Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/194

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wedi llwyddo i dorri bwlch yn llinell y Ffrancod, nes gwahanu'r Ffrancod oedd yn wynebu'r Prwsiaid o dan Bülow oddi wrth y Ffrancod oedd yn wynebu'r fyddin gyfunol dan Wellington. Ar yr un pryd fe welwyd bod y Prwsiaid oedd dan Bülow bron wedi cyrraedd yr unig ffordd y gallai'r Ffrancod encilio ar hyd—ddi tua Ffrainc. Y mae'n wir fod pelennau'r Prwsiaid yn disgyn ar y ffordd hon ers oriau, ond y pryd hwn, ar ôl cymryd ohonynt bentref Planchenoit, y gallodd y Prwsiaid beryglu'r cymundeb a oedd ar y ffordd honno rhwng yr ymladdwyr Ffrengig a'u hadnoddau. Parodd hyn gyffro a dychryn mawr ymhlith y Ffrancod. Wrth weled y Prwsiaid ar amgau o'u hamgylch, a'i bod bellach yn rhy ddiweddar i ddisgwyl ymwared oddi wrth Grouchy, hwy a frysiasant yn anhrefnus iawn i gyrraedd y ffordd y daethent ar hyd-ddi o Ffrainc. Yn y cyfamser fe orchmynnodd Wellington a Blücher i'r holl filwyr oedd danynt gerdded rhagddynt yn eu herbyn. Yr oedd y gweddill o fyddin Wellington yn rhy luddedig, ac yn rhy amddifad o farchogion i'w hymlid hwynt ymhellach na La Belle Alliance; ond fe barhaodd Blücher i'w hymlid ar hyd y nos,, gan eu lladd yn ddiarbed, a'u rhwystro i orffwys am funud awr. Dechreuodd y fyddin Ffrengig ffoi yn fuan wedi wyth o'r gloch; ond yr