Eginyn hoff o siriol wawr!
Er gwenu'n awr yn ddengar,
Daw, dichon, oeraidd chwa ar fyr
I ddeifio'th flagur cynnar;
Nid gormod gan y creulawn fedd
Yw cuddio gwedd mor hygar.

Ond hinsawdd y daiarol fyd,
Os gwrthyd ef dy faethu,
Ac os na chei flynyddoedd hir
I deithio tir galaru,
Dy hanfod pur, anfarwol yw,
Cei gyda Duw drigiannu.


Cei eto ail flaendarddu'n lwys
Yn y Baradwys nefol;
Tirf fydd dy flodau, gwyrdd dy ddail,
Yn llewyrch Haul tragwyddol;
Disgleirio wna dy liwiau ter
Fel goleu ser tanbeidiol.

O flaen gorseddfa ddisglaer Ner
Cei blethu per ganiadau,
Ym mysg y llu ar Sion fryn,
A thelyn dyn ei thannau:
Digonir pawb sydd yno'n byw
A delw Duw y duwiau.

Yr haul a ball ei lewyrch chwyrn,
Dadwreiddir cedyrn fryniau;
Ond dy ddedwyddwch di ni thyr
Holl gynhwrf yr elfenau,
Ymddrylliad y ddaiaren faith,
Na berw'r llaith eigionau.

XXXV.
Y GROES.

'Na ato Duw i mi ymffrostio ond yng nghroes ein Harglwydd Iesu Grist.'—St. Paul.

YNG Nghroes fy Arglwydd ffrostio wnaf,
Trwy hon mi gaf orfoledd,
A chysur pur wrth deithio'r glyn,
A choron yn y diwedd.

Mae dirmyg Crist a'i Groes i mi
Yn fwy o fri ac urddas
Na'r holl drysorau sy'n y byd,
A chyfoeth drud pob teyrnas.


Yn ymyl Croes fy Arglwydd mawr,
Caf daflu i lawr fy meichiau,
A dyrchu cân i'w Enw cu
Mewn llu o gyfyngderau.

Gan ddwyn y Groes ym mlaen yr awn
I'r wlad sy'n llawn hyfrydwch;
Cawn yno daflu'r Groes i ffwrdd,
A siriol gwrdd mewn heddwch.

Cytteimlo mae ein Ceidwad cu
A'r rhai sy dani'n griddfan;
E gariodd Ef ei Groes cyn hyn
I ben y Bryn ei Hunan.

Ac yno ei Fywyd pur a roes
Ar ben y Groes yn bridwerth;
O'i wirfodd marw wnaeth ei Hun
Dros waelaf ddyn yn aberth.

Os croesau fyrdd a rhwystrau sy
Yn awr i deulu Sion,
Pan dderfydd dyddiau'r freuol oes
Fe dry y Groes yn goron.

Pa ham y grwgnach bach na mawr
Am ennyd awr o dani?
Mae holl gystuddiau'n heinioes fer
Yn hollol er daioni.

Mae nerth wrth raid i'r teulu mwyn
Sydd yn ei dwyn yn ufudd;
Ac oddi mewn y nefol gaer
Cânt wenwisg glaer a phalmwydd.

Ar ben y daith, yng ngwlad yr hedd,
Ceir siriol wledd wrth gofio
Helyntion garw'r dyrys dir,
A'r croesau'n hir gaed ynddo.


Ffordd gul y Groes yw ffordd y nef,
A'r pur dangnefedd hyfryd;
Hon yw y ffordd a'n dwg cyn hir
Yn iach i dir y bywyd.

Ar fyr cawn etifeddu'r wlad
Lle mae ein Tad yn Llywydd,
Ym mhell uwch cyrhaedd unrhyw loes,
Trwy rinwedd Croes ein Prynydd.

