Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/71

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

phlant. A phan wybuwyd eu meddwl hwynt y dechreuwyd cymysgu'r tân a'r glo am ben yr ystafell a chwythu'r meginau, nes bod y tŷ yn wyn am eu pen. Ac yna y bu cyngor ganddynt ar ganol llawr yr ystafell, ac arhosodd ef nes bod haearn y muriau'n wyn. Ac o herwydd y gwres dirfawr y disgynnodd yr ochr ar ei ysgwydd a'i daro allan, ac ar ei ôl yntau ei wraig, a neb ni ddihangodd oddiyno ond ef ei hun a'i wraig. Ac yno mi debygaf, arglwydd," ebe Matholwch wrth Fendigaid Fran, " y daeth ef drosodd atat ti."

"Yna'n ddiau," eb yntau, "y daeth yma ac a roddes y pair i minnau."

"Pa fodd, arglwydd, y derbyniaist ti hwynt hwy?" ebe Matholwch.

"Eu rhannu hwy a'u teulu ymhob lle yn fy nheyrnas, ac y maent yn lluosog,