Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/204

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fechan" heb allu ymgynefino â'r iau. Pe buasai Lloegr ers chwe chan mlynedd yn ddarostyngedig i Ffrainc, y mae Mr. Darlington yn rhoi ar ddeall y buasai Ffrancwr yn llefaru'n gall odiaeth pe buasai fo'n ymliw â chniw (clique) o Saeson anfoddog fel hyn: "Yn enw rheswm, pa beth sydd arnoch ei eisiau? Y mae gennych fwy na deg ar hugain o aelodau yn cynrychioli'ch tipyn gwlad yn y Tŷ Isaf ym Mharis, ac y mae'n rhydd iddynt draethu eu meddwl am bob rhyw beth sydd ar y ddaear, yn y môr, ac yn yr awyr, ond iddynt ei draethu yn iaith y Weriniaeth. Y mae amryw o gŵn Lloegr yn bwyta o'r briwsion sydd yn syrthio oddi ar fwrdd eu harglwyddi: canys y mae un Sais yn helwas i'r Blaid Chwith, ac o'i flaen ef fe fu un arall yn segur- swyddwr ynddi; ac yr oeddym yn talu iddo ddwy fil o bunnau yn y flwyddyn allan o'r trethi, yn unig er mwyn eich boddhau chwi. Ar bwys yr unrhyw drethi, yr ydym yn gallu bod yn ddigon caredig i sefydlu ysgolion Ffrengig ym mhob rhan o'ch gwlad, er mwyn dysgu'ch plant i lefaru, synio, ac i deimlo fel y Ffrancod. Y mae amryw o'ch cydwladwyr chwi eich hunain wedi ymuno â'n byddin; rhai yn eu meddwdod, rhai er mwyn cael arian i feddwi'n weddol gyson, a rhai er mwyn swyno merchetos â'u gwisg filwrol. Ac fe gollodd rhai o'r llanciau