XXXVI.
BRWYDR GILBOA.

2 Sam. i. 17.

CERBYDAU, ac arfau, a buain feirch gwrdd,
A lenwant y mynydd â rhyfel a thwrdd;
Croch ddolef yr udgyrn hyd nenoedd a draidd,
A chryna Gilboa o eigion ei wraidd.
O erchyll gyflafan! O alaeth gwir fawr!
Y milwyr syrthiedig a huliant y llawr!
Dialedd, doe, chwyddai eu bronau llawn hoen,
A chwythent arwredd yn llydain eu ffroen;
Ond heddyw'n gelanedd mewn tyweirch o waed,
Fel crinddail yr hydref a sethrir dan draed.
Doe, gwelid y cadlanc yng nghymdaith y fun
A garai anwyled a'i enaid ei hun,
A'i fynwes yn orlawn o serchlawn fwynhâd,
Ond, heddyw, e syrthiodd ym mhoethder y gad!
Y bore, tarianau, ac eirf, a dur dawr,
A liwient â glesni gain esgyll y wawr;
Cyn ucher gorweddent mewn rhwd ar y maes,
A'r dwylaw a'u llofient yn llib ac yn llaes.
Dyspeidiodd gweryriad y cadfarch a'i ffroch,
Ei wddf mwy ni wisgid â tharan a broch:

Gorweddai y marchog yn welw ei ffriw,
A gwaed ar ei harddwisg, a'i darian yn friw:
Ni chwyfid un faner, ni ddyrchid neb rhain,
Distawodd pob udgorn, a phallodd pob sain.
E gwympodd y cedyrn! y rhyfel drymhaes
Yn erbyn gwŷr Israel, collasant y maes;
Archollwyd eu brenin, Saul drengodd drwy gledd
Gwŷr dienwaededig, barbaraidd eu credd;
A Ionathan hawddgar, deheulaw y gad,
A ebrwydd ganlynodd oer dynged ei dad.
Mewn bywyd hwy oeddent gariadus a chu,
Ac yn eu marwolaeth ysgariaeth ni fu:
Cynt oent na'r eryrod ar gopa'r graig gerth,
A chryfach na'r llewod, yn hafddydd eu nerth.
O Israel amddifad! mewn creulawn sarhâd
Y gelyn a fathrodd ogoniant dy wlad;
A tharian y cedyrn, annedwydd dy ffawd,
A ddug efe ymaith mewn dirmyg a gwawd.
Yn Gath nac adroddwch am anffawd mor gref,
Na thraethwch y newydd yn Ascalon dref,
Rhag dyrchu o'r grechwen o demlau'r duw gau,
A merched Philistia yn falch lawenhau.
Gwyryfon gwlad Israel, dyrchefwch eich cri
Am Saul, a'ch addurnai â gwychder a bri;
Yr hwn, â hyfrydwch, a'ch gwisgai yn glaer
A gwisgoedd ysgarlad, a gemwaith, ac aur.
Ŏ waedlyd Gilboa! byth arnat na foed
Y ter wlith yn disgyn, gwlaw arnat na ddoed;
Yn faes o offrymau na fydded y fan
Lle syrthiodd y cedyrn yn ddinod a gwan.
Doed malldod i'w lesni, a byth ar ei ben
Boed melltith y ddaiar a melltith y nen.

XXXVII.
Y BALCH A'R GOSTYNGEDIG.

'Y mae Duw yn gwrthwynebu y beilchion, ac yn rhoddi gras i'r rhai gostyngedig.'—Iago iv. 6.

IOR y nef a wena'n siriol
Ar y sawl sy'n gwneyd ei gais,
Ar y truan a'r cystuddiol
Sydd yn crynu wrth ei lais:
Edrych gyda Dwyfol ddirmyg
Ar wageddau beilchion byd,
A dyrchafa'r gostyngedig
Uwch eu holl ofidiau i gyd.

Gwrthwynebu'r rhai hunanol
A'r ymffrostwyr ffol y mae;
Rhoi i'r tlawd gyfodiad grasol,
Gan ei wared o bob gwae;
Codi'r isel o'r tomenau,
Gostwng cyfoethogion fyrdd:
Pwy a ddirnad drefn ei lwybrau?
Anchwiliadwy yw ei ffyrdd.


