Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fod cloron yn bethau pur anhreuliadwy, y mae'n rhaid i Paddy wrth Holman's Pad yn dra mynych ar ei gnawd. O achos hynny, medd dysgedigion, y gelwir ef yn Paddy.

Preswylia Mr. Bully mewn palas mawr a gwych, a'i enw Anglestay. Ar godiad tir, y tu hwnt i wal orllewinol parc Anglestay, fe saif preswylfod etifeddol Ywain Taffi. Nid yw'r tŷ, mwy na'r tir, yn helaeth; ac o'r braidd y gellir dweud ei fod yn hardd. Ond y mae'n hawddgar iawn yr olwg, serch hynny; pe amgen, ni ladratesid ef, mi a debygaf. Ni ellir ei weled o bell, gan faint y derw sydd o'i amgylch; cuddir ei furiau ymron i gyd gan eiddew, ac y mae'r rhannau moel ohonynt yn llwyd gan henaint.

Ni raid i ddyn ond cerdded rhagddo encyd tua machlud haul, ac yna rhwyfo tros lain o ddwfr, na chaiff ei hun yn Erin; sef, hen etifeddiaeth eang Daniel Paddy. Cymerwyd ei dreftadaeth yntau oddi arno gan yr Ahab gan Bully. Y mae ei dŷ yn awr yn furddyn, a'i dir fel diffaethwch. Ni chaiff ddiwyllio ei dir ar ei delerau ei hun, ac ni fynn ei ddiwyllio ar delerau ei ysbeilwyr. Dyn gwlatgar ac annibynnol ei ysbryd yw Paddy, a dweud y gwir amdano. Er codi a machlud o'r haul laweroedd o weithiau er pan ysbeiliwyd ef, ni pheidiodd eto â