Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/103

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn Ysbaid Urddawl Ben," a'r tymor neu'r ysbaid y buont yn Iwerddon yn "Ysbaid Branwen a Matholwch."

Eithr awyddai Heilyn fab Gwyn am agor y drws a wynebai Gernyw, y drws y gorchmynnwyd hwy i beidio â'i agor os oeddynt am barhau'r tymor dedwydd. Aeth ato ac agorodd ef ac edrych ar Gernyw ac ar Aber Helen. A phan edrychasant drwy'r drws, medd yr hanes, daeth i'w cof bob colled a gollasant erioed, a phob câr a chydymdaith a gollasant, a phob drwg a ddaeth iddynt, a phob bai a gyfarfuasai â hwynt, ac yn bennaf am helynt Bendigaid Fran eu harglwydd.

Dyma'r hen hanes o hyd, onide? Yr ydych yn gyfarwydd â stori'r Iddew am y nefoedd a leolodd ef yng Ngardd Eden. Awydd dyn am fwy nag a oedd ganddo a ddinistriodd honno. A dyna, ebe'r hen