Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/94

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wedi eu cyfieithu o'r Saesneg.[1]. Yr oedd y ddau wr hyn yn dra haelionus eu hunain ac yn annog llawer ar ereill. Dywedir i Mr. Gouge farw yn 1681; ond i Mr. Hughes fyw i weled eisiau Beiblau drachefn, ac iddo barotoi tuag at gael argraffiad arall, ond iddo farw o gylch 1687, cyn gorffen y gwaith hwnnw.[2]

  1. "Ejected Ministers,"P. 718, &c
  2. "Historical Account," P, 47.