Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/62

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mwy o gywilydd fyth na chael cymaint iawn ag a gynhygid. Penderfynasant dderbyn y telerau, a daethant yn ôl yn dangnefeddus i lys Bendigaid Fran.

Wedi trefnu popeth yn briodol aethant i fwyta. A dechreuodd Matholwch a Fran ymddiddan. Sylwodd Bendigaid Fran mai mewn modd trist ac araf yr ymddiddanai Matholwch, ac nid yn llawen fel o'r blaen. A meddyliodd mai trist ydoedd am fod swm yr iawn a gynhygid iddo yn rhy fach yn ei olwg.

"Nid wyt cystal ymddiddanwr heno ag arfer," ebe Bran wrtho. "Os rhy fach yw'r iawn, ti a gei ychwaneg ato, fel y mynni dy hun. A thalaf yn ôl yfory iti dy feirch."

"Arglwydd, Duw a dalo iti," ebe Matholwch.