Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

waradwydd a gefais,—ni chafodd neb daith waeth na'r un a gefais i. A rhyfeddod i mi yw un digwyddiad."

"Beth yw hynny?" ebe hwynt.

"Roddi Branwen ferch Llŷr, trydedd prif riain yr ynys hon, ac yn ferch i frenin Ynys y Cedyrn, yn wraig i mi, ac wedi hynny fy ngwaradwyddo. A rhyfedd oedd. gennyf nad cyn rhoddi morwyn cystal â honno i mi y gwneid y gwaradwydd a wnaed â mi."

Dyna oedd syndod Matholwch, os oeddynt am ei waradwyddo, beth oedd eu hamcan yn rhoddi un mor annwyl â Branwen yn wraig iddo yn gyntaf. Paham na buasent yn ei waradwyddo cyn ei rhoddi hi yn wraig iddo, buasai rhyw reswm yn hynny. Canys parai eu gwaith yn ei waradwyddo ef boen iddi hithau.