XXXVIII.
EMYN CENNADOL HEBER.

O FRYNIAU ia y Gogledd,
O draethau'r India fawr,
Lle treigla ffrydiau Affrig
Ar dywod aur i lawr;
O lanau hen afonydd,
O ddolydd palmwydd gwyrdd,
Ein galw maent i'w gwared
O goelgrefyddau fyrdd.


Er chwythu dros y gwledydd
Awelon per mor hael,
A phob golygfa'n hyfryd,
A dim ond dyn yn wael!
Yn ofer y tywelltir
Daioni Duw ar daen;
Mae'r ethnig yn addoli,
Mewn dellni, bren a maen.

A allwn ni, sy'n meddu
Goleuni oddi fry,
Nacäu rhoi llusern bywyd
I'r rhai mewn caddug sy
Iechineb O Iechineb!
Aed, aed y sain ar glyw,
Nes dysgo'r holl genedloedd
Adnabod gwir Fab Duw.

Ewch, wyntoedd, ewch â'r newydd,
Llifeiriwch, ddyfroedd mawr,
Nes megys môr gogoned
Y lledo dros y llawr;
Nes bo i'r Oen a laddwyd
I brynu dynol ryw,
Deyrnasu byth mewn gwynfyd
Yn Frenin ac yn Dduw.

XXXIX.
Y MESSIAH.

GWYRYFON Caersalem, dechreuwch ganiadau;
Tôn arddun a berthyn i nefol destunau:
Crisialaidd ffynnonau, gwasgodfawr gysgodion,
Breuddwyd gwag Pindus, a'r hen Awenyddion,
Ni foddiant hwy mwyach:fy awen dwyfola
Di yr hwn a gyffyrddaist â'th dân fant Esaiah.

Ar hynt ragfynegol y bardd a ddechreua:
Morwynig fydd feichiog, ar Fab yr esgora:
O wreiddyn myg lesse Blaguryn a gyfyd,
Gan lenwi yr awyr a'i chweg flodau hyfryd:
Yr Yspryd nefolaidd ei ddail a gyssegra,
A'r gyfrin Golomen i'w frig a ddisgyna.
Chwi Nefoedd! odd uchod y neithdar tywelltwch,
Mewn araf ddistawrwydd per gafod dyhidlwch.
Yr iachol Blanigyn i'r gweiniaid fydd gymhorth,
Rhag tymmestl yn gysgod, rhag gwres yn nawdd eorth.
Pob ystryw a balla, pob camwedd a dderfydd,
Cyfiawnder a ddyrcha ei fantol o newydd;
Tangnefedd a estyn ei wialen dros fydoedd;
Gwiriondeb mewn gwenwisg a ddisgyn o'r nefoedd.
Chwai hedwch, flynyddau! dwyrea, oleuni!
A gwawried, O Faban, foreuddydd dy eni!
Gwel, Anian a frysia i ddwyn ei chain blethau,
A Gwanwyn anadla ei holl beraroglau;
Gwel, mygdarth perlysiog o Saron a ddyrcha,
A breilw frig Carmel y nen a bereiddia;
Gwel Lebanon uchel ei ben yn cyfodi,

Gwel chwyfiog goedwigoedd ar fryniau'n corelwi.
Clywch! goslef hyfrydlawn drwy yr anial a dreiddia;
Arloeswch y briffordd Duw, Duw ymddangosa!
Duw, Duw! croch ateba y bryniau mewn syndod,
A'r creigiau gyhoeddant ddynesiad y Duwdod.
Enycha y ddaiar a'i derbyn o'r nefoedd;
Ymsoddwch, fynyddau; ymgodwch, ddyffrynoedd;
Ymblygwch, dal gedrwydd, a thelwch ufuddiant;
Ymlyfnwch, serth greigiau; ymagor, lifeiriant!
Yn d'od mae'r Iachawdwr, fel gwedai'r cynfeirddion:
Erglywch Ef, fyddariaid, a gwelwch Ef, ddeillion!
O'r pelydr golygol dilea'r pilenau;
Ar drem y diolwg tywallta ddydd goleu:
Byddarwch y clustiau yn llwyr tyna ymaith;
Diddana'r byddariaid â swynol nefol-iaith:
Per gana y mudion, y cloffion a rodiant,
Gan lamu fel iyrchod ar fronydd mewn nwyfiant:

