Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/148

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

trostynt eu hunain, ac nid myned ar ofyn cynull— eidfaoedd Cymraeg am arian i godi capelau Saesneg, ac i gynnal bugeiliaid Saesneg. A adwaenost ti, fy nhad, ryw ddyn doeth a bregethai'n rhesymolach?

Rhag iti feddwl yn rhy wael am y Cymry, dylwn chwanegu bod ganddynt fwy o ddawn naturiol nag unrhyw genedl arall yng Ngogledd Ewrop, oddi-eithr y Ffrancod a'r Gwyddelod; ond o ddiffyg beiddgarwch a dyfalwch, nid yw eu dawn yn tycio dim iddynt. Nid oes ganddynt na gwyddoniaid na chelforion fel sydd gennym ni; er hynny, y mae cannwyll llygad gwyddon, a llun llygad celfor gan liaws ohonynt. Y mae ieuenctid Cymru yn dra chwannog i ymgymryd â'r pethau hynny y gellir, neu y tybir y gellir, llwyddo ynddynt yn fwyaf cyflym a didrafferth, sef pregethu, canu, a datganu. Rhaid addef nad oes raid i ddyn astudio nemor i wneud y tri pheth hyn yn gymeradwy ymhlith pobl y byddo'u barn a'u gwybodaeth yn brin. Er bod cyfnod y beirdd a chyfnod y pregethwyr, a chyfnod y cerddorion Cymreig yn cydymlapio, eto ac edrych o bell, gellir dweud bod cyfnod y beirdd wedi myned heibio, bod cyfnod y pregethwyr ar fyned heibio, a chyfnod y cerddorion yn agos i'w bwynt uchaf. Ymddengys i mi fod y pregethwyr yn gallach yn eu cenhedlaeth' na'r beirdd, canys y