Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/69

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

H

PARCH. EDWARD HUGHES, ABERYSTWYTH.

Adnabyddid ef dan yr enw Edward Hughes, Penygarn, pan ddechreuodd bregethu gyntaf yn y sir hon, ac yn yr un gymydogaeth hefyd y dygwyd ef i fyny; sef yn Pantydwn. Symudodd i Llanidloes yn ieuanc; yno yr oedd pan ddechreuodd bregethu, a'r lle yr oedd pan ordeiniwyd ef yn y Bala, yn 1838. Daeth i fyw i Aberystwyth yn 1845, lle y bu hyd ei farwolaeth, Medi 17eg, 1880, yn 95ain oed. Bu yn cadw ysgol yn Carno, ac yn ardal Penygarn; ac yr oedd ymddangosiad dyn yn dysgu eraill arno ar hyd ei oes faith. Yr oedd bob amser yn lanwaidd ei gorff, ac yn hardd ei wisg. Pen ac wynebpryd crwn a glandeg, llygaid gleision, ac yn tueddu at fod yn fyr o gorffolaeth. Ni adawai flew yn unlle ar ei wyneb, gan mor hoff ydoedd o ymlanhau a phuro ei hun: ac nis gellid meddwl fod budreddi ac annhrefn yn yr un byd ag ef.

Yr oedd yn un o wybodaeth eang, a meddai farn oleuedig ar brif bynciau duwinyddiaeth, a symudiadau cymdeithasol. Meddai ar synwyr cyffredin cryf, ac yr oedd hyny i weled yn nghyfansoddiad ei bregethau, a'u cymhwysiad at y gwrandawyr. Nid oedd yn boblogaidd fel pregethwr; ond pe buasai trwy ei oes yn pregethu mor effeithiol ag y clywsom ef lawer gwaith yn niwygiad, ac ar ol diwygiad 1859, nis gallasai lai na bod yn boblogaidd. Barn pawb am dano oedd, pe buasai yn gneyd defnydd o'i allu meddwl i astudio, a phe gwnelai ddefnydd o'r llais a glywyd yn ac ar ol y diwygiad a nodwyd, y gallasai fod yn llawer mwy enwog fel pregethwr. Pa fodd bynag, yr oedd ei bregethau bob amser yn sylweddol, ac yn meddu ar amcan da. Buom ar daith gydag ef trwy Fon ac Arfon pan nad oeddym ond ieuanc, ac ni allem lai na'i fawrygu byth wedi hyny, er fod rhai yn ei fygwth arnom fel dyn eithafol o fanwl a threfnus. Dyma engraifft o hono fel cyfansoddwr pregethau :-Esaiah lii. 13: "I. SYLWAF AR GRIST FEL GWAS. 1. Mae yr enw gwas yn dangos fod cytundeb neu gyfamod wedi ei wneyd :