Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/74

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

beunydd. Ganed mab bach iddi, ac enwodd ef yn Gwern fab Matholwch. A rhoddwyd Gwern i'w fagu yn y lle goreu yn Iwerddon.

Yn yr ail flwyddyn o'i bywyd yn Iwerddon, dechreuodd rhywun ail godi helynt ynghylch yr hen waradwydd a gawsai Matholwch yng Nghymru pan wnaeth Efnisien y fath ddirmyg ar ei feirch. A llwyddwyd i ennyn llid ei berthynasau yn ei erbyn, fel na chai Matholwch lonydd ganddynt, nes caniatau iddynt ddial am y sarhad a roddwyd arno, er bod popeth wedi ei dawelu unwaith. Y mae'n rhaid bod Matholwch ei hun braidd yn feddal i ildio fel hyn i bawb. A'r dial a wnaethant oedd gyrru Branwen oddiwrtho, a'i gorfodi i bobi yn y llys, a pheri i'r cigydd, wedi iddo fod yn torri'r cig, ddyfod a rhoddi bonclust iddi beunydd. Ac felly y gwnaethpwyd ei phoen. Aethant ymhellach na hynny,—