Uchenaid na grwgnach ni chlywir drwy'r hollfyd;
Y dagrau a sychir oddi ar bob wynebpryd.
Mewn celltaidd gadwynau caiff Angeu ei rwymo,
A Theyrn erch y fagddu briw marwol gaiff deimlo.
Mal bugail da'n arwain ei waraidd lu cnuog
I awyr iachusaf, a dolydd meillionog,
Gan chwilio'r golledig, ac adfer a grwydro,
Y dydd eu golygu, a'r nos eu hamwylio;
Cyfodi'r wyn tyner i'w freichiau, eu maethu
A'i law yn ofalus, a'u gwresog fynwesu:
Efelly gofala EF am yr hil ddynol,

Ef, Tad addawedig yr oes fawr ddyfodol.
Un cleddyf dinystriol ni chyfyd un genel
Yn erbyn un arall; ni ddysgant mwy ryfel;
Y meusydd byth mwyach ni chuddir ag arfau,
Ac udgyrn ni chlywir yn galw catrodau;
Ond gyrir cleddyfau deufiniog yn sychau,
A gloewon waewffyn a droir yn bladuriau.
Dwyrea palasau; a'r hyn a ddechreua
Y rhiant byrhoedlog, y mab a'i gorphena;
Y genedl a eistedd dan gysgod ei gwinwydd,
A'r un llaw a hauodd, a feda y meusydd.
Y bugail, mewn syndod, a genfydd y lili,
A blodau amryliw, o'r crasdir yn codi;
Bydd uthr ganddo glywed mewn anial anghryno
Raiadrau newyddion o ddyfroedd yn ffrydio.
Ar greigiau uchel-gerth, gwrm drigfa y dreigiau,
Y chwyfa tirf lafrwyn a gwyrddion gorsenau:
Dyffrynoedd tywodog, lle gynt bu drain dyrys,
Addurnir à sybwydd a lluniaidd bren bocys;
Yn lle prysgwydd pigog ymgoda heirdd balmwydd,
A mangre mieri a lenwir â myrtwydd.
Yr ŵyn gyda bleiddiaid mewn doldir a borant,
A phlantos â llinyn dywalgwn arweiniant;
Yr ych a'r llew creulawn gyd-drigant heb ddychryn,
A'r sarff, yn ddiniwed, a lyf draed y crwydryn;
Y baban, gan wenu, i'w ddwylaw a gymmer
Y sarffen hirdorchog, a'r fanog golwiber;

A'u cefnau cragenog heb arswyd cyffyrdda,
A'u fforchog dafodau yn wirion chwareua.
Ymddyrcha, fel banon deg, Salem goronog!
Uchafa dy olwg, a chwyd dy ben tyrog!
Gwel genedl aneirif yn addurn i'th lysoedd;
A hilion nas ganwyd hwynt eto, yn lluoedd,
O bellder y ddaiar, o bob parth yn tyrru,
Yn erfyn am fywyd, am nefoedd yn crefu!
O flaen dy byrth ardderch gwel anwar dylwythau,
Yn rhodio'n dy lewych, yn plygu'n dy demlau;
Gwel, wrth dy allorau ymgryma breninoedd,
Gan arnat bentyrru Sabaeain oludoedd:
I ti per goedwigoedd Iduma a chwythant,
A chloddiau aur Ophir mewn gwrid a ddisgleiniant.
Gwel Nefoedd eu llydain byrth claer yn agori,
Ac arnat yn arllwys ter ddylif goleuni.
Yr haul y dydd mwyach ni bydd i ti'n llewych,
A'r nos ni thywyna y lloer yn yr entrych;
Ar goll yn dy belydr, hwynt-hwy oll a welwant,
Un fflam anghymylog, un ffrwd o ogoniant,
A leinw dy lysoedd;—Goleuni ei hunan,
Yn un dydd diddiwedd, a fydd i ti'n gyfran!
Hyspydda y moroedd, y nenoedd a fygant,
Chwilfriwir y creigiau, a'r bryniau a doddant;
Ond sicr yw ei eiriau, a'i allu achubol;
A theyrnas MESSIAH a bery'n dragwyddol.

