T. Ie, rhoddir ychwaneg o'i hanes a'i glod yn y llyfrau isod.[1]
P. Onid oedd pawb trwy Gymru yn parchu y gwr hwn, gan nad oedd yn terfynu ei haelioni i rai o'i farn ei hun, ond yn gwneyd daioni i bawb hyd y gallai?
T. Yr oedd Mr. Gouge am wneyd y daioni allai i eneidiau dynion, ac ni chlywais i lai nad oedd y Cymry, o bob barn, yn cael eu rhan o'i haelioni ef. Eto ynghylch ugain mlynedd wedi marw Mr. Gouge, mae gwr yn dangos ei anfoddlonrwydd i Dr. Tillotson am ganmol cymaint ar Mr. Gouge yn y bregeth a nodwyd, gan roi ar ddeall mai ffrwyth pennaf llafur y gwr da yng Nghymru oedd amlhau'r Presbyteriaid, y rhai nid oedd ond ychydig o honynt yn y wlad o'r blaen.[2] Mae hyn yn gymwys, fel yr oedd Dr. Calamy, am amser Mr. Vavasour Powel, mai troi'r dynion yn Ailfedyddwyr oedd yr amcan.[3] Nid da yw beio dynion defnyddiol fel hyn. Naturiol ddigon a rhesymol yw i ddynion y rhai a fyddo Duw yn eu mawr arddel, gael llawer o ganlynwyr; ac ond odid y maent hefyd yn cael llawer o elynion.
Stephen Hughes.
P. Mae'n debyg fod Mr. Hughes a Mr. Gouge yn ddefnyddiol iawn i ddwyn y Cymry i ddarllen, ac i gael llyfrau iddynt.
T. Dywedir i Mr. Hughes argraffu gerllaw ugain o lyfrau Cymraeg, a'r rhan fwyaf o honynt