Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/104

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gymry, a ddinistriodd eu nefoedd hwythau. Anfodlonrwydd dyn ar ei gyflwr sy'n dinistrio ei holl ddedwyddwch. Ac eto dyna'r ffordd yr ymleda eich byd, ac y tyfwch, ac y cewch nefoedd fwy yn y diwedd, mwy cydnaws â'ch natur,—y nefoedd o chwilio am bethau allan o'ch cyrraedd. Peidiwch â beio gormod ar Adda yr hen Iddewon a Heilyn yr hen Gymry.

Bu raid cychwyn am Lundain ar eu hunion wedyn. Wedi cyrraedd yno claddasant y pen yn y Gwynfryn. Ac ni ddeuai gormes byth, ebe'r hanes, drwy fôr i'r ynys hon tra fyddai'r pen hwnnw yng nghudd.

Hanes prudd yw hanes Branwen. Ymdrech yr hen Gymry mewn cyfnod tywyll iawn ar eu hanes ydyw i geisio