XL.
DIWEDD BLWYDDYN.

'When all Thy mercies, O my God,
My rising soul surveys,
Transported with the view, I'm lost
In wonder, love, and praise.'
—Addison.


PAN yr ystyriwyf, O fy Nuw,
Mor ddirfawr yw'th drugaredd,

Llesmeirio'r wyf gan syndod maith,
Mewn parch, ac iaith clodforedd.

Pa fodd y gall fy ngeiriau gwael
Y diolch hael fynegi,
Sy'n llosgi yn fy nghalon i?
Ond yno Ti 'i darlleni.

Yn hyfryd ffyrdd Rhagluniaeth lwys,
Bob dydd fy mhwys cynnaliaist;
I'm henaid, mewn amrywiol ffyrdd,
Bendithion fyrdd cyfrenaist.

Trwy fy holl fywyd hyd yn awr,
Rhagorol fawr fu'th ddoniau;
Gwaredaist fi rhag gwae ac ing,
A mil o gyfingderau.

Cyfranu wnaethost, Nefol Dad,
Ddaioni rhad i'm henaid;
Un eisieu arnaf byth ni ddaw,
Tra yn dy law fendigaid.

Rho nerth a ffydd i deithio'r glyn,
Fel gallwyf yn y diwedd
Gael hardd ymddangos ger dy fron,
A derbyn coron sylwedd.

Ar fryniau hedd, i'th Enw glân
Dyrchafaf gân a moliant;
Rhy fyr fydd tragwyddoldeb oll
I draethu'th holl ogoniant.

XLI.
FE ANWYD INI GEIDWAD.

Ganwyd i chwi heddyw Geidwad yn ninas Dafydd, yr hwn yw Crist yr Arglwydd.'—Luc ii. 11.

CYFODWN, awn i Fethlem dref,
Fe anwyd ini Geidwad!
Cyhoeddi mae angylion nef,
'Fe anwyd ichwi Geidwad!'
Tywyllwch nos sy'n cilio,
A'r hyfryd wawr sy'n deffro,
A'r nefol lu sy'n bloeddio,

'Fe anwyd ichwi Geidwad!'
Daeth Mab y Tad i brynu'r byd,
Dyrchafwn newydd ganiad;
Awn, awn, ymgrymwn wrth ei gryd;
Fe anwyd ini Geidwad!

Os canodd ser y boreu glân
Pan roddwyd sail y cread;
Uwch, uwch o lawer boed ein cân,
Fe anwyd ini Geidwad:
Mae'n adeg gorfoleddu,
Goleuni sy'n tywynu,
Tangnefedd sy'n teyrnasu:
Fe anwyd ini Geidwad!
Daeth Mab y Tad i brynu'r byd,
Dyrchafwn newydd ganiad;
Awn, awn, ymgrymwn wrth ei gryd;
Fe anwyd ini Geidwad!

Eneiniog Ior yn dlawd a ddaeth,
Ac isel ei agweddiad;
A goddef dirmyg byd a wnaeth,
Er bod i ni yn Geidwad:

Ond dan y wisg o Ddyndod
A rodiai'r ddaiar isod,
Preswylio wnai y Duwdod!
Fe anwyd ini Geidwad!
Daeth Mab y Tad i brynu'r byd,
Dyrchafwn newydd ganiad;
Awn, awn, ymgrymwn wrth ei gryd;
Fe anwyd ini Geidwad!

Ein Brenin yw, addolwn Ef,
Ein Prophwyd a'n Hoffeiriad;
Efe yw'r ffordd i deyrnas nef,
Nid oes ond Ef yn Geidwad
Awn ato gyda'r Doethion,
Offrymwn iddo'r galon,
Ac ar ei Ben rhown goron:
Fe'i ganwyd ini'n Geidwad.
Daeth Mab y Tad i brynu'r byd,
Dyrchafwn newydd ganiad;
Awn, awn, ymgrymwn wrth ei gryd;
Fe anwyd ini Geidwad!

