Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ar y digwyddiad, ac awgrymodd fod Bendigaid Fran a Branwen a phawb yn y cynllun o ddinistrio'r ceffylau.

"Arglwydd," ebe hwn wrth Fatholwch, "dy waradwyddo di a wnaethpwyd, a hynny yw eu hamcan."

"Yn sicr ddigon," ebe Matholwch, "rhyfedd yw gennyf, os fy ngwaradwyddo a fynnent, iddynt roddi i mi'n wraig forwyn o deulu mor uchel a chyn anwyled gan ei chenedl ag a roddasant i mi."

"Arglwydd," eb un arall o'i wŷr, "y mae'n hollol glir mai hyn yw eu hamcan, ac nid oes dim iti i'w wneuthur ond cyrchu dy longau."

Credodd Matholwch stori ei wŷr heb ymholi dim ymhellach. Fel arall y gallasech ddisgwyl i ddyn teg wneuthur. A gorchymyn ei longau a wnaeth, i fynd adref.