Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/95

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PARCH. JENKIN JONES, LLANON.

Yr oedd ef yn frodor o'r lle uchod, ac heb fod yn byw allan o hono fawr yn ei oes. Ganwyd ef, ddydd Calan, 1814, mewn tŷ ac ychydig dir gydag ef, o'r enw Maesllyn, yn y pentref. Enwau ei rieni oeddynt David a Mary Jones. Cafodd lawer o ysgol o'r fath ag oedd y pryd hwnw, ond nid ysgolion o radd uchel. Cafodd ddigon i fod yn fasnachwr, ac yr oedd hyny yn gryn lawer y pryd hwnw. Bu yn cadw shop yn gyntaf yn y Swan—tŷ oedd wedi bod yn dafarndy. Wedi hyny, symudodd i Shop Ontario—tŷ a elwid felly yn ol enw y llong yr oedd ei berchenog yn gadben arni. Enw ei wraig oedd Miss Mary Ashton, yr hon a fu yn yr Alltlwyd, Llanon. Un o Trefeglwys, Trafaldwyn, ydoedd, lle y mae eto lawer o'r tylwyth. Yr oedd Mr. Jones yn ddyn ieuanc llafurus gyda'r achos yn Llanon, ac yn weddïwr rhagorol o'i ieuenctid. Yr oedd ganddo dalent ragorol i ymadroddi yn rhydd a hyfryd. Meddyliwyd gan lawer mai pregethu oedd y gwaith oedd wedi ei amcanu iddo; ac wedi i rai o'r brodyr awgrymu hyny iddo, dywedodd fod hyny wedi bod yn ddwys ar ei feddwl lawer gwaith.

Dechreuodd bregethu tua diwedd 1835, pan oedd yn agos i 22ain oed. Cafodd dderbyniad rhwydd i'r weinidogaeth, gan fod y rhan fwyaf yn ei weled yn ddyn ieuanc mor addawol. Ond os felly cyn iddo ddechreu, cafodd pawb feddwl mwy o hono wedi dechreu. Yr oedd ei bethau mor llawn o'r efengyl, ac yn amcanu at lesoli ei gydddynion, ei draddodiad mor naturiol a'r afon yn ei rhedfa-pob gair yn ei le, a phob brawddeg yn llawn ac yn brydferth, a'i lais yn swynol a phoblogaidd. Daeth galw mawr am dano, ac ymdrechodd yntau ateb i'r galw tra y gallodd. Ond pan yn anterth ei nerth, daeth atalfa bur ddisymwth ar ei lais; ac er pob ymdrech i'w wella, bu y cwbl yn aflwyddianus, fel y gorfu arno roddi fyny bregethu bron yn llwyr am oddeutu saith mlynedd. Dywedai rhai mai rhoddi gormod ar ei lais a wnaeth am y blynyddoedd cyntaf o'i bregethu, fod ei lais mor beraidd, a digon o hono y pryd hwnw, ac yntau yn gwresogi gyda'i bethau wrth weled y gynulleidfa yn