XLII.
CADWN WYL.

'Crist ein Pasc ni a aberthwyd drosom ni:am hyny cadwn ŵyl.'—1 Cor. v. 7, 8.

Bu farw Awdur bywyd!
Trengodd ar y Pren!
Rhoddwyd dan awdurdod Angeu
Wir Eneiniog nen!
Ond Ef yw'r Adgyfodiad,
Byw yw Brenin hedd!

Mathru wnaeth yr olaf elyn,
Trechodd Ef y bedd!
Cydganed lluoedd daiar,
Dydd gorfoledd yw!
Crist ein Pasc aberthwyd drosom,
Cadwn ŵyl i Dduw!

O fore gogoneddus!
O ddedwyddaf wawr!
Cododd Haul o'r pur uchelder
Ar drueiniaid llawr!
Diflannodd tew dywyllwch
Cysgod angeu prudd;
Ymwasgarodd y cymylau,
Daeth hyfrytaf ddydd!
Cydganed lluoedd daiar,
Dydd gorfoledd yw!
Crist ein Pasc aberthwyd drosom,
Cadwn ŵyl i Dduw!

Yn iach i Gethsemane,
A'r dwys ingoedd hyn!
Darfu dwyn y Groes arteithiol
I Golgotha fryn!
Ni wisg Ef ddrain yn goron,
Mwy ni oddef gur;
Darfu profi grym marwolaeth
Dan yr hoelion dur!
Cydganed lluoedd daiar,
Dydd gorfoledd yw!
Crist ein Pasc aberthwyd drosom,
Cadwn ŵyl i Dduw!

Daeth dydd yr oruchafiaeth,
Dydd rhyddhâd i ddyn,
Dydd yspeilio'r awdurdodau
Gan yr Iesu cun!

Anrheithiwyd Angeu creulawn,
A dirymwyd ef!
Byw yw'n Ceidwad! byth teyrnasa
Ar orseddfainc nef.
Cydganed lluoedd daiar,
Dydd gorfoledd yw!
Crist ein Pasc aberthwyd drosom,
Cadwn ŵyl i Dduw!

O taener y newyddion
A soniarus lef;
Ac adseinied mawl dynolion
Hyd eithafoedd nef!
Gorchfygu wnaeth y Cadarn,
Pwy ni chanai, pwy?
Cafodd gyflawn fuddugoliaeth;
Haleliwia mwy!
Cydganed lluoedd daiar,
Dydd gorfoledd yw!
Crist ein Pasc aberthwyd drosom,
Cadwn ŵyl i Dduw!

XLIII.
CYFODODD CRIST YR ARGLWYDD.

'Yr Arglwydd a gyfododd yn wir.'—Luc xxiv. 34.

CYFODODD Crist yr Arglwydd!
Y newydd rhown ar daen;
Chwilfriwodd rwymau'r beddrod,
Er sicred oedd y maen;
Gorchfygodd nerthoedd angeu
Ar fore'r trydydd dydd;
Ennillodd fuddugoliaeth,
A dug y caeth yn rhydd.


Cyfododd Ef cyfododd!
Gwyryfon Salem lân,
Eich dagrau sychwch ymaith,
Dyrchefwch lawen gân;
Er rhoi ei Gorff dan seliau
Mewn cadarn graig yng nghudd,
Cyfododd nid yw yno—
Fe ddaeth y trydydd dydd!

Cyfododd Ef! cyfododd
Er ein tragwyddol hedd;
Pa le mae'th golyn, Angeu,
A'th fuddugoliaeth, Fedd?
Caethgludodd Ef gaethiwed,
Dug ini roddion rhad;
A daeth i wawrio arnom
Oleuni'r nefol wlad.

Cyfododd Ef! cyfododd!
Er trengu ar y pren,
Pan grynodd seiliau'r ddaiar,
Pan dduodd haul y nen;
Nis gallai gallu'r beddrod
Ei attal Ef yn hwy,
A byth nid arglwyddiaetha
Marwolaeth arno mwy.

