Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/205

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Seisnig hyn eu gwerthfawr waed wrth gydymladd â'r Ffrancod dros y Weriniaeth yn Siam, yn Toncin, ac ym Madagascar; fel, pa gamwri bynnag a wnaethpwyd i helaethu terfynau'r Weriniaeth, y mae'r Saeson oll mor gyfrifol amdano â'r Ffrancod."

***

Mewn gwirionedd, y mae hanesyddiaeth a daearyddiaeth, a phopeth, yn cyd-ddywedyd ei bod yn bryd inni bellach ymuno yn un bobl fel y bydd llygod yn ymgolli mewn cathod. Yr ydym yn barod iawn i gyfeillachu â chwi—ar ein telerau ein hunain.

Y mae rhyw ochr rywiog ac ysmala, oes, i ymhongarwch y Sais; ac am hynny, mi allaf gydymdeimlo nid ychydig â'r pysgod-longwr Seisnig hwnnw a lefodd wrth weled yr un a'r unrhyw wynt yn gyrru ei long ef yn ei hôl, a llong arall o Holand yn ei blaen: "Ah! God cares far more for them furriners than he does for his own countrymen."

***

Hwy [y Saeson] a allant hela brodorion Deheubarth Affrig i ogofeydd ac yna eu chwythu yn llarpiau â phylor ac â dynamid, ac yn union wedyn hwy a sychant eu genau ac a geryddant y Twrc am nad yw o'n difetha'r Armeniaid yn y dulliau diweddaraf a mwyaf gwyddonol. Hwy a gondemni-