Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/98

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Wedi clywed hyn torasant ben Bendigaid Fran, a chychwyn tuag adref, â'r pen gyda hwy, a Branwen yn dilyn. Daethant i dir yn Ynys Fôn, yn Aber Alaw yn Nhal Ebolion, ac eisteddasant i orffwys. Edrychodd Branwen ar Iwerddon ac ar yr ynys hon,—Ynys y Cedyrn,— hynny a welai ohonynt. "O! fab Duw," ebe hi, "gwae fi o'm genedigaeth. Dwy ynys a ddifethwyd o'm hachos i."

Rhoddodd ochenaid fawr a thorri ei chalon ar hynny. A gwnaethant fedd ysgwâr iddi, a'i chladdu ar lan afon Alaw.

Dyna ddiwedd Branwen wedi oes o ddioddef, a phob ymdrech o'i heiddo i ddwyn pobl yn nes i'w gilydd yn cael ei difetha gan Efnisien, y gŵr a ymhyfrydai mewn gwahanu.