Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/193

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wneud yr ymosodiad cyntaf. Gan fod Wellington yn gwybod bod y Prwsiaid o dan Bülow yn dychwelyd i ail ymosod ar gefn ac ystlys y Ffrancod, a bod y Prwsiaid dan Ziethen ar ymuno ag asgell aswy'r fyddin gyfunol, ef a allodd yn ddiberyg! dynnu ei asgell aswy ato er mwyn cyfnerthu canol ei fyddin yn erbyn ymosodiad y gwarchodlu Ffrengig. Ef a ffurfiodd ei fyddin ar lun bwa, er mwyn gallu tanio ar yr ymosodwyr o bob cyfeiriad. Tanio a wnaeth hi yn effeithiol ofnadwy nes teneuo rhengau'r ymosodwyr yn fawr. Er hynny, ni syflodd y rhain ddim. Ar ôl ymwasgu ynghyd, taniasant hwythau, ac ar ôl tanio hwy a ymbaratoesant i ymosod â bidogau. Ond cyn iddynt allu gwneuthur hynny fe ymagorodd y bwa, a chyfododd y gwarchodlu Seisnig megis o'r ddaear, gan saethu i'w hwynebau bron o hyd braich. Er hynny, nid gwrthsafiad pybyr Wellington a barodd i'r adran flaenaf o'r gwarchodlu Ffrengig encilio oddi ar fryn St. Jean, eithr peth arall nad yw'r rhan fwyaf o'r hanesyddion Seisnig yn dewis sôn amdano.—Pan oedd Napoleon wrth droed y bryn yn trefnu pum bataliwn o'i hen warchodlu i fyned i gyfnerthu'r gwarchodlu iau a oedd yn ymladd dan Ney ar ben y bryn, fe welwyd bod y Prwsiaid o dan Ziethen wedi ymuno ag asgell aswy byddin Wellington, ac