Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/94

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sydd yma i werthfawrogi Cyfryngwr, a rhoddi ufudd-dod parod i'r Arglwydd." Dywedodd yn ddylanwadol iawn am benderfyniad y bobl ar ben Carmel. Fel hyn, yr oedd ei bregethau bob amser yn drefnus ac eglur, yn nodedig o Ysgrythyrol, ac yn amlwg eu hamcan i leshau y gwrandawyr. Nid allai neb feddwl ei fod yn amcanu at gynhyrfu teimlad, ond yr oedd yn amlwg i bawb ei fod am wneyd ei oreu o'r gwirionedd, a thros y gwirionedd.

Un araf oedd Mr. Jones—araf cyn siarad ac yn siarad: ond fel yn y bregeth, yr oedd ei siarad yn bwysig, heb un gair segur, ond yr oll i'r pwrpas. Ni ddywedai fawr yn nghynadleddau Cyfarfod Misol na Chymanfa, yn fwy nag yn y tai. Yr oedd hyn yn rhyfedd pan feddylid ei fod yn siarad mor dda ar bob pwnc gan gymhellid ef i wneyd. Un araf yn cerdded ar hyd y ffyrdd a'r llwybrau; ond yr oedd pawb yn gweled mai tywysog a golwg dywysogaidd arno ydoedd; un araf yn marchogaeth i'r daith erbyn y Sabbath ydoedd; treuliai bron gymaint arall at hyny ag a wnelai llawer o rai eraill. Yr oedd yn arafaidd a phwyllog; ond os oedd fel yr elephant yn hyny, yr oedd hefyd fel elephant mewn cryfder a sicrwydd i gyrhaeddyd ei nod. Yr oedd hefyd yn bur, dirodres, a didwyll. Dywedodd un o'r gweinidogion ddydd ei gladdedigaeth fod y geiriau hyny yn dyfod i'w gof yn fynych pan welai Mr. Jones, "Wele Israeliad yn wir, yn yr hwn nid oes dwyll." Nid oedd a fynai â gweniaith a rhagrith, a ffiaidd oedd ganddo yr absenwr. Fel hyn y daeth i fod mor uchel ei barch gyda phawb. Pe buasai dynion sydd yn derbyn pregethwyr i'w tai yn awyddus am gael siaradwyr difyrus, ac adroddwyr chwedlau hynod i ddyfod atynt, ni chawsai Mr. Jones, Llanbedr, dŷ i'w groesawu. Ond trwy drugaredd, yr oedd digon o ddynion i'w cael fyddai yn ei dderbyn fel "Gwr Duw," a rhoddi "phiolaid o ddwfr iddo yn enw disgybl." A dynion fel hyny eto, ni gredwn, sydd yn ein derbyn ninau i'w tai. Claddwyd ef yn mynwent Eglwys Llanbedr.