Cyfododd Ef! cyfododd!
Agorodd byrth y nen;
Esgynodd mewn mawrhydi
I'r llys tu fewn y llen;
Ar orsedd ei ogoniant
Teyrnasu mae yn awr;
Y nefoedd gorfoledded,
A llawenhäed y llawr.

XLIV.
MYFI A BECHAIS.

'Pechais, Arglwydd, pechais . . . . maddeu i mi,
O Arglwydd, maddeu i mi.'—Gweddi Manas.

MYFI, O Arglwydd, bechais,
Trugarog ydwyt Ti;
I ormod rhysedd rhedais,
O maddeu, maddeu i mi;
Dwg Di fy nhraed i ryddid,
I ryddid meibion Duw,
A chynnal fi A'th Yspryd,
A digon, digon yw.

Dy Enw ydyw Cariad,
Nid cariad ond Tydi,
Dy Briod Fab traddodaist
O gariad drosom ni;
Maddeuant i bechadur
Gan neb ond Ti nid oes;
Dilea fy nghamweddau,
Er mwyn haeddiannau'r Groes.
J.H.S.E.


'XLV.
YR ESGYNIAD.

O'r bedd i'r lan y Cadarn ddaeth,
Ac esgyn i'r uchelder wnaeth;
Ac yno, ar Ddeheulaw Duw,
Yn eiriol mae dros ddynol ryw.


Ymddangos mae ger bron y Tad;
Daw mwy i ddynion roddion rhad;
Rhoed pob awdurdod iddo Ef
Trwy holl eithafoedd nef y nef.

XLVI.
MOLIANNEB.

CLODFORWCH Dduw'r bendithion drud,
Trigolion daiar faith i gyd;
Llu'r nef, moliennwch Ef ar gân,
Y Tad, y Mab, a'r Yspryd Glân.


NODIADAU.

RHIF III. 9.—Pelig = Pelican.

Glynodd fy esgyrn wrth fy nghroen,
Gan faint fy mhoen a'm tuchan:
Fel un o'r anialwch, lle trig
Y pelig, neu'r dylluan.
—Edmund Prys: Salm cii 5, 6


Ysgrifenwyd y pennillion hyn gyda chyfeiriad at un o'r Arwyddluniau o waith Boetius à Bolswert, megys y ceir ef yn y Baptistery, gan y diweddar Barchedig Isaac Williams, B.D.

Y mae yn hen chwedl yn y byd, ond chwedl ddisail ydyw, fod y Pelig, neu y Pelican, pan frather ei chywion gan sarff, yn agor ei bron, ac yn iachäu y rhai bychain â'i gwaed ei hun, ac yna yn marw; neu, yn ol ereill, ei bod yn porthi ei chywion â'i gwaed, ac felly yn trengu er eu cadw hwynt yn fyw. Y mae y cymhwysiad o'r chwedl neu y cysgodlun at ein Iachawdwr, yr Hwn a dywalltodd ei werthfawrocaf Waed dros ddyn, yn naturiol ddigon, ac nid yw heb ei ddefnyddio gan rai o'r prydyddion. Nid yw y pennill dan ystyriaeth ond alleiriad o linellau un o feirdd y bymthegfed ganrif:

Y pelican digwynfan gâr
Bod ei waed bwyd i'w adar:
Yn yr un modd, er ein mwyn,
Bu farw Mab y Forwyn.


Cyffelybiaeth hoff iawn gan y Parchedig Rhys Prichard ydoedd hon; ac y mae yn ei defnyddio fwy nag unwaith yng Nghanwyll y Cymry.

Crist yw'r pelican cariadus,
Sydd â gwaed ei galon glwyfus
Yn iachau ei adar bychain,
Gwedi'r sarff eu lladd yn gelain.

Crist yw'r pelican trugarog,
Sydd â gwaed ei galon serchog
Yn iachau ei frodyr priod,
Gwedi'r diawl eu lladd â phechod.
— Cân viii 33, 34
Fel pelican cariadus
Tuag at ei adar clwyfus,
Fe rodd waed ei galon bur
I helpu ei frodyr 'nafus.
—cxlix. 25.

