Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/75

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Ie, arglwydd," ebe gwŷr Matholwch wrtho, "pâr weithian wahodd y llongau a'r ysgraffau, a'r corigau, fel nad êl neb i Gymru; a'r sawl a ddêl yma o Gymru, carchara hwynt, fel nad elont drachefn, rhag i bobl Cymru wybod hyn."

Ac felly y bu pethau am dair blynedd. Ond tarawodd Branwen ar gynllun i anfon gwybodaeth am y driniaeth a gawsai, i'w brawd Bendigaid Fran. Hawdd yw credu bod un fel hi yn annwyl iawn hyd yn oed gan adar. Beth mwy cymwys nag aderyn i gario negesau dros dduwies cariad a phrydferthwch? Magodd aderyn drudwen neu aderyn yr eira fel y gelwir ef gan rai ohonoch. Safai'r aderyn ar ymyl y noe—y badell bobi—i'w gwylio'n pobi, a dysgodd Branwen iaith iddo. Mynegodd i'r aderyn pa fath ar ŵr oedd ei brawd, ac ysgrifennodd lythyr am y poeni a'r amherchi oedd