Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gethwr rhagorol. Yn Nghyfarfod Misol Pontsaeson, ychydig cyn ei farwolaeth, pregethodd gydag eneiniad amlwg ar 1 Cor. iii. 12— 15. Ni chafodd ond cystudd byr, a chollwyd ef o ganol cylch o ddefnyddioldeb eang, ar Sadwrn Ebrill 25ain, 1874, yn yr oedran cynar o 58ain. Claddwyd ef yn mynwent Henfynyw, yn nghanol galar anarferol.

Mae ei hanes yn Liverpool yn un hynod. Clerc mewn siop fferyllydd fu am ryw gymaint o amser. A phan yno, daeth offeiriad i'w gymell i droi i'r Eglwys. Dywedodd fod yn rhaid iddo yn gyntaf gael siarad â'i deulu. Wedi rhoddi y cynyg o flaen Mrs. Green, dywedodd ei bod yn dlawd iawn arnynt yn awr, a'i bod yn brofedigaeth iddynt i droi. "Nid wyf yn meddwl y gallaf feddwl myned yn offeiriad," meddai yntau. "O! gwnewch chwi fel y mynoch," meddai Mrs Green, "peidiwch gwneyd dim yn groes i'ch cydwybod; daw yn well na hyn arnom eto." Daeth yr offeiriad drachefn i ofyn beth oedd ei benderfyniad. "Pe byddwn yn dyfod i'r Eglwys," meddai, "gan feddwl cael myned yn offeiriad, ni chawn ond bod yn Scripture Reader am flynyddoedd." "Na, cewch eich ordeinio ar unwaith." 'Ië, i fod yn gurad," meddai Mr. Green. "O! na, bydd Eglwys yn barod i chwi ar unwaith." "Diolch i chwi am y cynyg da, ond nis gallaf feddwl am adael Hen Gorff y Methodistiaid." Daeth yr helynt yn wybyddus, a dygwyd ef yn fwy i fynwes yr eglwys yn hen gapel Pall Mall. Gwnaed ef yn flaenor. Ac ar ei etholiad, dywedodd y Parch. Henry Rees, "Nid oes eisiau dweyd pwy o lawer a etholwyd; nid oes ond un wedi ei enwi gan bawb, a hwnw yw Mr. Green. Gwnaethoch yn dda ei godi i fod yn flaenor, ond rhaid i ni ei godi i'r man lle y bu; yno y mae ei le ef." Cymhellwyd llawer arno i bregethu cyn iddo addaw, am na fynai cyn talu ei ddyledion yn gyntaf. Cafodd y Parch. John Foulkes le iddo a chyflog da mewn Gas Works, ac felly talodd ei ddyled, a chymerodd ei le yn y pulpud fel o'r blaen.