Gwaed y pelican sy'n helpu
Ei adar gwedi'r sarff eu brathu:
Gwaed yr Oen all gadw'r Cristion
Gwedi i bechod frathu ei galon.
—cl. 87.


Credid y chwedl hon, er mor amddifad o wirionedd ydyw, yn gyffredin yn nyddiau yr hybarch Ficer. Geilw y prydydd Italig Dante (a fu farw yn 1321) ein Iachawdwr, nostro Pelicano, ein Pelican ni.

XVII. A XVIII. Trowyd y ddwy ganiad hyn flynyddoedd yn ol o'r Seisoneg, ar gais offeiriad o esgobaeth Llandaf, yn awr un o urddasogion yr Eglwys yn esgobaeth Tŷ Ddewi. XIX. Pe boddlonid ar gymmeryd yr hanes Ysgrythyrol yn ei hystyr syml ac eglur, ni byddai nemawr o wahaniaeth barn am dynged Merch Iephthah.

XXII.—Camargraff yw 'Cân Blygain' yn lle 'Cân Bylgain'. Pylgain neu pylgaint (o'r Lladin pulli cantus =gallicantus, sef caniad y ceiliog) yw y ffurf hynaf a chywiraf, a'r dull arferedig ar lafar gwlad y pryd hwn yn y rhan fwyaf o Ddeheubarth. Ceir y ddwy ffurf yng Ngeiriadur y Dr. Davies, ond i pylgain y rhoddir y flaenoriaeth. Y mae plygaint a plygain hefyd yn hen ddulliau; a cheir y blaenaf ('plegeint') yn Llyfr Ancr, a ysgrifenwyd yn y flwyddyn 1346. Plygain hefyd a geir yn yr argraffiad cyntaf o'r Llyfr Gweddi Gyffredin (1567), a'r holl argraffiadau o hyny hyd heddyw. Y ffurf yn y Llyfr Du o Gaerfyrddin (un o'r llawysgifau Cymreig hynaf) ydyw pilgeint.

Ni cheuntoste pader na philgeint na gosper.

—Llyfr Du Caerfyrddin.

O dechreu nos hyt deweint
Duhunaf wylaf bylgeint.
—Llyfr Coch Hergest.

Ac yn hynny eissoes kynn hanner nos kyscu a wnaeth pawp o honunt. a thu ar pylgein deffroi. —Mabinogion.

Yna y boredyd wedy ryuot y brawt yn glutwediaw y drindawt wedy plegeint y brodyr yny vu dyd.—Cyssegrlan Fuchedd (Llyfr Ancr).

Yna y boreudhydh wety bot y brawt yn glut wedhiaw y drintawt wedy pylgain y brodur yny vu dhydh.—Ymborth yr Enaid (Ysgriflyfr Hengwrt).

Kein awen gan auel bylgeint.
Pylgeineu radeu am rodir.
—Cynddelw.

Pylgain y darllain deir-llith.
—Dafydd ab Gwilym.


Annes a oedd yn y saint,
Wawr ymbilgar, am bylgaint.
—L. G. Cothi.

Yr achos fod y gân hon, a mwy nag un o rai ereill perthynol i'r Nadolig a'r Pasc, ar fesurau lled anghyffredin, ydyw, eu bod wedi eu cyfansoddi ar gyfer tonau neillduol, arferedig gan y cantorion.

XXX. 1. —Gwrm= tywyll, dulwyd, anoleu.
" 9. —Nan= yn awr, yr awr hon; weithian.

Dealler mai math ar ddammeg yw y gerdd Almaenig hon; a'r addysg yw, mai trwy lafur a diwydrwydd yn nhrefn gyffredin bywyd y mae cyrhaedd cyfoeth, ac nid trwy ymgystlynu â 'thywysog llywodraeth yr awyr.'



W. JONES, ARGRAFFYDD, ABERYSTWYTH.

Nodiadau[golygu]

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.