Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/147

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bod nid yn unig yn adfywiad i'w hiaith, ond hefyd yn fantais feddyliol a masnachol i'w meibion. Pan ddywedwyd wrthynt fod y Fflemeg yn marw, brysio i ymofyn am feddyginiaeth iddi a ddarfu iddynt hwy, ac nid canu cnul a chloddio bedd iddi. Pan gredasant ei bod yn glaf ac mewn enbydrwydd y teimlasant ac y dangosasant faint eu serch tuag ati. Wrth ei chlaf—wely y gwybuasant fod eu hoedl hwy ynglŷn wrth ei hoedl hithau, ac am hynny llefasant, Bydded byw y Fflemeg fel y byddo byw y Fflem— iaid!" Ai er y pryd hwnnw, fy nhad, y mae hen glychau Antwerp yn canu mor llon?

Yr wyf yn gobeithio, er mwyn yr hyn sydd hen a rhagorol, y bydd i ymgais boeth Seisgarwyr i orffen y Gymraeg gynhyrchu teimlad cryfach nag erioed o'i phlaid. Yn wir, yr ydys eisoes yn gweled arwyddion mai effaith holl ddadleuon Achoswyr Saesneg fydd llwyr argyhoeddi corff y genedl mai addysgu'r Gymraeg yn yr ysgolion beunyddiol, a hynny ar draul y wladwriaeth, ydyw'r feddyginiaeth fawr rhag unieithogrwydd, gorthrwm casglyddol, drwg-effeithiau'r Achosion Saesneg,' a dinistr cenhedlig. Pe bawn i'n Gymro, hyn a bregethwn yn barhaus: Rhodder cyfleustra i blant deg a thair sir Cymru i ddysgu iaith odidog eu tadau; os esgeulusa rhywrai'r cyfleustra hwnnw, boed iddynt ddarbod