Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ag ef ei hun, a chlawr aur cyfled â'i wyneb. A mynegwch iddo pa ryw ŵr a wnaeth hynny, ac mai o'm hanfodd innau y gwnaethpwyd hynny, ac mai brawd unfam â mi a wnaeth hynny. Ac nad hawdd gennyf innau na'i ladd na'i ddifetha. Deued Matholwch i ymweled â mi, ac mi a wnaf gytundeb tangnefedd rhyngof i ag ef yn y modd y dymuna ef."

Aeth y tri chennad ar ôl Matholwch. Gadawyd Iddig fab Anarawc ar ôl am ryw reswm neu'i gilydd. Mynegasant i Fatholwch mor garedig ag y medrent yr hyn a ddywedodd Bendigaid Fran, a gwrandawodd yntau arnynt.

Galwodd Matholwch ei wŷr ynghyd ac ymgynghorodd â hwy. Meddyliasant rhyngddynt â'i gilydd pe gwrthodent y telerau, bod yn debycach iddynt gael