Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/206

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iant Ffrainc a'r Eidal a Rwsia yn dduwiolaidd iawn am ysbeilio tiroedd pobl eraill yma a thraw fel pe na baent yn cofio mai trwy ladd a lladrata yr aethant hwy eu hunain yn genedl gref. Doe, hwy a fynnent fyned i ryfel yn erbyn Rwsia am fod y deyrnas honno â'i llygad ar ryw borthladd yn eithaf y Dwyrain; heddiw hwy a fynnant ymgynghreirio â Rwsia er mwyn rhannu Asia rhyngddynt.

***

Hwy a gymhellant opiwm a gwirodydd am bris uchel ar baganiaid er mwyn cael arian i ddanfon cenhadon a Beiblau iddynt yn weddol rad. Y maent yn gwareiddio ac yn Cristioneiddio paganiaid trwy ladd a llewygu'r rhan fwyaf ohonynt, a thrwy ddysgu pechodau newyddion i'r gweddill. Os oes gan genedl o'r fath yma ymdeimlad cryf o'r digrif, yna ni wn i ddim pa beth sy ddigrif.

***

DETHOLION O SYNNEDIGAETHAU MR. DARLINGTON: GWRTHATEB." ALLAN O'R Geninen, EBRILL, 1896.

Fe fyddai'r hyn sydd yn wladgarwch yn Scandinafia yn garn-fradwriaeth yng Nghymru, ac y mae'r pethau sy ddamnedig yn Nhir y Twrc yn bethau canmoladwy yn Nhir y Matabeliaid.

O "DDEUDDEG CŴYN MR. DARLINGTON." ALLAN O'R Geninen, HYDREF, 1896.