Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/57

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yr iawn a dalwyd.

ACHOSODD hyn gynnwrf mawr yn llys Bendigaid Fran. Daeth y newydd iddo fod Matholwch yn gadael y llys yn hollol ddirybudd, a heb ofyn am ganiatad. Yr oedd Bendigaid Fran wedi ei syfrdanu. Anfonodd ar ei union genhadau i ofyn iddo paham yr oedd yn gwneuthur hynny. Enwau'r cenhadau oedd Iddig fab Anarawc ac Efeydd Hir. Daethant o hyd iddo yn y man, a gofynasant iddo beth oedd ei amcan yn gwneuthur hyn, ac am ba achos yr oedd yn mynd ymaith mor sydyn.

"Yn wir," ebe Matholwch, "pe gwypwn cyn cychwyn oddicartref beth a ddigwyddai ni ddeuwn yma. Cwbl