Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

thystio mai ef yw union berchen Erin; naddo, er cael ei alw yn gynhyrfwr, yn wrthryfelwr, ac yn fradwr am wneud hynny. Nid un a ddychrynir gan eiriau Disraelaidd ydyw ef. Ni chred ef fod dinoethi lladrad yn waeth peth na lladrata. Ni chred chwaith fod rhediad amser yn troi eiddo lladrad yn eiddo cyfreithlon. Prin y gellir disgwyl, gan hynny, i greadur gwirion fel ef deimlo grym un o ddeng air deddf llywodraethwyr y byd hwn; sef yw hwnnw, "Nac unioner cam er mwyn cyfiawnder yn unig." Eddyf Mr. Bully ei hun ambell Sabath, am ryw achos neu'i gilydd, ac i ryw ddiben neu'i gilydd, ddarfod iddo, ers talm, wneuthur cam â Phaddy. Ond (ebe Paddy) os ydyw yn cyffesu, paham nad edifarha; os ydyw yn edifarhau, paham nad uniona'r cam a wnaeth? A ydyw ei Feibl yn cyfiawnhau ei ymddygiad tuag ataf? Nac ydyw, Paddy, nac ydyw; ond y mae Mr. Bully weithiau yn gweled yn dda esbonio ei Feibl yn ôl ei ewyllys ei hun.

Ond y mae'n ddiamau y byddai'n well gan y darllenydd glywed y tri phenteulu hyn yn ymddiddan â'i gilydd, na'm clywed i yn ymddiddan â hwynt. Er mwyn peri deall yr ymddiddan, dylwn yn gyntaf oll, pa fodd bynnag, fynegi ddarfod i Paddy, ryw ddiwrnod, yn ôl ei arfer, ddweud a