Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/105

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

esbonio peth o ddirgelwch bywyd. A ffordd yr hen fyd o egluro'i feddwl oedd drwy chwedlau. Beth bynnag arall feddylient yn y stori, drwy gymysgu hanes eu hen dduwiau,-Bendigaid Fran, duw gwlad y tywyllwch, a noddwr cerddorion; Manawyddan, duw gwlad y goleuni, a meistr y crefftau; Branwen, duwies cariad a phryd- ferthwch; Efnisien, duw casineb a llid; a llawer o fân dduwiau eraill, dysgasant hyn, fod casineb ymhob oes yn gwahanu a dinistrio, ac mai mewn cariad y mae'r unig obaith am gyfannu a gwynfydu'r byd.