Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/192

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i Brüssel. Ffoes deuddeng mil, sef y rhai mwyaf dibrofiad o'r Brytaniaid a'r rhai mwyaf anffyddlon o'r tramoriaid, i ymlechu yng nghoedwig Soignes, a rhedodd llawer hyd i Brüssel, gan gyhoeddi bod y frwydr wedi ei cholli; ac yn wir, yr oedd yn naturiol iddynt feddwl hynny, canys heblaw'r dinistr a wnaethai rhuthr Ney ar rengoedd byddin Wellington, yr oedd y Ffrancod eisoes wedi cymryd trigain o fagnelau a chwech o faneri.

Er hyn oll, fe welodd Ney mai ofer oedd iddo geisio llwyr dorri'r drydedd linell â gwŷr meirch yn unig; am hynny, ef a archodd i'r rhain gadw'u tir tra byddai fo'n anfon at yr Ymherodr i ddeisyfu gwŷr traed; ond ni allai Napoleon eu hepgor ar hyn o bryd, canys yr oedd yn amlwg erbyn hyn fod yn rhaid iddo nid yn unig ymladd â'r deng mil ar hugain o Brwsiaid oedd yn curo arno o du'r de ac o du'r dwyrain, ond hefyd ymbaratoi yn erbyn 30,000 eraill oedd yn dyfod arno o'r gogledd— ddwyrain. Gorchymyn a wnaeth o, gan hynny, i Ney gadw'i dir am ryw awr, tra byddai fo'n myned â rhan o'i warchodlu i gilgwthio'r Prwsiaid oedd yn ceisio meddiannu pentref Planchenoit o'i ôl. Ar ôl gwneud hynny'n bur effeithiol, ef a ddychwelodd gyda chwe mil o'i wŷr traed i gynorthwyo Ney ar fryn St. Jean. Fe drefnwyd tua dwy fil o'r rhain i