Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ac aeth ymlaen i esbonio. "Yr oedd y Cymry hyn a drigai yma," eb ef, "yn dechreu dyfod yn ddigon gwareiddiedig i beidio â bwyta cig byw, ond berwent ef yn gyntaf. Eithr sut i'w ferwi â hwythau heb lestri ond llestri pridd? Ni ellid rhoddi y rhai hynny ar y tân. Eu cynllun oedd gosod y cig mewn llestr pridd, a dwfr arno wedyn. Cuddient ben y tân â'r cerryg crynion hyn, a gadawent hwy yno nes mynd ohonynt yn eiriasboeth. Yna taflent hwy i'r dwfr bob yn un, a dechreuai hwnnw ferwi, a daliai i ferwi fel y dalient hwy i daflu'r cerryg iddo nes i'r cig fod yn barod i'w fwyta."

Codwyd y cerryg crynion ac odditanynt yr oedd y pridd yn hollol ddu, arwydd sicr mai lludw coed wedi cymysgu â'r pridd yn ystod y canrifoedd ydoedd. Dyma ni wrth le tân yr hen Gymry felly, ac wedi dyfod o hyd i amryw o'u