Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a dyna ddyfod yn union o hyd i garreg wastad arall wedi ei gosod ar ei chyllell, ac un arall wedi ei gosod yn ei herbyn, ac un arall yn erbyn honno nes ffurfio tair ochr i sgwâr, fel hyn,—

"Dyma'r aelwyd a'r grât," ebe'r cyfaill. "Ac y mae'n debygol mai o flaen y lle agored yr eisteddent i dwymno." Rhwng y cerryg hyn gorweddai nifer o gerryg crynion cymaint â dwrn, ac wedi torri un gwelid ei bod yn ddu yn ei chanol.

"Dyma'r cerryg berwi," ebe'r cyfaill.

"Beth yw'r rheiny?" ebe finnau.