Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/70

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Cymerais arnaf y cyfrifoldeb o'u cadw," ebe Matholwch, "a buont flwyddyn gyda mi, ac o fewn y flwyddyn cefais hwynt yn ddiwarafun. O hynny allan y gwarafunwyd hwynt i mi. A chyn pen y pedwerydd mis hwynt eu hunain a barodd eu cashau yn y wlad am eu drygau, —blino'n enbyd y gwyrda a'r gwragedd da O hynny allan cynhullodd fy mhobl i erchi i mi ymadael â hwy, a rhoddi dewis i mi rhwng fy nheyrnas a hwy. Dodais innau ar gyngor fy ngwlad beth a wnelid yn eu cylch. Nid aent o'u bodd ac ni ellid eu eu gyrru o'u hanfodd trwy ryfel. Ac yn y cyfyng gyngor hwnnw y dechreuasant wneuthur ystafell haearn oll. Ac wedi i'r ystafell fod yn barod cyrchu pob gof yn Iwerddon yno a oedd yn berchen gefail a morthwyl, a pheri gosod glo cyfuwch â chrib yr ystafell, a pheri rhoddi'n ddiwall fwyd a llyn i'r wraig a'i gŵr a'i