Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/97

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dywedais ddarfod i waywffon wenwyno Bendigaid Fran, a gorchmynnodd yntau i'r seithwyr a ddihangodd dorri ei ben, a'i gymryd i'r Gwynfryn yn Llundain, a'i gladdu yno â'i wyneb at Ffrainc. Dywedodd wrthynt y byddent ar y ffordd yn hir, y byddent yn Harlech ar ginio am saith mlynedd, ac adar Rhiannon yn canu iddynt. Dyna nefoedd yr hen Gymry, byd o fwyta a gwrando canu. Hysbysodd hwynt y byddai cymdeithas ei ben ef gystal iddynt ag y bu erioed ganddynt pan oedd ar ei gorff ef. Ac wedi gorffen yn Harlech, y byddent yng Ngwalas ym Mhenfro am bedwar ugain mlynedd, ac yr arhosai'r pen heb lygru nes agor ohonynt y drws a wynebai Aber Helen tua Chernyw. O'r adeg yr agorent y drws hwnnw ni allent fod yno, y pydrai'r pen, ac y byddai raid brysio i Lundain i'w gladdu.